Chwilio am swydd

Mae dwy ffordd y gallwch chwilio am dros 400,000 o swyddi gwag a gynhelir gan y Ganolfan Byd Gwaith ar-lein; y ffordd gyntaf yw defnyddio cyfleuster chwiliad gwaith y Ganolfan Byd Gwaith drwy'r wefan hon gan ddewis Chwilio am Swydd, yna Dod o Hyd i Swydd; a'r ail ffordd yw drwy fynd yn wefan Directgov. Mae gan y ddau safle mynediad i'r un swyddi gwag ond maent yn cynnig meini prawf chwiliad gwaith gwahanol, felly gallwch ddewis yr un sy'n fwyaf addas i'ch anghenion.

Mae llawer o sefyllfaoedd lle gallech fod yn chwilio am waith, ac mae gan bawb anghenion, sgiliau a chyfrifoldebau gwahanol. Mae llawer o fathau gwahanol o swyddi, ac mae amrywiaeth o help ar gael. Mae'r adran hon yn sôn am y cymorth y gallech ei gael.

Gwaith sy'n addas i'ch anghenion

Os na allwch weithio'n llawn amser neu os nad ydych am wneud hynny, mae opsiynau eraill ar gael. Dyma rai enghreifftiau.

Ai gwaith yw'r unig opsiwn?

Os ydych yn ddi-waith, gallai hyfforddiant neu addysg bellach fod yn gam gwerth chweil tuag at gyflawni nod tymor hir. Nid ar gyfer pobl sy'n gadael yr ysgol yn unig y mae hyfforddiant. Mae cyfle bob amser i ddatblygu gyrfa, dysgu crefft, neu weithio tuag at gymhwyster proffesiynol drwy hyfforddiant pellach ar gyfer y dyfodol.

Gall ymgynghorydd personol y Ganolfan Byd Gwaith roi cyngor i chi sy'n seiliedig ar eich amgylchiadau personol, a gallant helpu i wneud yn siwr eich bod yn cael y cymorth y mae gennych hawl i'w gael. Gall eich ymgynghorydd ofyn i chi gymryd rhan mewn cyfweliad i ganfod y ffordd orau o ddefnyddio eich sgiliau a'ch profiad. Byddwch hefyd yn canfod a allwch gael cymorth ariannol tra byddwch yn chwilio am waith.