Rhagor o wybodaeth am y Fargen Newydd, gan gynnwys rhaglen 'Y Fargen Newydd Hyblyg'. Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn cynnig nifer o raglenni’r Fargen Newydd i helpu pobl ddi-waith, yn enwedig y rheini sydd wedi bod yn ddi-waith am amser hir, pobl ag anableddau ac unrhyw un sydd angen help ychwanegol i ddod o hyd i waith.
Nod y Fargen Newydd yw eich helpu i ddod o hyd i swydd os ydych yn ddi-waith. Cewch y cyfle i hyfforddi, dysgu a gwneud profiad gwaith er mwyn i chi:
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid i chi gymryd rhan yn y Fargen Newydd. Os bydd angen i chi gymryd rhan a’ch bod yn gwrthod, gallech golli budd-daliadau. Dilynwch y ddolen ‘Pryd mae’n rhai i chi gymryd rhan yn y Fargen Newydd’ am ragor wybodaeth.
Pryd mae’n rhaid i chi gymryd rhan yn y Fargen Newydd
O fis Hydref 2009, bydd rhaglen bresennol y Fargen Newydd yn cael ei disodli gan raglen wahanol o’r enw 'Y Fargen Newydd Hyblyg' yn yr ardaloedd canlynol:
CymruDilynwch y ddolen 'Y Fargen Newydd Hyblyg' i gael rhagor o wybodaeth.
Mae rhai o raglenni’r Fargen Newydd yn wirfoddol a, cyn belled â’ch bod yn gymwys, gallwch benderfynu cymryd rhan neu beidio. Gallwch gael manylion am bob rhaglen drwy ddefnyddio’r ddolenni isod.
Y Fargen Newydd ar gyfer Pobl Anabl
Y Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol
Y Fargen Newydd ar gyfer Partneriaid
Y Fargen Newydd ar gyfer Pobl 50 oed a throsodd
Un o nodau’r Fargen Newydd a’r Fargen Newydd Hyblyg yw sicrhau eich bod yn well eich byd mewn gwaith nag y byddech ar fudd-daliadau. Bydd eich ymgynghorydd personol yn gallu eich helpu i weithio allan pa gyflog sydd ei angen arnoch o swydd heb i chi golli allan.
Sut y bydd gwaith yn effeithio ar fy mudd-dal?Os dewch o hyd i waith drwy’r Fargen Newydd neu’r Fargen Newydd Hyblyg, mae rhai budd-daliadau y gallwch barhau i’w cael. Bydd eich ymgynghorydd personol yn gallu rhoi gwybodaeth i chi amdanynt.
Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith i gael rhagor o wybodaeth am y Fargen Newydd a’r Fargen Newydd Hyblyg
Dewch o hyd i'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol
Credydau trethOs ydych yn dod o hyd i swydd a’ch bod yn ennill cyflog isel, efallai y byddwch yn gallu cael credydau treth. Os byddwch yn gymwys, gallech gael rhagor o arian.