Y Ganolfan Byd Gwaith
Pwy ydym
Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn un o asiantaethau’r llywodraeth sy’n cynorthwyo pobl o oedran gwaith o fudd-dal i waith, ac yn helpu cyflogwyr i lenwi’u swyddi gwag. Rydym yn rhan o’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ac yn chwarae rôl arwyddocaol wrth ategu nod yr Adran i ‘hyrwyddo cyfleoedd ac annibyniaeth i bawb drwy gyfrwng gwasanaethau modern sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid’.
Rydym yn anelu i ddarparu gwasanaeth o safon uchel ac effeithlon i'n holl gwsmeriaid. Mae Siarter Cwsmer Yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gosod allan y safonau y gallwch ddisgwyl gennym a beth yw eich cyfrifoldebau chithau.
Siarter DWP
Ein hamcanion
Ein prif hamcanion yw:
- Cynyddu'r gwaith o gyflenwi llafur yn effeithiol drwy hyrwyddo gwaith fel y ffurf gorau ar les a helpu pobl ddi-waith a phobl economaidd anweithgar i symud i mewn i gyflogaeth
- Gweithio tuag at ganlyniadau cydradd ar gyfer cwsmeriaid o leiafrifoedd ethnig
- Talu'r budd-dal cywir i gwsmeriaid ar yr adeg gywir ac amddiffyn y system fudd-daliadau rhag twyll, gwall a chamddefnydd
- Darparu gwasanaethau o ansawdd uchel yn ôl y galw i gyflogwyr, sy'n helpu i lenwi swyddi gwag yn gyflym ac yn effeithiol gyda chyflogeion sydd wedi paratoi'n dda ac sy'n llawn cymhelliant
- Helpu pobl sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf i gyflogaeth i gystadlu'n effeithiol yn y farchnad lafur ac i symud i mewn i waith ac aros yno
- Gwella ansawdd, hygyrchedd a darpariaeth gwasanaethau i bob cwsmer yn barhaus
- Sicrhau bod pobl sy'n cael budd-daliadau oedran gwaith yn cyflawni eu cyfrifoldebau ar yr un pryd â darparu help a chymorth priodol i'r rhai sydd heb waith
- Gwella cynhyrchiant, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd cyffredinol y Ganolfan Byd Gwaith