Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Cwsmeriaid
*
*Budd-daliadau oedran gweithioBack up a level (javascript:nodelink(196))
 
Beth ddylech ei wybodPrawf o HunaniaethGwneud cais newydd neu ailgais am fudd-dal
Edrych ymlaen a chynllunio ar gyfer y dyfodolHysbysu newid mewn amgylchiadau 
 
     
   *

Grant Gofal Cymunedol

Beth yw Grant Gofal Cymunedol?

Swm o arian di-dreth yw hwn nad oes rhaid i chi ei dalu'n ôl. Gall Grant Gofal Cymunedol helpu pobl i ymdopi ag anawsterau arbennig.

Ar gyfer beth mae hwn?

Gallai Grant Gofal Cymunedol eich helpu i:

  • symud yn ôl i'r gymuned ar ôl bod mewn gofal
  • aros yn eich cartref yn lle mynd i mewn i ofal
  • sefydlu cartref yn y gymuned, ar ôl dilyn ffordd o fyw ansefydlog (fel rhan o raglen sydd wedi'i chynllunio i'ch adsefydlu)
  • gofalu am garcharor neu droseddwr ifanc pan fydd yn gadael y carchar ar drwydded dros dro
  • lleddfu pwysau eithriadol arnoch chi a'ch teulu, neu
  • talu am gostau teithio penodol fel mynd i angladd aelod o'r teulu neu ymweld â rhywun sy'n sâl.

Bydd y ffurflen gais y byddwch yn ei llenwi yn eich helpu i gael yr holl wybodaeth gywir.

A allaf gael Grant Gofal Cymunedol?

Efallai y gallech gael Grant Gofal Cymunedol os ydych yn cael:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm
  • Credyd Pensiwn
  • taliad oherwydd un o'r budd-daliadau neu hawliadau hyn, neu
  • os rydych yn mynd i adael gofal o fewn y chwe wythnos nesaf ac rydych yn debygol o gael un o'r budd-daliadau hyn pan fyddwch yn gadael.

Faint y gallaf ei gael?

Byddwn yn talu'r hyn y byddwn yn ei feddwl sy'n iawn ar gyfer y pethau rydych yn gwneud cais amdanynt ac efallai y byddwn yn edrych dros y costau gyda chi os byddant yn ymddangos yn ormod.

Ni allwn dalu grant sy'n llai na £30 oni bai ei fod am gostau teithio.

Beth sydd angen i mi ei wneud nesaf?

Gallwch lawrlwytho ffurflen Grant Gofal yn y Gymuned

Gallwch lawrlwytho ffurflen Grant Gofal yn y Gymuned mewn fformat PDF. Mae'r ffurflen yn cynnwys nodiadau a fydd yn eich helpu i'w llenwi. Nid yw'r ffurflenni hyn yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon.

icon PDF Grant Gofal yn y Gymuned, argraffwch i'w chwblhau â phen (117kb)

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn y daflen 'Y Gronfa Gymdeithasol

PDF icon Y Gronfa Gymdeithasol (792.88kb)

Cymorth gyda PDFs

Pryd y gallaf wneud cais?

Dylech wneud cais cyn gynted ag y bydd angen rhywbeth arnoch. Os ydych mewn gofal ac y bydd angen rhywbeth arnoch pan fyddwch yn gadael, gallwch wneud cais hyd at chwe wythnos cyn y dyddiad y disgwylir y byddwch yn gadael.

Penderfyniadau ac Adolygiadau

Anghytuno gyda'n penderfyniad benthyciad neu grant?

   


* Merch
*

Gwybodaeth Defnyddiol

Ceisiwch am swydd dros y ffôn trwy Ceiswyr Gwaith Uniongyrchol

Eisiau gwybod mwy am Y Fargen Newydd?

Taflenni a chanllawiau'r Ganolfan Byd Gwaith

icon PDF Cyfraddau Budd-daliadau a Phensiynau (373.68kb)











*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*