|
|
||||
| Cwsmeriaid | ||||
| ||||
A yw’r Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol yn addas i mi?Gallwch ymuno â’r Fargen Newydd os ydych yn magu plant ar eich pen eich hun fel rhiant unigol – os yw eich plentyn ifancaf o dan 16 mlwydd oed ac nad ydych yn gweithio neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos. Beth yw’r Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol?Mae’r Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol yn rhaglen wirfoddol a gynlluniwyd yn arbennig i helpu rhieni unigol i mewn i waith. Mae’n cynnig pecyn o gymorth i’ch helpu i symud tuag at ddyfodol mwy diogel i chi a’ch plant. Os byddwch yn dewis cymryd mantais o’r hyn sydd ar gael drwy ymuno â’r Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol, bydd ymgynghorydd personol yn eich helpu drwy’r camau o ddod o hyd i swyddi a gwneud cais amdanynt. Bydd eich ymgynghorydd hefyd yn cynnig help a chyngor ymarferol ar ddod o hyd i ofal plant a hyfforddiant. Bydd eich ymgynghorydd hefyd yn gallu dweud wrthych sut y caiff eich budd-daliadau eu heffeithio pan fyddwch yn dechrau gweithio ac yn eich helpu i wneud cais am unrhyw fudd-daliadau mewn gwaith neu gredydau treth. Eich dewis chi yw cymryd rhan ai peidio. Mae rhaglen y Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol yn darparu cymaint o help ag sydd ei angen arnoch i symud i mewn i waith. Beth am ddarganfod yr hyn y gallai cynnig i chi? Gwasanaethau Ychwanegol ar gyfer Rhieni Unigol. I gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglenni a'n gwasanaethau, cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith. |








