|
|
||||
| Partneriaid | ||||
| ||||
Newidiadau pwysig i bobl sy’n hawlio budd-daliadau neu lwfansau gan y Ganolfan Byd GwaithFel rhan o nod y Ganolfan Byd Gwaith i gyflenwi ein gwasanaethau yn fwy effeithlon ac effeithiol, cyflwynir newid gan y Project Cyfnodoldeb a Diwrnod Talu a fydd yn symleiddio’r broses o dalu’r rhan fwyaf o fudd-daliadau Oedran Gweithio'r Ganolfan Byd Gwaith. Yn dechrau ym mis Ebrill 2009 bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn unioni ac yn ymestyn cyfnodau talu ar gyfer y mwyafrif o fudd-daliadau Oedran Gweithio, gan neilltuo un diwrnod budd-dal diwedd yr wythnos i bob unigolyn, er waeth pa fudd-daliadau a gânt, gan dalu ôl-ddyledion bob pythefnos i gwsmeriaid ar gyfer budd-dal diwedd yr wythnos a benderfynir gan rif Yswiriant Gwladol y cwsmer. Crynodeb o’r CynigionCaiff y newid hwn ei wneud mewn tri cham ar y pryd, sef:
Bydd pob cais newydd ac ail-geisiadau yn gorfod bodloni trefniadau cyfnodoldeb newydd o 6 Ebrill 2009. Bydd trosglwyddo ceisiadau presennol yn cymryd dros ddwy flynedd gan ddechrau ar 6 Ebrill 2009 a disgwylir i’r gwaith orffen erbyn diwedd mis Mawrth 2011. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn symud pob cwsmer i ddiwrnod budd-dal diwedd wythnos a benderfynir gan ddau rif olaf eu rhif YG fel a ganlyn: 00 - 19 = dydd Llun 20 - 39 = dydd Mawrth 40 - 59 = dydd Mercher 60 - 79 = dydd Iau 80 - 99 = dydd Gwener Manteision y newidBydd y mesur hwn yn symleiddio’r broses o dalu holl fudd-daliadau Oedran Gweithio'r Ganolfan Byd Gwaith. Gwneir taliadau i gwsmeriaid ar yr un diwrnod o’r wythnos waeth pa fudd-dal a gânt, a fydd yn hwyluso’r broses o symud rhwng budd-daliadau. Nod y newidiadau yw lleihau costau trafod arian yr holl fudd-daliadau a helpu i leihau’r cymhlethdod yn y system budd-daliadau bresennol. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y newid hwn, anfonwch e-bost at y tîm Project Cyfnodoldeb a Diwrnod Cyflog yn; sheffield.paydayproject@jobcentreplus.gsi.gov.uk a byddwn yn ceisio ateb eich ymholiad. Bydd tudalen we ar gael yn fuan ar wefan Directgov a byddwn yn rhoi’r cyswllt hwn cyn gynted ag y bydd ar gael. |





