Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Cyflogwyr
     
   *

Cwestiynau a ofynnir yn aml

Isod ceir enghreifftiau o gwestiynau a ofynnir amlaf am wasanaethau ar gyfer pobl anabl a chyflogwyr.

Er bod enghreifftiau o atebion wedi’u cynnwys, os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ychwanegol, neu os na nodir eich cwestiwn penodol chi yma, cysylltwch a'r Ymgynghorydd Gwaith i’r Anabl (DEA) yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith/Canolfan Gwaith leol, neu cysylltwch a'ch Tim Gwasanaeth Anabledd lleol.

C. Mae gennyf anabledd ac rwyf yn cael trafferth dod o hyd i waith. Ble gallaf gael help?

A. Cysylltwch a'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith/Canolfan Gwaith leol a gofyn am gael apwyntiad gyda’r Ymgynghorydd Gwaith i’r Anabl (DEA). Gall y DEA drafod eich sefyllfa gyflogaeth gyda chi a chytuno ar y math mwyaf priodol o gymorth i’ch cynorthwyo i mewn i waith.

C. Rwyf yn berson anabl ac rwyf yn poeni y byddaf yn colli fy swydd oherwydd effeithiau fy anabledd ar y gwaith a wnaf. Pwy all roi cyngor i mi ar sut i gadw fy swydd?

A. Cysylltwch a'r Ymgynghorydd Gwaith i’r Anabl (DEA) yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith/Canolfan Gwaith leol. Gall y DEA roi cyngor ymarferol i chi (ac i’ch cyflogwr os yn briodol) ar ailgynllunio swydd ac addasiadau o fewn y gweithle. Gallai’r DEA, neu Ymgynghorydd Mynediad at Waith, hefyd awgrymu cyfnod o Baratoi at Waith er mwyn helpu i oresgyn yr anawsterau sy’n effeithio ar eich gwaith.

C. A ddylwn grybwyll fy anabledd i gyflogwr wrth wneud cais am swyddi?

A. O dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd mae’n anghyfreithlon i gyflogwyr wahaniaethu yn erbyn pobl anabl yn eu gweithdrefnau recriwtio a dethol. Er nad yw’n anghyfreithlon gofyn cwestiynau am iechyd neu anabledd ar ffurflen gais, neu i gynnwys holiadur iechyd ar wahan, mae’n anghyfreithlon defnyddio’r ymatebion mewn ffordd sy’n gwahaniaethu.

Trafodwch hyn gydag Ymgynghorydd Gwaith i’r Anabl. Gallant roi cyngor i chi ar y ffordd orau o esbonio eich addasrwydd ar gyfer swydd a phwysleisio eich galluoedd mewn unrhyw geisiadau am swyddi a wnewch.

C. Rwyf yn gyflogwr sydd a chyflogai anabl sy’n cael anhawster ymdopi a'u swydd ar hyn o bryd. Pa help sydd ar gael i mi a’m cyflogai?

A. Gall yr Ymgynghorydd Gwaith i’r Anabl (DEA) yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith/Canolfan Gwaith leol ymweld a chi a’ch cyflogai yn y gweithle (os yn briodol) a rhoi cyngor a chymorth ymarferol i chi i gynyddu rhagolygon y cyflogai o gadw eu swydd. Dengys profiad y gall costau addasiadau o ran arian ac amser fod yn llawer llai na chostau recriwtio cyflogai newydd. Hwyrach y dymunwch ystyried patrymau gweithio mwy hyblyg i’ch cyflogai, seibiannau gyrfa neu ddarparu cyfleusterau gweithio gartref. Gallwch ganfod lleoliad eich DEA agosaf drwy gysylltu a'ch Tim Gwasanaeth Anabledd lleol.

C. Rwyf wedi cael cynnig swydd ond mae fy narpar gyflogwr a minnau’n pryderu ai hon yw’r swydd addas i mi. A oes unrhyw help ar gael?

A. Os oes gennych chi neu eich cyflogwr unrhyw bryderon ynghylch a yw’r swydd yn addas i chi, gofynnwch am y Cynllun Cyflwyno Swydd (JIS) gan y DEA yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith/Canolfan Gwaith leol. Mae’r JIS yn talu grant o £75 yr wythnos i’r cyflogwr am 6 wythnos gyntaf eich cyflogaeth er mwyn helpu gyda chostau cyflogi a hyfforddi. Rhaid gwneud cais am JIS cyn i chi ddechrau yn y swydd.

C. Rwyf wedi clywed am y rhaglen Mynediad at Waith. Sut gallai fy helpu i fel cyflogwr?

A. Gall helpu i oresgyn problemau ymarferol yn y gweithle sy’n deillio o unrhyw anabledd. Gall eich Ymgynghorydd AtW ddweud wrthych sut y gall AtW eich helpu chi ac unrhyw gyflogeion anabl ond, am gyfnod byr, gall gynnwys grant tuag at gostau cyflogaeth a ddaw yn sgil anabledd. Cysylltwch a'ch Tim Gwasanaeth Anabledd lleol a all eich rhoi mewn cysylltiad gydag Ymgynghorydd AtW.

C. Mae gennyf anabledd, sut gall y rhaglen Mynediad at Waith fy helpu?

A. Os yw eich anabledd neu’ch cyflwr iechyd yn debygol o bara am 12 mis neu fwy a’i fod yn effeithio ar y math o waith y gallwch ei wneud (yn cynnwys hunangyflogaeth), gallech fod yn gymwys i gael rhywfaint o help ymarferol yn y gweithle. Cysylltwch a'ch Tim Gwasanaeth Anabledd lleol a all eich rhoi mewn cysylltiad ag Ymgynghorydd AtW.

C. Rwyf ar fin dechrau ar gwrs hyfforddi ond mae angen offer arbennig arnaf i’m helpu i ymdopi. A all Mynediad at Waith helpu?

A. Mae AtW ar gael i bobl mewn gwaith a thal neu bobl sydd ar fin dechrau mewn gwaith a thal. Siaradwch a'r darparwr hyfforddiant ynglyn a pha help y gallant ei ddarparu yn ystod eich hyfforddiant.

C. Os bydd y rhaglen Mynediad at Waith yn darparu offer i mi yn y gweithle, pa mor hir y bydd yn rhaid i mi aros amdano?

A. Y nod yw rhoi’r help sydd ei angen arnoch i chi cyn gynted a phosibl. Os yw’n debygol o gymryd amser, gall yr Ymgynghorydd AtW drafod atebion amgen dros dro gyda chi a’ch cyflogwr.

C. Mae gennyf anabledd ac rwyf wedi clywed am CAM AT WAITH. Sut byddaf yn gwybod ei fod yn addas i mi?

A. Gall y DEA yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith/Canolfan Gwaith leol ddweud mwy wrthych am CAM AT WAITH sydd ar gyfer pobl anabl sy’n wynebu rhwystrau mwy cymhleth at waith oherwydd eu hanabledd.

C. Rwyf wedi clywed am Gynllun Rhyngwaith Remploy. Ym mha ffordd y mae’n berthnasol i mi?

A. Mae’r Rhyngwaith yn bartneriaeth dair ffordd rhwng cyflogwr, person anabl a Remploy. Mae Remploy’n gweithio’n agos gyda’r unigolyn er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth cywir er mwyn sicrhau y gallant ddod o hyd i waith o fewn y farchnad agored. Gallant dderbyn cymorth gyda recriwtio, hyfforddi, chwiliad gwaith a chlybiau swyddi, hyfforddiant mewn swydd ac ati. Mae Remploy hefyd yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr er mwyn sicrhau y gall cleientiaid ddod o hyd i waith mewn amrywiaeth eang o sectorau diwydiannol a rolau galwedigaethol. I gael gwybod mwy am Remploy, ymwelwch a'u gwefan ar www.remploy.co.uk neu gallwch eu ffonio ar 02476 515 800.

C. A oes gan wefannau’r Gwasanaeth Anabledd unrhyw gysylltiadau a sefydliadau anabledd a gwefannau eraill?

A. Drwy brif dudalennau’r Ganolfan Byd Gwaith ar y we, rydym wedi’n cysylltu i nifer o safleoedd yn cynnwys: gwefannau’r RNIB, RNID, yr Adran Gwaith a Phensiynau a gwefannau Dysgu a Workbank. Mae ein tudalennau CAM AT WAITH hefyd wedi’u cysylltu a thudalennau Remploy ar y we.

Er nad ydym wedi’n cysylltu’n uniongyrchol a nifer fawr o wefannau, gallwch gysylltu ag amrywiaeth eang o sefydliadau drwy ymweld a gwefan y Comisiwn Hawliau Anabledd ar www.drc-gb.org

C. Beth yw Credyd Treth Person Anabl?

Mae Credyd Treth Person Anabl (DPTC) yn helpu rhai pobl gyda phroblemau iechyd neu anabledd i ddechrau mewn gwaith neu i ddychwelyd i waith, neu i barhau yn eu swydd bresennol.

Mae’r DPTC yn gredyd treth anghyfrannol sy’n gysylltiedig ag incwm sy’n ddi-dreth. Fe’i gweinyddir gan Gyllid y Wlad ac yn y mwyafrif o achosion, caiff ei dalu gan eich cyflogwr drwy’r pecyn cyflog. Mae’r credyd treth gofal plant, sy’n ffurfio rhan o’r DPTC, yn darparu help gyda chostau gofal plant. Mae’n werth hyd at 70% o gostau gofal plant cymwys hyd at uchafswm o £135 (£94.50) yr wythnos i deuluoedd sy’n talu costau gofal plant ar gyfer un plentyn, a £200 (£140) i deuluoedd sy’n talu am ofal plant ar gyfer dau blentyn neu fwy.

I wneud cais am y Credyd Treth Person Anabl rhaid i chi fod yn gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos a’ch bod naill ai yn derbyn neu wedi bod yn derbyn budd-dal cymhwyso ar gyfer un o’r diwrnodau yn y cyfnod chwe mis cyn eich cais. Dyfernir y credyd treth am gyfnodau o 26 wythnos ar y tro ac ni fydd newid mewn amgylchiadau fel arfer yn effeithio arno.

I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch:

Llinell Gymorth Credyd Treth: 0845 605 5858

Ffôn testun: 0845 608 8844

Codir cyfraddau lleol am bob galwad.

   


* *
*

Gwyboddaeth Defnyddiol

Gwirio Statws Gweithwyr Mudol

Cyhoeddiadau Canolfan Byd Gwaith

DDA - Deddf Gwahaniaethu Ar Sail Anabledd – Dyletswyddau Newydd










*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*