|
|
||||||||||
| Cyflogwyr | ||||||||||
| ||||||||||
| ||||||||||
Hysbysebu Swyddi GwagYn y Ganolfan Byd Gwaith rydym yn cynnig Gwasanaethau Hysbysebu Swyddi Gwag proffesiynol, modern am ddim er mwyn sicrhau bod y bobl gywir yn gweld eich swyddi. Cynlluniwyd ein gwasanaethau i fusnesau fel eich busnes chi eich hun sy’n gofyn am hyblygrwydd a dibynadwyedd. P’un ag ydych am lenwi un swydd wag neu sawl un, gallwn eich helpu i gyrraedd y bobl dalentog sydd eu hangen arnoch drwy hysbysebu eich swyddi i dros 2 filiwn o bobl bob wythnos. Mae gennym yr opsiynau cywir i’ch galluogi i hysbysebu eich swyddi gwag heddiw. Ar-lein
Dros y ffôn
Darllenwch y wybodaeth gyfredol am gostau galwadau Unwaith y caiff eich swydd wag ei chofrestru gyda’r Ganolfan Byd Gwaith, gall ymgeiswyr ei gweld ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith, prif wefan recriwtio y DU ac yn ein canghennau lleol. Ar hyn o bryd, mae dros 1,500,000 o chwiliadau swyddi yn cael eu cynnal bob diwrnod gwaith. Bydd unrhyw un sy’n darllen y wybodaeth am y swydd wag yn gweld eich manylion ac yn gallu cysylltu â chi’n uniongyrchol yn y ffordd a ddewisiwch e.e. ffôn, llythyr neu CV. Rydym yn rhan o Wasanaethau Cyflogi Ewrop (EURES) sy’n golygu y caiff eich swydd wag ei hysbysebu ledled Ewrop ar EURES, banc swyddi Ewrop ac mae hefyd yn bosibl hysbysebu swyddi gwag dramor sy’n agored i ymgeiswyr o Brydain Fawr. Os hoffech gael rhagor o gymorth i lenwi eich swydd wag ac rydych yn barod i ystyried ffyrdd o gynnig cyfle i grobnfa ehangach o dalent, gallwch drafod yr opsiynau sydd ar gael drwy ein Gwasanaethau Recriwtio Ymgynghorol gyda’ch ymgynghorydd lleol. Gall cyflogwyr y dyfernir y Symbol Analedd iddynt fel cydnabyddiaeth am eu hymrwymiad i arfer da wrth gyflogi pobl anabl, arddangos y symbol ar eu hysbysebion swydd. Mae ein gwasanaethau ar gael i bob cyflogwr sydd â swyddi gwag cyfreithiol weithio yn y DU, gan gynnwys Asiantaethau Recriwtio. |





