Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Cwsmeriaid
*
*Budd-daliadau oedran gweithioBack up a level (javascript:nodelink(196))
 
Beth ddylech ei wybodPrawf o HunaniaethGwneud cais newydd neu ailgais am fudd-dal
Edrych ymlaen a chynllunio ar gyfer y dyfodolHysbysu newid mewn amgylchiadau 
 
     
   *

Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Angen prynu pethau i fabi newydd?

Beth yw Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn?

Mae hwn yn un taliad i helpu i dalu am bethau sydd eu hangen arnoch ar gyfer babi newydd os ydych ar incwm isel.

Mae'r grant yn un di-dreth ac nid oes rhaid i chi ei dalu'n ôl.

A allaf gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn?

Efallai y gallwch gael un o'r grantiau hyn os disgwylir i'ch babi neu fabi eich dibynnydd gael ei eni'n fuan, neu os cafodd ei eni yn ystod y tri mis diwethaf.
Gallwch hawlio hefyd:

  • os ydych wedi mabwysiadu babi bach yn ddiweddar
  • o dan amgylchiadau penodol, os ydych wedi cael gorchymyn preswylio ar gyfer babi, neu
  • os ydych wedi cael gorchymyn rhieni ar gyfer baban a anwyd i rywun arall.

Mae'n rhaid i chi, neu eich partner, fod yn cael un o'r budd-daliadau hyn.

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Gwaith sy'n cynnwys elfen anabledd neu anabledd difrifol
  • Credyd Treth Plant, ar gyfradd sy'n uwch na'r elfen deuluol

Pryd y gallaf wneud cais?

  • Os ydych chi neu'ch dibynnydd yn disgwyl babi neu wedi cael babi yn ddiweddar, mae'n rhaid i chi wneud cais yn ystod y cyfnod o 11 wythnos cyn y disgwylir i'r babi gael ei eni hyd nes bydd y babi yn 3 mis oes.
  • Os ydych yn mabwysiadu babi neu os ydych wedi cael gorchymyn preswylio mewn perthynas â babi, gallwch wneud cais am grant ar yr amod nad yw'r babi dros 12 mis oed pan fyddwch yn gwneud cais. Mae'n rhaid i chi wneud cais o fewn tri mis o'r dyddiad y gwnaethoch fabwysiadu neu'r gorchymyn preswylio.
  • Os ydych chi a'ch cymar wedi cael gorchymyn rhieni ar gyfer baban a anwyd i rywun arall mae'n rhaid i chi wneud cais o fewn tri mis i ddyddiad y gorchymyn rhieni.

Os ydych wedi gwneud cais am un o'r budd-daliadau y dylech fod yn eu cael i gael y grant hwn a'ch bod yn aros am benderfyniad, mae'n rhaid i chi wneud cais o fewn y terfynau amser uchod o hyd.

Beth yw’r cyfraddau budd-dal?

Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn: £500.00

Beth sydd angen i mi ei wneud nesaf?

Gallwch lawrlwytho ffurflen Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Gallwch lawrlwytho ffurflen Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn mewn fformat PDF. Mae’r ffurflen yn cynnwys nodiadau a fydd yn eich helpu i’w llenwi cyn dweud wrthych ble i anfon y ffurflen wedi’i chwblhau. Nid yw’r ffurflen hon yn gymwys i Ogledd Iwerddon.

PDF icon Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn, argraffwch i’w chwblhau â phen (226kb)

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn y daflen 'Y Gronfa Gymdeithasol

icon PDF Y Gronfa Gymdeithasol (792.88kb)

Cymorth gyda PDFs

Penderfyniadau ac Adolygiadau

Anghytuno gyda'n penderfyniad benthyciad neu grant?

   


* Merch
*

Gwybodaeth Defnyddiol

Ceisiwch am swydd dros y ffôn trwy Ceiswyr Gwaith Uniongyrchol

Eisiau gwybod mwy am Y Fargen Newydd?

Taflenni a chanllawiau'r Ganolfan Byd Gwaith

icon PDF Cyfraddau Budd-daliadau a Phensiynau (373.68kb)











*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*