Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Cwsmeriaid
*
*Chwilio am swyddBack up a level (javascript:nodelink(943))
 
Pobl Ifanc 
 
 
     
   *

Chwilio am swydd

Mae dwy ffordd y gallwch chwilio am dros 400,000 o swyddi gwag a gynhelir gan y Ganolfan Byd Gwaith ar-lein; y ffordd gyntaf yw defnyddio cyfleuster chwiliad gwaith y Ganolfan Byd Gwaith drwy'r wefan hon gan ddewis Chwilio am Swydd, yna Dod o Hyd i Swydd; a'r ail ffordd yw drwy fynd yn wefan Directgov. Mae gan y ddau safle mynediad i'r un swyddi gwag ond maent yn cynnig meini prawf chwiliad gwaith gwahanol, felly gallwch ddewis yr un sy'n fwyaf addas i'ch anghenion.

Mae llawer o sefyllfaoedd lle gallech fod yn chwilio am waith, ac mae gan bawb anghenion, sgiliau a chyfrifoldebau gwahanol. Mae llawer o fathau gwahanol o swyddi, ac mae amrywiaeth o help ar gael. Mae'r adran hon yn sôn am y cymorth y gallech ei gael.

Gwaith sy'n addas i'ch anghenion

Os na allwch weithio'n llawn amser neu os nad ydych am wneud hynny, mae opsiynau eraill ar gael. Dyma rai enghreifftiau.

  • Gwaith dros dro - gallech weithio mewn swydd am gyfnod penodol o amser - fel arfer fel rhan o brosiect arbennig neu i gyflenwi swydd aelod parhaol o staff.
  • Gwaith rhan amser - ffordd dda o weithio o amgylch cyfrifoldebau eraill tra'n cael arian a phrofiad.
  • Gweithio hyblyg - weithiau bydd cyflogwyr yn cytuno ar drefniadau gweithio hyblyg. Gallai hyn olygu dewis eich amseroedd dechrau a gorffen eich hun, neu weithio oriau hirach ar rai dyddiau fel y gallwch gymryd mwy o amser i ffwrdd.
  • Gweithio yn ystod tymor ysgol - gallai bod i ffwrdd yn ystod gwyliau'r ysgol fod yn ddelfrydol os oes gennych blant a'u bod yn yr ysgol.
  • Gweithio yn ystod y gwyliau - opsiwn ymarferol os ydych yn parhau i astudio.
  • Rhannu swydd - weithiau gall dau berson rannu un swydd llawn amser. Chwiliwch am swyddi a hysbysebir fel rhannu swydd. Neu, os hoffech rannu swydd gyda rhywun rydych yn ei adnabod, gallech bob amser awgrymu'r syniad i'ch cyflogwr.
  • Hunangyflogaeth - mae gweithio i chi eich hun yn cynnig hyblygrwydd a'r math cywir o her i rai pobl. Ond bydd gennych gyfrifoldebau ychwanegol - er enghraifft, talu eich treth incwm eich hun.
  • Gwaith gwirfoddol - mae gweithio'n ddi-dâl yn ffordd o gael profiad gwaith a gwybodaeth am faes sydd o ddiddordeb i chi.

Ai gwaith yw'r unig opsiwn?

Os ydych yn ddi-waith, gallai hyfforddiant neu addysg bellach fod yn gam gwerth chweil tuag at gyflawni nod tymor hir. Nid ar gyfer pobl sy'n gadael yr ysgol yn unig y mae hyfforddiant. Mae cyfle bob amser i ddatblygu gyrfa, dysgu crefft, neu weithio tuag at gymhwyster proffesiynol drwy hyfforddiant pellach ar gyfer y dyfodol.

Gall ymgynghorydd personol y Ganolfan Byd Gwaith roi cyngor i chi sy'n seiliedig ar eich amgylchiadau personol, a gallant helpu i wneud yn siwr eich bod yn cael y cymorth y mae gennych hawl i'w gael. Gall eich ymgynghorydd ofyn i chi gymryd rhan mewn cyfweliad i ganfod y ffordd orau o ddefnyddio eich sgiliau a'ch profiad. Byddwch hefyd yn canfod a allwch gael cymorth ariannol tra byddwch yn chwilio am waith.

   


* Woman and her son looking at job adverts
*










*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi ...

 Chwilio am swydd nawr

  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
Directgov logo
  *  
*   Cysylltwch â'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Pensiwn
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn Unig
Ymwadiad
 
*