|
|
||
| Cwsmeriaid | ||
Beth yw'r Fargen Newydd ar gyfer pobl ifanc?Bydd y Fargen Newydd ar gyfer pobl ifanc yn eich helpu i ddod o hyd i swydd a’i chadw neu weithio i chi eich hun. Bydd yn eich helpu i wella’r sgiliau sydd gennych ac i ddysgu sgiliau newydd. Tra byddwch ar y Fargen Newydd ar gyfer pobl ifanc byddwch yn cael cymorth a chefnogaeth gan eich ymgynghorydd personol. Bydd yn eich helpu i edrych ar yr hyn y gallwch ei wneud, ac i adeiladu ar y sgiliau sydd gennych. Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, a’ch bod rhwng 18 a 24 oed, mae’n rhaid i chi gymryd rhan yn y Fargen Newydd ar gyfer pobl ifanc er mwyn parhau i gael rhywfaint o’ch budd daliadau oni bai fod gennych reswm da dros beidio â chymryd rhan. A yw'r Fargen Newydd ar gyfer pobl ifanc yn addas i mi?Os ydych rhwng 18 a 24 oed ac wedi bod yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith am 6 mis neu fwy, mae'n rhaid i chi gymryd rhan yn y Fargen Newydd ar gyfer pobl ifanc. Os ydych chi a'ch ymgynghorydd personol yn penderfynu ei bod am y gorau, gallech hyd yn oed ymuno os ydych wedi bod yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith am llai na 6 mis.
I gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglenni a'n gwasanaethau, cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith. |





