|
|
||
| Cwsmeriaid | ||
Gwnewch gais am swydd dros y ffônGallwch siarad ag un o’n hymgynghorwyr sydd â mynediad at ein holl swyddi gwag. Gall y gwasanaeth paru swyddi hwn eich helpu i ddod o hyd i swydd barhaol, dros dro, llawn amser neu ran amser. Gallwn eich hysbysu am swyddi gwag yn eich ardal leol a thu hwnt. Os oes gennych ddiddordeb mewn swydd, gallwn roi cyngor i chi ar sut i wneud cais, anfon ffurflen gais atoch a, ble y bo’n bosibl, ffonio’r cyflogwr i drefnu cyfweliad. Ffoniwch 0845 6067 890 neu os ydych yn fyddar, yn drwm eich clyw neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, ffoniwch ein ffôn testun ar 0845 6044 022. Os ydych am ddefnyddio’r gwasanaeth Saesneg ffoniwch ni ar 845 6060 234 neu os ydych yn fyddar, yn drwm eich clyw neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, ffoniwch ein ffôn testun ar 0845 6044 255. Mae’r llinellau ar agor rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 9am a 1pm ddydd Sadwrn. |




