Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Cwsmeriaid
     
   *

Cwestiynau a ofynnir yn aml Rhifau Yswiriant Gwladol

Sut gallaf wneud cais am rif Yswiriant Gwladol?

Yn anffodus, ni allwn ddelio â cheisiadau am rifau yswiriant gwladol ar-lein ar hyn o bryd. Os oes angen rhif yswiriant gwladol arnoch chi neu’ch partner er mwyn gwneud cais am fudd-daliadau, caiff hyn ei wneud fel rhan o’r broses gwneud cais – ffoniwch 0800 0121 888 (8.00am i 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener) i wneud cais am fudd-dal. Mae gwasanaeth ffôn testun ar gael os oes gennych nam ar eich lleferydd neu ar eich clyw ar 01248 674808.

Os ydych yn dechrau gwaith, yn hunangyflogedig neu am dalu gyfraniadau gwirfoddol YG dylech ffonio 0845 600 0643.

Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am Rifau Yswiriant Gwladol a’r broses gwneud cais yn adran Rhif YG gwefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Sut y gallaf newid fy enw, cyfeiriad a manylion eraill ar fy nghofnodion Yswiriant Gwladol?

Ffoniwch y Llinell Gymorth Cofrestru Yswiriant Gwladol ar 0845 915 7006.

Nid wyf yn gallu dod o hyd i’m rhif Yswiriant Gwladol – beth y dylwn ei wneud?

Yn gyntaf edrychwch ar bapurau swyddogol fel slipiau cyflog, ffurflenni treth, gohebiaeth swyddogol i weld os yw’r rhif wedi ei gynnwys arnynt.

Os na allwch ddod o hyd iddo ffoniwch y Llinell Gymorth Cofrestru Yswiriant Gwladol ar 0845 915 7006 a gofynnwch am 'Lythyr Cadarnhau’ eich rhif Yswiriant Gwladol.

Rwyf wedi colli fy ngherdyn rhif Yswiriant Gwladol neu mae wedi cael ei ddwyn. Beth y dylwn ei wneud?

Archebwch gerdyn newydd drwy ffonio’r Llinell Gymorth Cofrestru Yswiriant Gwladol ar 0845 915 7006.

Rwyf wedi derbyn fy rhif Yswiriant Gwladol ond heb gael fy ngherdyn. Sut y gallaf gael un?

Ffoniwch y Llinell Gymorth Cofrestru Yswiriant Gwladol ar 0845 915 7006.

Nid wyf yn gallu dod o hyd i’m rhif Yswiriant Gwladol – beth y dylwn ei wneud?

Mae Rhifau Yswiriant Gwladol yn cael eu cynhyrchu yn awtomatig pan fydd Budd-dal Plant wedi cael ei dalu i blentyn; dosberthir y rhifau pan fydd plentyn yn 15 mlynedd a 9 mis oed.

Os nad ydych eisoes wedi derbyn eich cerdyn Yswiriant Gwladol yn fuan ar ôl cyrraedd 15 mlynedd a 9 mis oed, ffoniwch y Llinell Gymorth Cofrestru Yswiriant Gwladol ar 0845 915 7006.

   


* Group of people
*

Gwybodaeth Defnyddiol

Gwnewch gais am swydd dros y ffôn

Gwnewch gais am swydd drwy deledu digidol?

Cyhoeddiadau Canolfan Byd Gwaith

icon PDF Ein safonau gwasanaeth (176kb)

Cylchgronau

ysbrydoliaeth

ysbrydoliaeth

Cymorth gyda ffeiliau PDF

Cysylltiadau Defnyddiol 

Sut y gall Directgov eich helpu chi. Gwyliwch y fideo a chael mwy o wybodaeth











*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi ...

 Chwilio am swydd nawr

  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
Directgov logo
  *  
*   Cysylltwch â'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Pensiwn
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn Unig
Ymwadiad
 
*