|
|
||
| Cwsmeriaid | ||
Dewch o hyd i’ch ffordd nôl i’r gwaith gyda’r Ganolfan Byd Gwaith.Mae’r Ganolfan Byd Gwaith am eich helpu i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Hyd yn oed mewn dirywiad economaidd, mae llawer o swyddi ar gael. Yn y cyfamser, byddwn yn camu i mewn drwy dalu budd-daliadau i chi a’ch helpu i chwilio am waith neu ddysgu sgiliau newydd. Ydw i’n gymwys i gael budd-dal?Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) yw’r prif fudd-dal ar gyfer pobl ddi-waith. Pan fyddwch yn gwneud cais newydd neu ail gais, gallwn drefnu i ymgynghorydd eich helpu i chwilio am swydd: Dewch i weld pa fudd-daliadau rydych yn gymwys i’w cael. Sut galla i ddod o hyd i waith eto?Mae llawer o gyflogwyr yn hysbysebu swyddi gwag ar-lein ac yn gofyn i chi wneud cais ar-lein. Er mwyn cael gwybodaeth am y swyddi gwag diweddaraf, bydd angen i chi:
Mae gan y Ganolfan Byd Gwaith y gronfa ddata fwyaf o swyddi gwag. Ar gyfartaledd, mae 400,000 o swyddi ar gael ar unrhyw bryd. Chwiliwch am swydd nawr. Gallwch hefyd chwilio am swydd ar Directgov. Mae’r ddwy wefan yn cynnwys yr un swyddi gwag ond maent yn cynnig meini prawf chwilio gwahanol, felly gallwch ddewis yr un sy’n gweddu orau i’ch anghenion. Rydym hefyd wedi cynhyrchu pecyn swyddi sy’n cynnig cymorth defnyddiol i ddod o hyd i waith; mae’n cynnwys awgrymiadau i lunio CV a chyfweliad a gwybodaeth i’ch helpu i oresgyn unrhyw bryderon sydd gennych, dod o hyd i’r swydd rydych yn chwilio amdani a’i chael. Neu gallwch ddefnyddio’r Mannu Swyddi pan fyddwch yn ymweld â swyddfa’r Ganolfan Byd Gwaith. Neu gallwch ein ffonio a siarad ag un o’n hymgynghorwyr. Ydych chi erioed wedi ystyried gweithio i chi eich hun?Os oes gennych syniad am fusnes ond ddim yn gwybod ble i ddechrau mae rhagor o wybodaeth ar gael. Beth os wyf eisiau neu angen ailhyfforddi?Gall adnewyddu eich sgiliau neu ddysgu rhai newydd gynyddu eich cyfle i ddod o hyd i swydd newydd Gall y Ganolfan Byd Gwaith roi cyngor i chi ar eich opsiynau. Yn dibynnu ar eich oedran a'ch cymwysterau efallai y gallwch fynd ar gyrsiau am ddim. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar sgiliau a hyfforddiant yma. |





