Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Cwsmeriaid
*
*Beth ddylech ei wybodBack up a level (javascript:nodelink(198))
 
Symud i mewn i waithNewidiadau Diwrnod Talu 
 
     
   *

Beth dylech ei wybod

Beth sy'n digwydd yn y Ganolfan Byd Gwaith?

Bob tro y byddwch yn dod i swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith byddwn yn:

  • Siarad am yr hyn rydych wedi ei wneud i ddod o hyd i waith
  • Siarad am eich Cytundeb Ceisio Gwaith, a
  • Gwneud yn siwr eich bod ar gael o hyd ac wrthi'n chwilio am waith.

Er mwyn cael Lwfans Ceisio Gwaith, rhaid i chi:

Bod ar gael i weithio

Bod â siawns rhesymol o ddod o hyd i waith os byddwch yn cyfyngu ar:

  • Y math o waith rydych yn fodlon ei wneud
  • Ble rydych yn fodlon gweithio
  • Yr oriau rydych yn fodlon eu gweithio

Bod yn gallu gweithio

Meddu ar Gytundeb Ceisiwr Gwaith cyfredol a

Bod wrthi'n chwilio am waith.

Os ydych yn gwneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith fel rhan o gais ar y cyd, weithiau gallwch barhau i gael Lwfans Ceisio Gwaith hyd yn oed os na allwch fodloni'r amodau hyn. Gallai hyn fod os ydych:

  • Yn gofalu am rywun arall
  • Yn analluog i weithio neu,
  • Yn astudio am 16 awr yr wythnos neu fwy pan fyddwch yn gwneud eich cais ar y cyd.

Mae rhai rhesymau eraill pam y gallech gael eich esgusodi.

Byddwn yn gofyn i chi ddangos beth rydych wedi ei wneud i ddod o hyd i waith yn rheolaidd.

Cadwch gofnod o'r hyn rydych wedi ei wneud i ddod o hyd i waith.

Gallai eich Lwfans Ceisio Gwaith gael ei effeithio:

  • Os nad ydych yn gwneud digon i ddod o hyd i waith
  • Os byddwch yn methu â mynd i gyfweliad yn ôl y gofyn, neu
  • Os byddwch yn mynd yn analluog i weithio.

Os na allwch gwrdd â'ch ymgynghorydd personol neu os nad ydych yn barod i weithio

Mewn rhai achosion efallai y byddwn yn penderfynu nad yw cyfarfod yn addas. Neu efallai y byddwn yn penderfynu ei ohirio tan ddyddiad diweddarach, er enghraifft os ydych yn rhy sâl neu os ydych wedi cael profedigaeth yn ddiweddar. Os byddwn yn gofyn i chi gymryd rhan yn y cyfarfod gydag ymgynghorydd personol, rhaid i chi wneud hynny a rhoi rhywfaint o wybodaeth sylfaenol i ni am eich amgylchiadau. Ni allwch gael budd-dal os na fyddwch yn gwneud hyn fel arfer. Os bydd yr ymgynghorydd personol yn penderfynu na wnaethoch fynychu neu gymryd rhan mewn cyfarfod, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.

Os ydych yn hawlio budd-daliadau eraill ar wahân i Lwfans Ceisio Gwaith, gallwch benderfynu p'un a ydych am chwilio am waith ai peidio. Ni fyddwn yn gofyn i chi chwilio am swydd na derbyn swydd os na fyddwch yn teimlo bod hynny'n addas i chi ar hyn o bryd. Gallwch hawlio budd-dal drwy'r Ganolfan Byd Gwaith o hyd ar yr amod eich bod wedi cymryd rhan yn y cyfarfod gyda'ch ymgynghorydd personol.

Sut y byddaf yn cael fy nhalu?

Mae’n well gennym dalu budd-daliadau i mewn i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel. Mae'n caniatáu i chi ddewis sut a phryd y cewch eich arian. Gall eich cyfrif fod gyda banc, cymdeithas adeiladu neu Swyddfa’r Post®. Os nad ydych am i ni wneud hyn, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith.

Symud i mewn i waith

Os dewch o hyd i swydd a'ch bod yn ennill incwm isel, gallech gael Credyd Treth Gwaith. Gallech hefyd gael Credyd Treth Plant os oes gennych blant. I gael gwybodaeth am gredydau treth, ewch i www.hmrc.gov.uk neu ffoniwch 0845 300 3900.

Gallai fod hawl gennych hefyd i gael mathau eraill o help ariannol pan fyddwch yn dechrau gweithio.

Grant Swyddi - taliad untro di-dreth o £250 ar gyfer rhieni unigol a chyplau â phlant, neu £100 ar gyfer cwsmeriaid sengl a chyplau heb blant.

Dilyniant o Log Morgais, Taliad Estynedig Treth Cyngor a Thaliad Estynedig Budd-dal Tai - cymorth i bobl a fyddai'n colli eu budd-daliadau pe baent yn dechrau gweithio.

Os ydych yn gweithio, gallech fod yn gymwys o hyd i gael help gyda'ch rhent neu Dreth Cyngor drwy Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'ch awdurdod lleol.

Mwy o wybodaeth am Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor

Beth fydd yn digwydd i'm budd-daliadau pan fyddaf yn dod o hyd i swydd?

Gallai fod yn rhaid i chi roi'r gorau i gael rhai o'ch budd-daliadau os byddwch yn dod o hyd i swydd, ond gallech gael mathau eraill o gymorth hefyd - fel Credyd Treth Gwaith.

Os na fydd eich swydd yn llwyddiant a bod yn rhaid i chi wneud cais am fudd-daliadau eto o fewn 12 wythnos, gallech wneud cais am yr un budd-daliadau ag yr oeddech yn eu cael cyn i chi ddechrau gweithio. Gallwn eich helpu i wneud yn siwr nad ydych ar eich colled yn ariannol a dweud wrthych sut y gallai effeithio ar eich budd-daliadau.

   


* Two men sitting at a desk
*

Gwybodaeth Defnyddiol


Ceisiwch am swydd dros y ffôn trwy Ceiswyr Gwaith Uniongyrchol

Eisiau gwybod mwy am Y Fargen Newydd?

Taflenni a chanllawiau'r Ganolfan Byd Gwaith

Cylchgronau

ysbrydoliaeth










*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  * Hyfforddwr Swyddi
  *  
*   Swyddi ...

 Chwilio am swydd nawr

  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
Directgov logo
  *  
*   Cysylltwch â'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Pensiwn
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn Unig
Ymwadiad
 
*