Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Cwsmeriaid
*
*Gwneud cais newydd neu ailgais am fudd-dalBack up a level (javascript:nodelink(198))
     
   *

Gwneud cais newydd neu ailgais am fudd-dal

Gallwch nawr ein ffonio ar ein rhif newydd i wneud cais am fudd-dal.

Ffôn: 0800 0 12 18 88

Ffôn testun: 01248 674 808 os ydych yn fyddar, yn drwm eich clyw, neu os oes gennych anawsterau ar eich lleferydd.

Darllenwch y wybodaeth bresennol a, Gostau Galwadau

Mae'r llinellau ffôn ar agor rhwng 8am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Bydd yr alwad yn cymryd o leiaf 40 munud.

Dylech ffonio o'ch:

  • cartref, os yn bosibl; neu
  • rhywle arall lle y byddwch yn gyfforddus a lle na all pobl eraill glywed eich gwybodaeth bersonol.

Byddwch yn siarad â gweithredydd a fydd yn esbonio'r broses o wneud cais newydd neu adnewyddu manylion cais sydd wedi cau yn ddiweddar. Yn ystod yr alwad, gofynnir i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol gan gynnwys:

  • Eich rhif Yswiriant Gwladol;
  • Manylion am eich rhent neu'ch morgais;
  • Manylion am eich cyflogaeth yn y gorffennol neu'ch cyflogaeth bresennol;
  • Manylion am incwm a chynilion eraill.

Sicrhewch fod gennych y wybodaeth hon wrth law pan fyddwch yn ffonio.

Bydd y gweithredydd yn dweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf gyda'ch cais. Er enghraifft, mae'n bosibl y bydd yn trefnu apwyntiad i chi weld ymgynghorydd yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith agosaf i'ch helpu i ddod o hyd i waith. Gallant hefyd ddweud wrthych â phwy y dylech gysylltu â hwy os bydd gennych gwestiwn am eich budd-dal.

Dim ond galwadau gan berson sydd am wneud cais y gallwn eu derbyn, oni bai eich bod wedi gwneud tefnianadau gyda ni i rywun arall weithredu ar eich rhan.

Gwnewch Gais Ar-lein

Gallwch wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith ar-lein

Gallwch wneud cais am Gymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Fudd-dal Analluogrwydd ar-lein

Os ydych yn hawlio Lwfans Mamolaeth, Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol neu Fudd-daliadau Profedigaeth, neu Lwfans Gofalwr nid oes angen i chi gwrdd ag ymgynghorydd personol oni bai eich bod am wneud hynny neu os ydych am hawlio budd-daliadau eraill drwy’r Ganolfan Byd Gwaith.

   


* Woman using telephone
*

Gwybodaeth Defnyddiol

Gwnewch gais am swydd dros y ffôn

Eisiau gwybod mwy am Y Fargen Newydd?

Taflenni a chanllawiau'r Ganolfan Byd Gwaith

Cylchgronau

ysbrydoliaeth











*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  * Hyfforddwr Swyddi
  *  
*   Swyddi ...

 Chwilio am swydd nawr

  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
Directgov logo
  *  
*   Cysylltwch â'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Pensiwn
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn Unig
Ymwadiad
 
*