Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Cwsmeriaid
*
*Budd-daliadau oedran gweithioBack up a level (javascript:nodelink(196))
 
Beth ddylech ei wybodPrawf o HunaniaethGwneud cais newydd neu ailgais am fudd-dal
Edrych ymlaen a chynllunio ar gyfer y dyfodolHysbysu newid mewn amgylchiadau 
 
     
   *

Cael help i wneud eich taliadau llog morgais

Efallai y gall perchnogion tai sy’n cael budd-daliadau penodol gael help tuag at daliadau llog morgais a elwir yn Gymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI). Cewch wybod os ydych yn gymwys, sut i hawlio SMI a pha gymorth ychwanegol sydd ar gael yn ystod y dirywiad economaidd.

SMI - beth ydyw a phwy sy'n gymwys

Efallai y byddwch yn cael help gyda thaliadau llog morgais fel rhan o'ch budd-daliadau os ydych yn berchennog ty ac yn gymwys ar gyfer:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm
  • Credyd Pensiwn

Ar gyfer morgais neu fenthyciad i brynu neu wella eich cartref yn unig y cewch help tuag at daliadau llog morgais. Caiff ei dalu’n uniongyrchol i'ch benthyciwr fel arfer. Nid oes sicrwydd y cewch SMI am fenthyciad y byddwch yn ei drefnu.

Cewch wybod am fudd-daliadau y gallech fod yn gymwys i’w cael drwy ddilyn y cysylltiadau isod.

Cymhorthdal Incwm
Lwfans Ceisio Gwaith
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Credyd Pensiwn (Directgov)

Beth na chaiff ei gynnwys yn yr SMI

Nid yw’r SMI ar gael i helpu i dalu:

  • y swm rydych yn ei fenthyg (dim ond y llog ar y morgais sy’n cael ei dalu)
  • unrhyw beth tuag at bolisïau yswiriant sydd gennych
  • ôl-ddyledion morgais

Gwneud cais am SMI a chael atebion i’ch cwestiynau

Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith neu'r Gwasanaeth Pensiwn i:

  • wirio eich cymhwyster
  • hawlio help i wneud eich taliadau llog morgais
  • Gofyn am y daflen IS8 (Home owners- help with housing costs)

Cysylltwch â’r Canolfan Byd Gwaith
Cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn

Newidiadau i SMI yn ystod y dirywiad economaidd

Mae help ychwanegol dros dro wedi bod ar gael drwy SMI ers 5 Ionawr 2009 oherwydd y dirywiad economaidd.

Amodau sy'n berthnasol i SMI ers 5 Ionawr, 2009

Mae yna rai amodau sy'n berthnasol i'r rhan fwyaf o’r hawliadau am help gyda’ch llog morgais a wnaed ers 5 Ionawr 2009:

  • rydych yn aros 13 wythnos o'r dyddiad y byddwch yn hawlio cyn i chi gael SMI (gelwir hyn yn gyfnod aros ac roedd yn arfer bod am 39 neu 26 wythnos)
  • gallwch hawlio llog morgais am hyd at £200,000 o’ch morgais (roedd hyn yn arfer bod yn £100,000)
  • os ydych wedi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ar neu ar ôl 5 Ionawr 2009, cewch SMI am ddwy flynedd yn unig
  • os oeddech yn dal i fod yn y cyfnod aros i gael SMI o dan yr hen amodau ar 4 Ionawr 2009, byddwch yn gymwys i gael yr help ychwanegol dros dro

Nodwch, y Gyfradd Llog Safonol a ddefnyddir i gyfrif SMI, wedi cael ei rewi ar 6.08% ar gyfer holl gwsmeriaid SMI hyd mis Mehefin 2010.

O 5 Ionawr 2010 estynnwyd help i grŵp penodol o gwsmeriaid:

  • sy’n gwneud cais am un o'r budd-daliadau a grybwyllir uchod ar neu ar ôl 5 Ionawr 2009
  • Nad oedd â’r hawl i'r budd-dal hyd nes daeth eu costau tai yn daladwy

Ni ellir ôl-ddyddio’r taliadau hyn, ond mae'r Llywodraeth wedi cytuno i wneud taliadau statudol ychwanegol i fynd i'r afael â diffygion posib a gododd rhwng 5 Ionawr, 2009 a 4 Ionawr 2010.

Bydd manylion y cynllun taliad statudol ychwanegol yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir. Mae’r Ganolfan Byd Gwaith wedi cadw manylion o'r rhai yr effeithir arnynt, a bydd yn cael ei gysylltu â chwsmeriaid uniongyrchol maes o law.

Os oes gennych gwestiynau am yr amodau hyn, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith neu’r Gwasanaeth Pensiwn drwy ddilyn y cysylltiadau canlynol.

Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith
Cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn

Os ydych yn hawlio Credyd Pensiwn - amodau sy'n berthnasol i SMI

Os ydych yn hawlio Credyd Pensiwn, mae amodau penodol sy'n berthnasol i hawlio help tuag at daliadau llog morgaos, sef:

  • nid oes cyfnod aros cyn i chi gael help gyda thaliadau llog morgais
  • gallwch hawlio ar gyfer llog morgais ar hyd at £100,000 o’ch morgais

Symud i Gredyd Pensiwn o fudd-daliadau eraill

Gallwch gael help gyda’ch llog morgais ar hyd at £200,000 o’ch morgais os byddwch yn symud ymlaen i Gredyd Pensiwn o fewn 12 wythnos o derfynu cais am:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm

Gallwch barhau i gael yr un faint o help os byddwch yn dal yn gymwys i gael Credyd Pensiwn.

SMI - beth oedd ar gael cyn y dirywiad economaidd

Roedd gwahanol amodau yn gymwys i SMI hyd at 5 Ionawr 2009 - cyn i amodau newydd gael eu cyflwyno o ganlyniad i’r dirywiad economaidd. Os cawsoch help i wneud taliadau llog morgais cyn y dyddiad hwn, byddwch yn parhau i gael yr un lefel o help.

Amodau sy'n berthnasol i SMI cyn 5 Ionawr, 2009

Mae’r amodau canlynol yn berthnasol i hawliadau SMI cyn 5 Ionawr 2009:

  • gallwch ond hawlio llog morgais am hyd at £100,000 o’ch morgais
  • os gwnaethoch gymryd morgais neu fenthyciad gwella'r cartref ar ôl 2 Hydref 1995, mae cyfnod aros o 39 wythnos - os byddwch yn gymwys, byddwch yn cael SMI o wythnos 40

SMI - os ydych yn 'agored i niwed' neu wedi cymryd benthyciad cyn 2 Hydref 1995

Mae amodau penodol sy'n gymwys i chi gael help gyda'ch llog morgais os gwnaethoch gais cyn 5 Ionawr 2009 ac:

  • rydych yn cael eich ystyried fel rhywun sy’n agored i niwed, e.e. rhiant unigol sy’n hawlio budd-dal oherwydd bod eich partner wedi eich gadael
  • gwnaethoch gymryd benthyciad cyn 2 Hydref 1995

Os cewch eich ystyried fel rhywun sy’n agored i niwed, neu os gwnaethoch gymryd benthyciad cyn 2 Hydref 1995:

  • ni chewch unrhyw help gyda thaliadau llog morgais ar gyfer wyth wythnos gyntaf eich cais
  • cewch 50 y cant o'r llog morgais ar gyfer y 18 wythnos nesaf
  • cewch 100 y cant o'r llog morgais o'r 27ain wythnos

Os ydych am wybod os cewch eich ystyried fel rhywun sy’n agored i niwed, cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith drwy ddilyn y cyswllt isod.

Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith

   


* Merch
*

Gwybodaeth Defnyddiol

Ceisiwch am swydd dros y ffôn trwy Ceiswyr Gwaith Uniongyrchol

Eisiau gwybod mwy am Y Fargen Newydd?

Taflenni a chanllawiau'r Ganolfan Byd Gwaith

icon PDF Cyfraddau Budd-daliadau a Phensiynau (373.68kb)











*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*