Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Cwsmeriaid
*
*Budd-daliadau oedran gweithioBack up a level (javascript:nodelink(196))
 
Beth ddylech ei wybodPrawf o HunaniaethGwneud cais newydd neu ailgais am fudd-dal
Edrych ymlaen a chynllunio ar gyfer y dyfodolHysbysu newid mewn amgylchiadau 
 
     
   *

Penderfyniadau ac Adolygiadau

Anghytuno gyda'n penderfyniad benthyciad neu grant?

Beth os wyf am gael gwybod mwy am y penderfyniad neu os credaf ei fod yn anghywir?

Os byddwch yn teimlo fel hyn am y penderfyniad ar eich cais am Grant Gofal Cymunedol, Benthyciad Trefnu neu Fenthyciad Argyfwng, gallwch gysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith a gofyn i ni egluro'r penderfyniad.

Os credwch ei fod yn anghywir, gallwch ysgrifennu atom i ofyn am adolygiad. Efallai y byddwch am wneud hyn os ydych:

  • yn credu bod yr unigolyn a benderfynodd yn gwybod yr holl ffeithiau
  • yn credu bod y penderfyniad yn anghywir, neu y gwnaed camgymeriad
  • yn credu bod y gyfraith wedi'i chymhwyso'n anghywir, neu
  • yn anfodlon â'r canlyniad.

Sut ydw i'n gofyn am adolygiad?

Anfonwch lythyr wedi'i lofnodi yn gofyn am adolygiad i'r Ganolfan Byd Gwaith o fewn 28 diwrnod ers y dyddiad ar eich llythyr penderfyniad. Dywedwch wrthym pam nad ydych yn cytuno â'r penderfyniad.

Dim ond pan fydd rhesymau arbennig y gallwn roi mwy o amser i gael adolygiad. Os byddwch yn anfon eich llythyr ar ôl 28 diwrnod, dywedwch wrthym pam ei fod yn hwyr.

Os na allwn newid y penderfyniad i'r un rydych am ei gael, byddwn yn cynnig cyfweliad i chi. Bydd hyn fel arfer yn digwydd dros y ffôn ond gall fod wyneb yn wyneb. Byddwn yn egluro ein penderfyniad a gallwch ddweud wrthym beth arall y credwch y dylem wybod.

Ar ôl i ni siarad â chi, byddwn yn adolygu eich achos.

  • Os gellir newid y penderfyniad, byddwn yn anfon llythyr penderfyniad newydd atoch.
  • Os na ellir newid y penderfyniad, byddwn yn ysgrifennu atoch yn egluro pam.

Beth os byddaf yn dal yn anfodlon?

Gallwch wneud cais i un o Arolygwyr y Gronfa Gymdeithasol adolygu eich achos.

Gall yr Arolygydd edrych ar eich achos a:

  • cytuno gyda'r penderfyniad
  • gofyn i ni edrych arno eto, neu
  • gwneud ei benderfyniad ei hun.

Bydd yn ysgrifennu atoch yn egluro beth yw ei benderfyniad a pham.

Sut y gallaf wneud cais am adolygiad gan un o Arolygwyr y Gronfa Gymdeithasol?

Cysylltwch â'r Gwasanaeth Adolygu Annibynnol o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad newydd.

Gallwch naill ai anfon llythyr wedi'i lofnodi neu gwblhau ffurflen IRS1W yn gofyn iddynt am adolygiad. Dylai copi o'r ffurflen hon fod wedi'i hanfon gyda'ch llythyr penderfyniad newydd. Os na fydd hyn wedi digwydd, gallwch ofyn i'r Ganolfan Byd Gwaith am un.

Dywedwch wrth y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol pam nad ydych yn cytuno â'r penderfyniad.

Gallant roi mwy o amser i chi ofyn am adolygiad yn unig pan fydd gennych resymau arbennig. Os byddwch yn anfon llythyr neu ffurflen IRS1W ar ôl 28 diwrnod, sicrhewch eich bod yn dweud wrthynt pam ei fod yn hwyr.

Anfonwch eich llythyr neu'ch ffurflen IRS1W i:

Independent Review Service

Freepost

4th Floor

Centre City Podium

5 Hill Street

Birmingham

B5 4UB

Os bydd rhywun yn ysgrifennu'r llythyr neu'n llenwi'r ffurflen ar eich rhan, mae'n rhaid i chi gytuno'n ysgrifenedig iddynt wneud hyn, oni bai eich bod eisoes wedi penodi'r unigolyn hwn i wneud hawliadau budd-daliadau ar eich rhan.

   


* Merch
*

Gwybodaeth Defnyddiol

Ceisiwch am swydd dros y ffôn trwy Ceiswyr Gwaith Uniongyrchol

Eisiau gwybod mwy am Y Fargen Newydd?

Taflenni a chanllawiau'r Ganolfan Byd Gwaith

icon PDF Cyfraddau Budd-daliadau a Phensiynau (373.68kb)











*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*