Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Cwsmeriaid
*
*Budd-daliadau oedran gweithioBack up a level (javascript:nodelink(196))
 
Beth ddylech ei wybodPrawf o HunaniaethGwneud cais newydd neu ailgais am fudd-dal
Edrych ymlaen a chynllunio ar gyfer y dyfodolHysbysu newid mewn amgylchiadau 
 
     
   *

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Beth yw Lwfans Cyflogaeth a Chymorth?

Disodlodd Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Budd-dal Analluogrwydd a Chymhorthdal Incwm, a dalwyd oherwydd salwch, neu anabledd, ar gyfer ceisiadau o 27 Hydref 2008. Os ydych yn cael y budd-daliadau hyn byddwch yn parhau i’w cael, cyhyd ag y byddwch yn bodloni’r amodau cymhwyso.

Er bydd y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar gyfer cwsmeriaid newydd yn unig. Byddwch yn gymwys i gael cymorth sy’n canolbwyntio ar waith a fydd ar gael gyda’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a gallwch ddefnyddio hyn ar sail wirfoddol.

Mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn ffordd newydd o helpu pobl sydd â salwch neu anabledd symud i mewn i waith, os gallant wneud hynny.

Mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cynnig cymorth personol a help ariannol, er mwyn i chi allu gwneud gwaith addas, os ydych yn abl i wneud hynny.

Gallwch gael ymgynghorydd a hyfforddwyd yn arbennig ac ystod eang o wasanaethau pellach gan gynnwys cyflogaeth, hyfforddiant a chymorth rheoli cyflyrau, i’ch helpu i reoli ac ymdopi â’ch salwch neu’ch anabledd yn gyd-destun gwaith.

Wrth wraidd y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yw asesiad meddygol newydd sef Asesiad Gallu i Weithio sy’n asesu'r hyn y gallwch ei wneud, yn hytrach na’r hyn na allwch ei wneud, ac mae’n nodi pa gymorth sy’n gysylltiedig ag iechyd fydd eu hangen arnoch.

Disgwylir i’r rhan fwyaf o bobl sy’n hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cymryd y camau addas i’w helpu i baratoi am waith, gan gynnwys mynychu cyfres o gyfweliadau sy’n canolbwyntio ar waith gyda’u hymgynghorydd personol.

O dan y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os oes gennych salwch neu anabledd sy’n effeithio sylweddol ar eich gallu i weithio, cewch gymorth ariannol cynyddol ac ni ddisgwylir i chi ddychwelyd i waith; fodd bynnag, gallwch wirfoddoli i wneud hynny.

A allaf gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth?

Mae’n bosibl y gallech gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os oes gennych salwch neu anabledd sy’n effeithio ar eich gallu i weithio, a:

  • rydych dros 16 oed ac o dan oedran Pensiwn Gwladol
  • rydych yn ddi-waith
  • rydych yn hunangyflogedig, neu
  • rydych yn gweithio i gyflogwr ond ni allwch gael Tâl Salwch Statudol, neu
  • rydych wedi bod yn cael Tâl Salwch Statudol ond mae wedi dod i ben bellach

Faint y byddaf yn ei gael?

Mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cynnwys dau gam; y cam asesu a’r prif gam.

Yn y rhan fwyaf o achosion, os byddwch yn gymwys i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, ni fyddwch yn cael unrhyw arian am 3 diwrnod cyntaf eich cais.

Gelwir y rhain yn ‘ddiwrnodau aros’. Yna cewch y ‘cam asesu’ wrth i ni asesu eich gallu i weithio.

Telir y gyfradd gam asesu ar gyfer y 13 wythnos gyntaf o’ch cais tra bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar eich gallu i weithio drwy’r asesiad gallu i Weithio.

Bydd y prif gam yn dechrau o wythnos 14 eich cais, os bydd eich Asesiad Gallu i Weithio yn dangos nad yw eich salwch yn cyfyngu ar eich gallu i weithio.

Mae 2 grwp yn y prif gam:

Grwp Gweithgaredd sy’n Gysylltiedig â Gwaith

Os cewch eich gosod mewn grwp gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith, disgwylir i chi gymryd rhan mewn cyfweliadau sy’n canolbwyntio ar waith gyda’ch ymgynghorydd personol, a chael mynediad at ystod o gymorth i’ch helpu i baratoi am waith addas. Yn gyfnewid, cewch elfen gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith yn ogystal â’ch cyfradd sylfaenol. Ond os byddwch yn gwrthod cymryd rhan mewn cyfweliadau sy’n canolbwyntio ar waith, gall effeithio ar eich budd-dal.

Grwp Cymorth

Os cewch eich gosod mewn grwp cymorth oherwydd bod eich salwch neu’n anabledd yn cael effaith difrifol ar eich gallu i weithio, ni ddisgwylir i chi gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith, ond gallwch wneud hynny ar sail wirfoddol pe dymunech. Ni chewch elfen cymorth yn ogystal â’ch cyfradd sylfaenol.

Beth yw cyfraddau'r budd-dal?

Cam Asesu

Person sengl o dan 25 oed: Hyd at £50.95

Person sengl 25 oed a hyn: Hyd at £64.30

Prif Gam - Grwp Gweithgaredd sy'n Gysylltiedig â Gwaith

Person sengl: Hyd at £89.80

Prif Gam - Grwp Cymorth

Person sengl: Hyd at £95.15

Yn ddibynnol ar eich amgylchiadau, efallai y cewch fwy o arian os byddwch yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm.

Gallwch gael arian ychwanegol i'ch gwr, gwraig neu bartner sifil os cewch You can Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm.

Beth yw'r Asesiad Gallu i Weithio

Pan fyddwch yn gwneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, cewch Asesiad Gallu i Weithio fel arfer. Fel rhan o hyn, bydd gweithiwr iechyd proffesiynol a gafodd ei gynmerdwyo gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn argymell i chi fynychu asesiad meddygol. Efallai y byddwn yn gofyn i chi hefyd gymryd rhan mewn Asesiad Iechyd sy'n Canolbwyntio ar Waith.

Bydd yr asesiad meddygol yn cynnwys cyfweliad ac weithiau archwiliad corfforol, os bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn teimlo bod angen gwneud un.

Mae'r asesiad yn debygol o fod yn wahanol i'r hyn a ddisgwylir i chi ei gael gan eich meddyg teulu eich hun. Nid gwneud diagnosis neu drafod triniaeth yw prif nod y gweithiwr iechyd proffesiynol; eu nod yw asesu sut y mae'n effeithio arnoch chi a'ch gallu i weithio ac efallai ni fydd angen i'r gweithiwr iechyd proffesiynol gynnal archwiliad corfforol.

Ar ôl eich asesiad meddygol, efallai bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn cwblhau asesiad iechyd sy'n Canolbwyntio ar Waith. Yn ystod hwn, cewch ofyn am eich teimladau am sut y mae eich salwch neu anabledd yn eich atal rhag gweithio a pha gymorth a fydd ei angen arnoch i ddechrau gwaith.

Eich helpu i mewn i waith, os ydych yn abl

Os ydych yn y grwp sy'n gysylltiedig â gwaith, cewch weld eich ymgynghorydd personol i drafod eich rhagolygon gwaith. Byddant yn rhoi help a chymorth i chi gyda'ch:

  • nodau swyddi
  • eich sgiliau, eich cryfderau a'ch galluoedd
  • camau y gallwch eu cymryd i'ch helpu i ddod o hyd i waith addas
  • eich syniadau, problemau neu unrhyw faterion eraill sy'n gysylltiedig â gwaith yr hoffech son amdano.

Os gwrthodwch i:

  • fynd i gyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith, neu
  • cymryd rhan lawn mewn cyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith, gall effeithio ar eich hawl i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Os ydych mewn grwp cymorth nid oes yn rhaid i chi fynd i gyfweliadau sy'n canolbwyntio ar waith, ond gallwch ofyn am siarad ag ymgynghorydd personol os byddwch am wneud hynny.

Beth sydd angen i mi wneud nesaf?

I wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ffoniwch 0800 0121 888 o ddydd Llun i ddydd GwenerMae gwasanaeth ffon testun ar gael os oes gennych nam ar eich lleferydd neu ar eich clyw 0128 674 808

Darllenwch y wybodaeth bresennol a, Gostau Galwadau

Gallwch wneud cais am Gymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Fudd-dal Analluogrwydd ar-lein

Os na allwch wneud cais dros y ffôn, gallwch lawrlwytho ffurflen hawlio (bydd angen i chi argraffu’r ffurflen hon a’i hanfon atom). Mae’n rhaid i chi ddarllen y nodiadau hyn gyda’ch ffurflen gais.

icon PDF Lwfans Cyflogaeth a Chymorth nodiadau (208.33kb)

icon PDF Lawrlwythwch y ffurflen hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (2.10mb)

Nid yw’r ffurflenni hyn yn briodol yng Ngogledd Iwerddon.

Rydym wedi cyflwyno nodwedd arbennig sy'n eich galluogi i gadw ffurflen wrth i chi ei llenwi. Mae’r nodwedd hon yn berthnasol i Adobe Acrobat Reader 7.0 neu’n uwch. Golyga hyn nid oes yn rhaid i chi lenwi ffurflen mewn un sesiwn bellach.

Y wybodaeth ddiweddaraf am gymorth ar gyfer llog morgais Os ydych yn hawlio

Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans

Cymorth a Chyflogaeth yn seiliedig ar incwm a’ch bod yn berchen ar eich cartref eich hun, efallai y bydd eich budd-dal yn cynnwys cymorth ychwanegol ar gyfer llog morgais (SMI)

Y wybodaeth ddiweddaraf am gymorth ar gyfer llog morgais

Gwybdoaeth bellach

icon PDF Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - Help os ydych yn sâl neu’n anabl (344.75kb)

icon PDF Canllaw i'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth – Yr Asesiad Gallu i Weithio (193.52kb)

Cymorth gyda PDFs

   


* Merch
*

Gwybodaeth Defnyddiol

Ceisiwch am swydd dros y ffôn trwy Ceiswyr Gwaith Uniongyrchol

Eisiau gwybod mwy am Y Fargen Newydd?

Taflenni a chanllawiau'r Ganolfan Byd Gwaith

icon PDF Cyfraddau Budd-daliadau a Phensiynau (373.68kb)











*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*