Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Cwsmeriaid
*
*Budd-daliadau oedran gweithioBack up a level (javascript:nodelink(196))
 
Beth ddylech ei wybodPrawf o HunaniaethGwneud cais newydd neu ailgais am fudd-dal
Edrych ymlaen a chynllunio ar gyfer y dyfodolHysbysu newid mewn amgylchiadau 
 
     
   *

Yn sâl neu’n anabl?

Mae hwn yn ganllaw gyffredinol i fudd-daliadau y gallech eu cael gan y Ganolfan Byd Gwaith a swyddfeydd eraill os ydych o oedran gweithio. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith.

Cymorth a Chyflogaeth

Cyflwynwyd y Lwfans Cyflogaeth  Chymorth (ESA) ar 27 Hydref 2008, a disodlodd Budd-dal Analluogrwydd a Chymhorthdal Incwm, a dalwyd oherwydd salwch neu anabledd, ar gyfer cwsmeriaid newydd yn unig. Cynlluniwyd y lwfans i’ch helpu i gyflawni eich potensial a’ch helpu i ennill annibyniaeth o’r byd budd-daliadau.

Canfyddwch fwy am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Budd-dal Analluogrwydd

Os nad oeddech yn gweithio pan ddaethoch yn sâl, neu os oeddech yn hunangyflogedig, neu os ydych wedi bod yn sâl am fwy na 28 weeks ceisiwch fwy o wybdoaeth am Fudd-dal Analluogrwydd.

Lwfans Byw i'r Anabl

Os ydych o dan 65 oed ac angen help i ofalu am eich hun neu symud o gwmpas gallwch gael gwybod mwy am Lwfans Byw i'r Anabl.

Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol

Arian ychwanegol yw Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol os ydych yn sâl neu'n anabl oherwydd damwain neu afiechyd a achoswyd gan waith. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol.

Tâl Salwch Statudol

Os na allwch weithio oherwydd eich bod yn sâl, efallai bod trefniadau tâl salwch gan y sawl rydych yn gweithio iddynt sy'n gymwys i chi. Mae pa dâl salwch a gewch yn dibynnu ar y sawl rydych yn gweithio iddynt.

Ond gall pawb sy'n bodloni amodau penodol gael math sylfaenol o dâl salwch - fe'i gelwir yn Dâl Salwch Statudol.

Efallai y bydd y sawl rydych yn gweithio iddynt yn talu Tâl Salwch Statudol os na allwch weithio am 4 diwrnod neu fwy yn olynol. Byddwch yn cael Tâl Salwch Statudol am y diwrnodau y byddech fel arfer yn eu gweithio - mae'n rhaid iddo fod yn un diwrnod mewn wythnos o leiaf.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Cyllid & Thollau EM neu ddarllenwch fwy ar wefan Directgov.

   


* Merch
*

Gwybodaeth Defnyddiol

Ceisiwch am swydd dros y ffôn trwy Ceiswyr Gwaith Uniongyrchol

Eisiau gwybod mwy am Y Fargen Newydd?

Taflenni a chanllawiau'r Ganolfan Byd Gwaith

icon PDF Cyfraddau Budd-daliadau a Phensiynau (373.68kb)











*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*