Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Cwsmeriaid
*
*Budd-daliadau oedran gweithioBack up a level (javascript:nodelink(196))
 
Beth ddylech ei wybodPrawf o HunaniaethGwneud cais newydd neu ailgais am fudd-dal
Edrych ymlaen a chynllunio ar gyfer y dyfodolHysbysu newid mewn amgylchiadau 
 
     
   *

Magu plant?

Mae hwn yn ganllaw cyffredinol i fudd-daliadau y gallech eu cael gan y Ganolfan Byd Gwaith a swyddfeydd eraill os ydych o oedran gweithio. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith.

Cymhorthdal Incwm

Os ydych ar incwm isel a bod unrhyw un o'r canlynol yn gymwys: rydych yn rhiant unigol, rydych yn sâl neu'n anabl, rydych yn gofalu am rywun sy'n sâl neu'n anabl, rydych chi neu'ch partner yn 60 oed neu'n hyn, neu rydych wedi cofrestru'n ddall, ceisiwch fwy o wybodaeth am Gymhorthdal Incwm.

Lwfans Ceisio Gwaith

Os nad ydych chi neu'ch partner yn gweithio neu'n gweithio llai nag 16 awr ar gyfartaledd yr wythnos gallwch gael gwybod mwy am Lwfans Ceisio Gwaith.

Credydau Treth

Er mwyn i'ch teulu fod yn gymwys i gael credydau treth, mae'n rhaid i chi a/neu'ch partner fod yn 16 oed neu'n hyn ac yn byw yn y DU fel arfer. Gallech barhau i fod yn gymwys os nad ydych yn byw yn y DU. Darllenwch fwy am Gredydau Treth - bydd hyn yn eich tywys i wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Budd-dal Plant

Os ydych yn gyfrifol am blentyn neu blant sydd o dan 19 oed gallwch gael gwybod mwy am Fudd-dal Plant.

Lwfans Gwarchodw

Os ydych yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn sydd wedi colli o leiaf un rhiant gallech ganfod mwy am Lwfans Gwarchodwr.

Bonws Cynhaliaeth Plant

Os ydych yn cael cynhaliaeth plant ac y daw eich Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm neu eich Cymhorthdal Incwm i ben oherwydd gwaith, gallwch gael gwybod mwy am Fonws Cynhaliaeth Plant.

Lwfans Rhiant Gweddw

Os ydych yn magu o leiaf un plentyn neu os ydych yn disgwyl babi eich diweddar wr a bod eich diweddar wr neu wraig wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, darllenwch Lwfans Rhiant Gweddw.

Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref

Os na allwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol oherwydd eich bod yn magu plentyn o dan 16 oed, gallwch gael gwybod mwy am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref.

   


* Merch
*

Gwybodaeth Defnyddiol

Ceisiwch am swydd dros y ffôn trwy Ceiswyr Gwaith Uniongyrchol

Eisiau gwybod mwy am Y Fargen Newydd?

Taflenni a chanllawiau'r Ganolfan Byd Gwaith

icon PDF Cyfraddau Budd-daliadau a Phensiynau (373.68kb)











*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*