|
|
|||||||||
| Cwsmeriaid | |||||||||
| |||||||||
| |||||||||
Gweddw?Mae hwn yn ganllaw cyffredinol i fudd-daliadau y gallech eu cael gan y Ganolfan Byd Gwaith a swyddfeydd eraill os ydych o oedran gweithio. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith. Lwfans Profedigaeth (yn disodli Pensiwn Gwraig Weddw) Os oeddech yn 45 oed neu'n hyn pan fu farw eich gwr, gwraig neu bartner sifil ac roeddent wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, ceisiwch fwy o wybodaeth am Lwfans Profedigaeth. Taliad Profedigaeth (Taliad Gwraig Weddw yn gynt) Os nad oedd gan eich diweddar wr, gwraig neu bartner sifil hawl i gael Pensiwn Ymddeol pan fuont farw, ceisiwch fwy o wybodaeth am Daliad Profedigaeth. Lwfans Rhiant Gweddw Os ydych yn magu o leiaf un plentyn neu'n disgwyl babi eich diweddar gwr a bod eich diweddar gwr, gwraig neu bartner sifil wedi talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol ceisiwch fwy o wybodaeth am Lwfans Rhiant Gweddw. Taliad Angladd Os ydych yn cael budd-dal incwm isel neu gredyd treth ac mae angen help i dalu am angladd ceisiwch fwy o wybodaeth am Daliad Angladd. Lwfans Ceisio Gwaith Os nad ydych chi neu'ch partner, eich priod neu'ch partner sifil yn gweithio neu gweithio'n llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, ceisiwch fwy o wybodaeth am Lwfans Rhiant Gweddw. |





