|
|
|||||||||
| Cwsmeriaid | |||||||||
| |||||||||
| |||||||||
Ydych chi wedi gwahanu neu ysgaru/Partneriaeth Sifil wedi'i diddymu?Mae hwn yn ganllaw cyffredinol i fudd-daliadau y gallech eu cael gan y Ganolfan Byd Gwaith a swyddfeydd eraill os ydych o oedran gweithio. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith. Cymhorthdal Incwm Os ydych ar incwm isel a bod unrhyw un o'r canlynol yn gymwys: rydych yn rhiant unigol, rydych yn sâl neu'n anabl, rydych yn gofalu am rywun sy'n sâl neu'n anabl, rydych yn 60 oed neu'n hyn, rydych wedi cofrestru'n ddall, ceisiwch fwy o wybodaeth am Gymhorthdal Incwm. Lwfans Ceisio Gwaith Os ydych yn gallu gweithio ac nad ydych yn gweithio, neu'n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd ceisiwch fwy o wybodaeth am Lwfans Ceisio Gwaith. Credydau Treth Er mwyn i'ch teulu fod yn gymwys i gael credydau treth, mae'n rhaid i chi a/neu'ch partner fod yn 16 oed neu'n hyn ac yn byw yn y DU fel arfer. Gallech barhau i fod yn gymwys os nad ydych yn byw yn y DU. Ceisiwch fwy o wybodaeth am Gredydau Treth - bydd hyn yn eich tywys i wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Cynhaliaeth Cynnal Plant Os ydych yn gofalu am blentyn a bod un o’r rhieni yn byw rhywle arall yn y Deyrnas Unedig, dewch i gael gwybod mwy am opsiynau ar gyfer trefnu Cynhaliaeth Plant. |





