|
|
|||||||||
| Cwsmeriaid | |||||||||
| |||||||||
| |||||||||
Deddf Newmoconiosis ac ati. (Iawndal Gweithwyr) 1979Ffoniwch ni ar radffon 0800 279 2322.Diben y Ddeddf Mae Deddf 1979 yn darparu iawndal cyfandaliad untro ar gyfer dioddefwyr (neu eu dibynyddion os ydynt wedi marw) afiechydon sy'n gysylltiedig â llwch. Mae'n rhaid i ddioddefwyr hawlio iawndal gan y cyflogwyr a achosodd yr afiechyd, oherwydd eu bod wedi rhoi'r gorau i fasnachu. Pwyl all wneud cais? Dioddefwyr yr afiechydon canlynol sy'n gysylltiedig â llwch a achoswyd gan eu cyflogaeth neu ddibynyddion penodol os yw'r dioddefwr wedi marw:
Amodau Hawlio
Ni ddylai'r dioddefwr neu'r dibynyddion fod wedi dwyn achos llys na chael iawndal gan y cyflogwr mewn perthynas â'r afiechyd. Pryd i Wneud Cais? Dioddefwyr: Dylech wneud cais cyn gynted ag y credwch eich bod yn dioddef o'r afiechyd a gwmpesir gan y Ddeddf. Ni ddylech aros am ganlyniad cais i'r Ganolfan Byd Gwaith (Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol) cyn gwneud cais i ni. Dibynyddion: Dylech wneud cais cyn gynted ag yr ydych yn ymwybodol bod eich gwr neu wraig wedi dioddef afiechyd a gwmpesir gan y Ddeddf. Nid oes angen aros am ganlyniad eich cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol. Os oes cyfyngiadau amser ar eich cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol dylech barhau i wneud cais i ni. Sut i wneud cais? Cysylltwch â ni ar rhadffon 0800 279 2322 i gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen gais. Canllaw cyffredinol yw'r dudalen hon yn unig. Nid yw'n ddatganiad llawn o'r gyfraith. |





