|
|
|||||||||
| Cwsmeriaid | |||||||||
| |||||||||
| |||||||||
Byw are incwm isel?Mae hwn yn ganllaw cyffredinol i fudd?daliadau y gallech eu cael gan y Ganolfan Byd Gwaith a swyddfeydd eraill os ydych o oedran gweithio. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith. Cymhorthdal Incwm Os ydych rhwng 16 a 60 oed ac ar incwm isel a bod unrhyw un o'r canlynol yn gymwys: rydych yn rhiant unigol, rydych yn sâl neu'n anabl, rydych yn gofalu am rywun sy'n sâl neu'n anabl, rydych wedi'ch cofrestru'n ddall, ceisiwch fwy o wybodaeth am Gymhorthdal Incwm. Help gan y Gronfa Gymdeithasol Os ydych ar fudd-dal incwm isel, help gyda chostau ar gyfer eich cartref, neu ar gyfer babi newydd, neu ddelio ag argyfwng, ceisiwch fwy o wybodaeth am y Gronfa Gymdeithasol. Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar Incwm Os nad ydych yn gweithio neu'n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd , yn gallu gweithio ac yn chwilio am waith, ac ni allwch gael Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar gyfraniadau; a bod gennych incwm a chynilion yn is na lefel benodol ceisiwch fwt am Lwfans Ceisio Gwaith. Taliad Angladd Os ydych yn cael budd-dal incwm isel neu gredyd treth a bod angen help arnoch i dalu am angladd ceisiwch fwy o wybodaeth am Daliad Angladd. Taliad Tywydd Oer Os ydych chi neu'ch partner yn cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm, a bod gennych blentyn o dan 5 mlwydd oed, neu os ydych yn anabl, neu'n 60 oed neu'n hyn ceisiwch fwy o wybodaeth am Daliad Tywydd Oer. Budd-dal Tai Os ydych yn talu rhent ceisiwch fwy o wybodaeth am Fudd-dal Tai. Budd-dal Treth Cyngor Os ydych yn talu treth cyngor ac ar incwm isel ceisiwch fwy o wybodaeth am Fudd-dal Treth Cyngor. Mwy o wybodaeth am Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor Credydau Treth Er mwyn i'ch cartref fod yn gymwys i gael credydau treth, mae'n rhaid i chi a/neu'ch partner fod yn 16 oed neu'n hyn ac yn byw yn y DU fel arfer. Gallech barhau i fod yn gymwys os nad ydych yn byw yn y DU. Darllenwch fwy am Gredydau Treth - bydd hyn yn eich tywys i wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Lwfans Byw i'r Anabl Help arian parod di-dreth tuag gostau ychwanegol y gallech eu hwynebu os ydych yn anabl. Ceisiwch fwy o wybodaeth am Lwfans Byw i'r Anabl. |





