|
|
|||||||||
| Cwsmeriaid | |||||||||
| |||||||||
| |||||||||
Ydych chi'n astudio neu'n gadael ysgol?Mae hwn yn ganllaw cyffredinol i fudd-daliadau y gallech eu cael gan y Ganolfan Byd Gwaith a swyddfeydd eraill os ydych o oedran gweithio. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith. Lwfans Ceisio Gwaith Os nad ydych yn gweithio neu'n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd ceisiwch fwy o wybodaeth am Lwfans Ceisio Gwaith. Budd-dal Plant Os ydych yn 16 oed neu'n hyn ond o dan 19 oed ceisiwch fwy o wybodaeth am Fudd-dal Plant. I gael rhagor o wybodaeth: ffoniwch 0845 302 1489. Budd-dal Tai Os ydych yn talu rhent a'ch bod ar incwm isel ceisiwch fwy o wybodaeth am Fudd-dal Tai. Budd-dal Treth Cyngor Os ydych yn talu treth cyngor a'ch bod ar incwm isel ceisiwch fwy o wybodaeth am Fudd-dal Treth Cyngor. Cymhorthdal Incwm Os ydych ar incwm isel a bod unrhyw un o'r canlynol yn gymwys: rydych yn rhiant unigol, rydych yn sâl neu'n anabl, rydych yn gofalu am rywun sy'n sâl neu'n anabl, rydych chi neu'ch partner yn 60 oed neu'n hyn, neu rydych wedi cofrestru'n ddall, ceisiwch fwy o wybodaeth am Gymhorthdal Incwm. |





