|
|
|||||||||
| Cwsmeriaid | |||||||||
| |||||||||
| |||||||||
Anabl?Mae hwn yn ganllaw cyffredinol i fudd daliadau y gallech eu cael gan y Ganolfan Byd Gwaith a swyddfeydd eraill os ydych o oedran gweithio. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith. Cymorth a ChyflogaethCyflwynwyd y Lwfans Cyflogaeth Chymorth (ESA) ar 27 Hydref 2008, a disodlodd Budd-dal Analluogrwydd a Chymhorthdal Incwm, a dalwyd oherwydd salwch neu anabledd, ar gyfer cwsmeriaid newydd yn unig. Cynlluniwyd y lwfans i’ch helpu i gyflawni eich potensial a’ch helpu i ennill annibyniaeth o’r byd budd-daliadau. Canfyddwch fwy am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Lwfans Byw i'r AnablOs ydych o dan 65 oed ac angen help i ofalu am eich hun neu symud o gwmpas ceisiwch fwy o wybdoaeth am Lwfans Byw i'r Anabl. Credydau TrethEr mwyn i'ch teulu fod yn gymwys i gael credydau treth, mae'n rhaid i chi a/neu'ch partner fod yn 16 oed neu'n hyn ac yn byw yn y DU fel arfer. Gallech fod yn gymwys hefyd os nad ydych yn byw yn y DU. Ceisiwch fwy o wybodaeth am Gredydau Treth - bydd hyn yn eich tywys i wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Budd-dal AnalluogrwyddOs nad oeddech yn gweithio pan ddaethoch yn sâl, neu os oeddech yn hunangyflogedig, neu os oeddech yn sâl am fwy na 28 wythnos ceisiwch fwy o wybodaeth am Fudd-dal Analluogrwydd. Budd-dal Anabledd Anafiadau DiwydiannolArian ychwanegol yw Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol os ydych yn sâl neu'n anabl oherwydd damwain neu afiechyd a achoswyd gan waith. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol. Lwfans Anabledd DifrifolErs mis Ebrill 2001 ni fu'n bosibl gwneud cais newydd am Lwfans Anabledd Difrifol. Os oeddech yn cael Lwfans Anabledd Difrifol ym mis Ebrill byddwch fel arfer yn parhau i'w gael. Ceisiwch fwy o wybodaeth am Lwfans Anabledd Difrifol. Mae gwasanaeth ffôn cyfrinachol ar gael i bobl ag anableddau a'u gofalwyr. Ffoniwch y Llinell Ymholiadau Budd-dal ar 0800 88 22 00. Gall pobl sydd â nam ar eu lleferydd neu nam ar eu clyw ffonio'r rhif ffôn 0800 24 33 55. |





