Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Cwsmeriaid
*
*Budd-daliadau oedran gweithioBack up a level (javascript:nodelink(196))
 
Beth ddylech ei wybodPrawf o HunaniaethGwneud cais newydd neu ailgais am fudd-dal
Edrych ymlaen a chynllunio ar gyfer y dyfodolHysbysu newid mewn amgylchiadau 
 
     
   *

Taliadau Angladd

Os ydych ar incwm isel a bod angen help arnoch i dalu am angladd rydych chi'n ei drefnu, mae'n bosibl y gallwch gael Taliad Angladd gan y Gronfa Gymdeithasol. Mae'n bosibl y bydd rhaid i chi ad-dalu peth ohono neu'r cyfan ohono o ystâd y sawl a fu farw.

Pwy sy'n gymwys?

Efallai y byddwch yn gallu cael Taliad Angladd ond mae’n dibynnu ar y budd-daliadau yr ydych yn cael, eich perthynas â’r person a fu farw ac unrhyw arian arall, ar wahân i’ch cynilion personol, mae’n bosib y bydd ar gael i helpu gyda chost yr angladd.

Budd-daliadau a chredydau treth

Mae'n bosibl eich bod yn gymwys i gael Taliad Angladd gan y Gronfa Gymdeithasol os ydych chi neu'ch partner yn derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau neu'r credydau treth hyn:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Treth Gyngor (neu fod y sawl sy'n talu'r Dreth Gyngor ar eich aelwyd chi'n derbyn Ad-daliad Ail Oedolyn oherwydd eich bod ar incwm isel)
  • Credyd Treth Gwaith sy’n cynnwys elfen anabledd neu elfen anabledd difrifol
  • Credyd Treth Plant ar gyfradd uwch na'r elfen deulu

Defnyddir y term ‘partner’ yma i olygu:

  • rhywun rydych chi’n briod â nhw, neu sy’n byw gyda chi fel petaech chi’n briod â nhw, neu
  • bartner sifil, neu rywun sy'n byw gyda chi fel petaech chi'n bartneriaid sifil

Cymhorthdal Incwm

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Budd-dal Treth Gyngor

Lwfans Ceisio Gwaith

Credyd Pensiwn (Directgov)

Perthynas â'r sawl a fu farw

Er mwyn cael Taliad Angladd rhaid i chi hefyd fod naill ai:

  • yn bartner i'r sawl a fu farw, adeg eu marwolaeth
  • yn rhiant i'r plentyn a fu farw, neu'n gyfrifol am y plentyn a fu farw (ac nad oes rhiant absennol) (oni bai eu bod yn cael un o'r budd-daliadau cymhwyso uchod neu wedi'u dieithrio oddi wrth y plentyn erbyn dyddiad y farwolaeth)
  • yn rhiant i blentyn marw-anedig
  • yn berthynas glos neu'n ffrind agos i'r sawl a fu farw (a'i bod yn rhesymol i chi dderbyn cyfrifoldeb am gostau'r angladd)
Arian arall sydd ar gael

Ar ôl cyfrifo faint o help y gallwch chi ei gael, edrychir hefyd ar faint o arian (ar wahân i'ch cynilion personol) sydd ar gael i'ch helpu gyda chost yr angladd. Gallai hyn gynnwys arian o ystâd y sawl a fu farw, cyfraniadau a dderbyniwyd ac arian, er enghraifft, o bolisïau yswiriant, ond nid yw'n cynnwys Taliad Profedigaeth nawdd cymdeithasol nac arian o rai ymddiriedolaethau a noddir gan y llywodraeth.

Taliad Profedigaeth

I breswylwyr y DU ac angladdau yn y DU

Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i'r sawl a fu farw fod wedi bod yn breswylydd yn y DU fel arfer, a rhaid i'r angladd fel arfer fod wedi'i gynnal yn y DU.

Pwy sydd ddim yn gymwys?

Chewch chi ddim taliad fel perthynas agos neu fel ffrind agos i'r sawl a fu farw:

  • os oedd gan y sawl a fu farw bartner pan fu farw
  • os oedd gan y sawl a fu farw riant, mab neu ferch sydd heb fod yn gymwys i gael un o'r buddiannau cymhwyso neu nad oedd y person hwnnw wedi ymddieithrio oddi wrth yr ymadawedig. Nid yw hyn yn cynnwys aelodau o'r teulu sydd: dan 18 oed, yn bobl ifanc cymwys at ddibenion Budd-dal Plant, yn fyfyrwyr amser llawn, yn aelodau o urddau crefyddol, yn y carchar neu'r ysbyty (ac y rhoddwyd budd-dal cymhwyso iddynt yn union cyn iddynt fynd i'r carchar neu i'r ysbyty), yn geiswyr lloches a gefnogir gan y Gwasanaeth Cefnogi Ceiswyr Lloches, neu'n aelodau o'r teulu nad ydynt fel arfer yn byw yn y DU
  • os oes perthynas glos i'r sawl a fu farw, ac eithrio perthynas glos mewn un o'r grwpiau eithriedig a restrir uchod, a oedd mewn cysylltiad mwy clos â'r sawl a fu farw nag yr oeddech chi, neu fod cysylltiad yr un mor agos rhyngddynt ac nad yw'n cael budd-dal cymhwyso

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Mae Taliad Angladd yn cynnwys y ffioedd claddu neu amlosgi angenrheidiol, rhai costau eraill a nodir a hyd at £700 ar gyfer unrhyw gostau angladdol eraill, megis ffioedd y trefnwr angladdau, yr arch neu'r blodau.

Os oedd gan y sawl a fu farw gynllun angladd y talwyd amdano ymlaen llaw, dim ond ar gyfer eitemau nad yw'r cynllun eisoes yn darparu ar eu cyfer y cewch chi help.

Gallwch gael manylion llawn am yr hyn y bydd y Taliad Angladd yn talu amdano ar dudalen chwech a saith y ffurflen hawlio sydd ar gael i'w llwytho oddi ar y we isod.

icon PDF lwytho ffurflen hawlio Taliad Angladd oddi ar y we (dogfen PDF 122K)

Cymorth gyda ffeiliau PDF

Sut mae'n cael ei dalu

Os nad yw bil y trefnwr angladdau eisoes wedi ei dalu, fel arfer bydd y Taliad Angladd yn cael ei dalu'n uniongyrchol i gyfrif banc y trefnwr angladdau. Neu efallai yr anfonir siec atoch, yn daladwy i'r trefnwr angladdau, i chi i'w rhoi iddyn nhw. Os yw bil y trefnwr angladdau wedi ei dalu, bydd y taliad yn cael ei dalu i chi, yn syth i'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu fel arfer.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Ni chaiff Taliad Angladd unrhyw effaith ar fudd-daliadau eraill.

Sut i hawlio

Gallwch ofyn am ffurflen hawlio drwy gysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith.

Cysylltu â Chanolfan Byd Gwaith

Neu fe allwch lwytho'r ffurflen, isod, oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae nodiadau gyda'r ffurflen i'ch helpu i'w llenwi ac i ddweud wrthych i ble y dylech ei hanfon.

icon PDF lwytho'r ffurflen hawlio Taliad Angladd oddi ar y we (dogfen PDF 122K)

Cymorth gyda ffeiliau PDF

Pryd i hawlio

Rhaid hawlio Taliad Angladd rhwng dyddiad y farwolaeth a hyd at dri mis ar ôl dyddiad yr angladd.

Os ydych chi'n disgwyl am benderfyniad ynghylch budd-dal neu hawl gymwys, rhaid i chi ddal i hawlio o fewn y terfynau amser uchod.

Gallwch wneud cais cyn yr angladd os bydd y cyfarwyddwr angladdau yn barod i gynhyrchu anfoneb ag eitemau fel tystiolaeth o’r cytundeb. Nid yw amcangyfrif yn dderbyniol.

Ad-dalu'r Taliad Angladd

Os byddwch yn cael Taliad Angladd, bydd angen iddo gael ei dalu'n ôl o ystâd y sawl a fu farw. Mae'r ystâd yn golygu unrhyw arian, eiddo a phethau eraill yr oedd y person ymadawedig yn berchen arnynt. Nid yw ty neu eiddo personol a adewir i'r gwr neu'r wraig weddw, neu'r partner sifil sydd dal yn fyw, yn cael eu cyfrif yn rhan o'r ystâd.

Anghydfodau ac apeliadau

Os hoffech chi wybod mwy am y penderfyniad, neu os ydych chi'n credu ei fod yn anghywir, cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith o fewn mis i ddyddiad y llythyr sy'n cynnwys y penderfyniad. Os byddwch yn cysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith yn hwyrach na hynny, efallai na fyddant yn gallu'ch helpu.

Gallwch chi, neu rywun arall a chanddynt yr awdurdod i weithredu ar eich rhan:

  • ofyn am eglurhad
  • gofyn am ddatganiad ysgrifenedig o’r rhesymau dros y penderfyniad
  • gofyn i Ganolfan Byd Gwaith edrych eto ar y penderfyniad i weld a ellir ei newid. Efallai eich bod yn credu bod rhai ffeithiau wedi cael eu hanwybyddu, neu efallai bod gennych wybodaeth sy'n effeithio ar y penderfyniad
  • apelio yn erbyn y penderfyniad i dribiwnlys annibynnol. Rhaid i hyn fod mewn ysgrifen.Gallwch gymryd unrhyw un o'r camau a restrir uchod, neu gallwch gymryd pob un ohonynt.

Sut mae apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal (Directgov)

   


* Merch
*

Gwybodaeth Defnyddiol

Ceisiwch am swydd dros y ffôn trwy Ceiswyr Gwaith Uniongyrchol

Eisiau gwybod mwy am Y Fargen Newydd?

Taflenni a chanllawiau'r Ganolfan Byd Gwaith

icon PDF Cyfraddau Budd-daliadau a Phensiynau (373.68kb)











*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*