Lwfans GofalwrBeth yw Lwfans Gofalwr?Budd-dal yw Lwfans Gofalwr i ofalwyr pobl sy'n ddifrifol anabl. Efallai bydd rhaid i chi dalu treth arno. Ydw i'n gymwys?Mae'n rhaid bod y person rydych yn gofalu amdano yn cael un o'r budd-daliadau canlynol:
- Lwfans Gweini
- Lwfans Byw i'r Anabl - cyfradd ganol neu uchaf yr elfen ofal
- Lwfans Gweini Cyson (ar uchafswm y gyfradd arferol fel rhan o Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol, neu y gyfradd sylfaenol (diwrnod llawn) fel rhan o Bensiwn Anabledd Rhyfel.)
Os telir un o'r budd-daliadau uchod i'r person rydych yn gofalu amdano, efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr os:
- ydych yn 16 oed neu'n hyn
- ydych yn gofalu am y person hwnnw am o leiaf 35 awr yr wythnos
- nad ydych yn dilyn cwrs llawn amser mewn addysg bellach (mae llawn amser yn golygu 21 awr neu fwy o astudiaeth dan oruchwyliaeth bob wythnos)
- ydych yn bresennol ym Mhrydain Fawr (ac wedi bod am o leiaf 26 wythnos o'r 52 wythnos diwethaf) ac nad ydych o dan reolaeth mewnfudo, ac
- nad ydych yn ennill mwy na swm penodol
Beth yw'r cyfraddau budd-dal?Beth sydd angen i mi ei wneud nesaf?Cewch ragor o wybodaeth yn y daflen Lwfans Gofalwr (183KB) Cymorth gyda PDFs Gallwch hefyd ymweld â www.direct.gov.uk/carers i gael mwy o wybodaeth neu i wneud cais ar-lein.
|