|
|
|||||||||
| Cwsmeriaid | |||||||||
| |||||||||
| |||||||||
Lwfans Ceisio GwaithLwfans Ceisio Gwaith yw'r prif fudd-dal ar gyfer pobl sydd mewn oed gweithio ond nad oes ganddynt waith. Pwy sy’n gymwys?Os ydych chi allan o waith neu’n gweithio 16 awr yr wythnos neu llai, ar gyfartaledd, mae’n bosib y byddwch yn gallu derbyn Lwfans Ceisio Gwaith. Mae’n rhaid eich bod:
Sut mae’n gweithio?Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadauEfallai y cewch Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau os ydych wedi cael eich talu neu wedi derbyn credydau am gyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) dosbarth 1 yn y blynyddoedd treth perthnasol. Ni fydd cyfraniadau hunangyflogedig fel arfer yn golygu eich bod yn gymwys i gael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau. Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar IncwmMae hwn yn seiliedig ar eich incwm a'ch cynilion. Mae'n bosib y cewch chi hwn os nad ydych chi wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (neu os mai dim ond cyfraniadau hunangyflogaeth rydych wedi'u talu) a'ch bod ar incwm isel. Lwfans Ceisio Gwaith i bobl ifanc 16 a 17 oedOs ydych yn 16 neu'n 17 oed ac yn ddi-waith, efallai y gallwch gael y Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm am gyfnod byr. Er enghraifft, gallai hyn fod:
Faint fyddwch yn ei gael?Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadauFe gewch chi gyfradd wythnosol gan ddibynnu ar eich oedran: Oedran 16 - 24: £50.95 Oedran 25 neu'n hyn: £64.30 Efallai y bydd eich taliadau'n cael eu lleihau os byddwch chi'n cael pensiwn. Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar IncwmDyma’r cyfraddau wythnosol mwyaf: Pobl ifanc sengl 16 – 24 oed: £50.95 Pobl sengl 25 oed neu’n hyn: £64.30 Cyplau a phartneriaethau sifil (a'r ddau'n 18 oed neu'n hyn): £100.95 Rhieni sengl (o dan 18 oed): £50.95 Rhieni sengl (sy'n 18 oed neu’n hyn): £64.30 Efallai bydd eich enillion yn cael eu lleihau os cewch incwm o gyflogaeth rhan-amser. Os oes gennych gynilion dros £16,000, mae'n debyg na fyddwch chi'n gymwys. Os yw eich partner neu'ch partner sifil yn gweithio 24 awr neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd, fel arfer, chewch chi ddim Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (nid yw hyn yn effeithio ar Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau). Os yw'n gweithio llai na 24 awr, fe all hynny effeithio ar faint gewch chi. Efallai caiff eich taliadau eu gostwng os cewch bensiwn galwedigaethol neu bersonol:
Sut i hawlioFfoniwch 0800 012 1888 (rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener). Mae gwasanaeth ffôn testun ar gael os oes gennych nam ar eich clyw neu'ch lleferydd ar 0800 023 4888. Gallwch wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith ar-lein Bydd cynghorydd yn esbonio sut mae'r Lwfans Ceisio Gwaith yn gweithio ac yn paratoi 'cytundeb ceisiwr gwaith' gyda chi, sy'n dangos:
Bydd rhaid i chi fynd i'r swyddfa bob pythefnos i gadarnhau'ch cais a bydd eich sefyllfa'n cael ei hadolygu mewn cyfweliadau rheolaidd. Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith Sut mae’n cael ei daluFel arfer, telir y Lwfans Ceisio Gwaith bob pythefnos mewn ôl-ddyledion drwy Daliad Uniongyrchol i'ch banc, eich cymdeithas adeiladu, neu'ch cyfrif Cynilion Cenedlaethol. Beth i’w wneud os bydd eich amgylchiadau’n newidRhaid i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith cyn gynted ag y bo modd am unrhyw newid yn eich amgylchiadau. Er enghraifft, gallai hyn fod os byddwch yn:
Mewn sawl achos, byddwch chi'n dal i allu hawlio'r Lwfans Ceisio Gwaith, ond os na fyddwch chi'n sôn am newid yn eich amgylchiadau, fe allech golli'ch budd-dal. Sut i apelioGallwch ofyn am eglurhad neu wneud cais iddynt ailystyried unrhyw benderfyniad ar ôl iddo gael ei wneud. Fel arfer, cynhwysir gwybodaeth am sut i apelio yn y llythyr sy'n rhoi'r penderfyniad Os ydych chi'n dymuno apelio, gofynnwch am daflen GL24DWP os credwch fod y penderfyniad yn un anghywir. Gallwch gael gafael ar y daflen yn swyddfa'ch Canolfan Byd Gwaith leol, neu ei llwytho, isod, o’r wefan hon.
Sut i apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal Beth arall y mae angen i chi wybodHelp ar gyfer y ddi-waith newydd, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol a gweithredwrPan fyddwch yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith byddwch yn cwrdd ag ymgynghorydd Personol Canolfan Byd Gwaith a fydd yn siarad â chi am y cymorth ychwanegol y gallai fod ar gael wrth oresgyn anawsterau chwilio am waith, er enghraifft:
Bydd y cymorth hwn yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’r hyn sydd ar gael yn lleol. Os na fyddwch chi'n dod o hyd i waithOs byddwch chi'n dal i fod yn ddi-waith ar ôl chwe mis, gofynnir i chi ddod am 'gyfweliad ailddechrau' gyda chynghorydd personol. Diben y cyfarfod hwn gyda'ch cynghorydd personol yw sicrhau:
Gall y Ganolfan Byd Gwaith roi gwybod i chi am y cymorth ychwanegol y gallech ei gael, yn ddibynnol ar eich amgylchiadau a’r hyn sydd ar gael yn eich ardal leol. Gall gynnwys:
Mae amrywiaeth o daflenni ar gael sy'n rhoi gwybod i chi am y cymorth a'r cyngor sydd ar gael i'ch helpu nôl i'r gwaith. Cânt eu dosbarthu gan eich ymgynghorydd Canolfan Byd Gwaith, neu gallwch eu lawrlwythio isod.
Os ydych chi'n ddyn dros 60 oedOs ydych chi'n ddyn sydd rhwng 60 a 64 oed, gallwch holi'r Ganolfan Byd Gwaith a fyddech chi'n well eich byd o hawlio Credyd Pensiwn. Darpariaeth ar gyfer calediNi allwch gael Lwfans Ceisio Gwaith os byddwch yn torri'r rheolau ar gyfer y budd-dal hwn. Gallai hyn ddigwydd:
Os bydd eich Lwfans Ceisio Gwaith yn dod i ben, efallai y gallwch gael taliad caledi Lwfans Ceisio Gwaith. Er mwyn i hynny ddigwydd, rhaid i chi fod mewn grwp sy'n agored i niwed, er enghraifft, bod gennych blant ar eich aelwyd, neu fod gennych broblem iechyd. Os nad yw hyn yn berthnasol i chi byddai angen i chi aros pythefnos cyn y gallech dderbyn taliad caledi. Gall eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol ddweud rhagor wrthych am y ddarpariaeth ar gyfer caledi. |





