|
|
|||||||||
| Cwsmeriaid | |||||||||
| |||||||||
| |||||||||
Cymhorthdal IncwmBeth yw Cymhorthdal Incwm?Arian ychwanegol yw hwn i bobl sydd ar incwm isel. Mae ar gyfer pobl nad oes rhaid iddynt gofrestru yn ddi-waith. Gallai hyn fod os ydych:
Mae ar gyfer pobl:
Beth yw'r cyfraddau budd-dal?Mae Cymhorthdal Incwm yn daliad budd-dal sy'n cynnwys tair rhan wahanol: lwfansau personol, premiymau a thaliadau i gwmpasu costau cartref penodol. Lwfansau personolPobl sengl
Cwpl
Os yw un partner neu'r ddau o dan 18 oed, caiff eu lwfans personol ei gyfrifo yn seiliedig ar eu hamgylchiadau penodol. Rhieni unigol
Plant dibynnol
Mae'r rhan fwyaf o deuluoedd sy’n cael Cymhorthdal Incwm yn derbyn cymorth ar gyfer eu plant drwy Credyd Treth Plant. Caiff penderfyniad ei wneud am drosglwyddo gweddill yr achosion mewn amser. I gael gwybod mwy am Gredyd Treth Plant. Beth sydd angen i mi ei wneud nesaf?Mae angen gwneud cais am fudd-dal arnaf - Ffoniwch 0800 012 1888 (8am i 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener). Cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith i weld os ydych yn gymwys i gael y budd-dal hwn neu darllenwch y daflen Gallwch lawrlwytho ffurflenni Cymhorthdal Incwm I wneud yn siwr na fyddwch yn colli allan ar unrhyw fudd-dal sy'n ddyledus i chi, dylech gysylltu â ni i weld os oes angen i chi lenwi'r ffurflen hon. Os byddwch yn lawrlwytho ffurflen dylech gysylltu â ni i gadarnhau dyddiad eich cais. Gallwch weld sut i gysylltu â ni yma. Gallwch lawrlwytho ffurflenni cais Cymhorthdal Incwm a ffurflenni cysylltiedig mewn fformat PDF. Nid yw'r ffurflenni hyn yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon. Dewiswch ffurflen o'r opsiynau isod.
Rydym wedi cyflwyno nodwedd arbennig sy'n eich galluogi i gadw'r ffurflen hon wrth i chi ei lenwi. Bydd y nodwedd hon ond yn gweithio mewn 'Adobe Acrobat reader' fersiwn 5.1 neu'n uwch. Golyga hyn nid oes rhaid i chi gwblhau'r ffurflen mewn un sesiwn. Cymorth gyda PDFs Rydym yn argymell eich bod yn cadw'r ffeil hon ar ddisg caled eich cyfrifiadur, disg hyblyg neu CD cyn dechrau ei chwblhau.
Os ydych eisiau argraffu ffurflen er mwyn ei lenwi mewn inc.
Gwneud Gais Ar-leinCymorth a ChyflogaethCyflwynwyd y Lwfans Cyflogaeth Chymorth (ESA) ar 27 Hydref 2008, a disodlodd Budd-dal Analluogrwydd a Chymhorthdal Incwm, a dalwyd oherwydd salwch neu anabledd, ar gyfer cwsmeriaid newydd yn unig. Cynlluniwyd y lwfans i’ch helpu i gyflawni eich potensial a’ch helpu i ennill annibyniaeth o’r byd budd-daliadau. Canfyddwch fwy am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Y wybodaeth ddiweddaraf am gymorth ar gyfer llog morgais Os ydych yn hawlioCymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cymorth a Chyflogaeth yn seiliedig ar incwm a’ch bod yn berchen ar eich cartref eich hun, efallai y bydd eich budd-dal yn cynnwys cymorth ychwanegol ar gyfer llog morgais (SMI) |





