|
|
|||||||||
| Cwsmeriaid | |||||||||
| |||||||||
| |||||||||
Budd-daliadau ProfedigaethBeth ydynt?Mae 3 math o fudd-dal profedigaeth. Gellir talu'r rhain yn dilyn marwolaeth gwr, gwraig neu bartner sifil. Bydd pa un a fydd gennych hawl i'w cael yn dibynnu ar y cyfraniadau Yswiriant Gwladol a dalodd eich partner. Dangosir y 3 budd-dal isod.
Ydynt yn addas i mi?Os gwnaethoch ddechrau gael budd-dal cyn 9 Ebrill 2001 oherwydd eich bod yn weddw, efallai y byddwch yn cael budd-dal gwraig weddw yn lle taliadau Profedigaeth. Beth yw'r cyfraddau budd-dal?
Beth sydd angen i mi ei wneud nesaf?Cewch archebu pecyn Budd-daliadau Profedigaeth dros y ffôn gan eich Canolfan Byd Gwaith, neu eich swyddfa nawdd cymdeithasol agosaf. Mae nodiadau gyda'r pecyn sy'n eich helpu i lenwi'r ffurflen gais.
Llwytho ffurflen i'w hargraffu a'i llenwi Neu fe allwch lwytho ffurflen hawlio BB1 oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Er mwyn cadw copi o'r ffeil hon ar ddisg, cliciwch ochr dde eich llygoden ar y cyswllt isod a dewis opsiwn 'Save Target As'. I wneud yn siwr na fyddwch yn colli allan ar unrhyw fudd-dal sy'n ddyledus i chi, dylech gysylltu â ni i weld os oes angen i chi lenwi'r ffurflen hon. Os byddwch yn lawrlwytho ffurflen dylech gysylltu â ni i gadarnhau dyddiad eich cais. Gallwch weld sut i gysylltu â ni yma. Unwaith i chi gwblhau’r ffurflen, anfonwch ef i’ch Canolfan Byd Gwaith agosaf neu swyddfa nawdd cymdeithasol mor gynted â phosib. Gall hawliadau ond cael eu hol-ddyddio tri mis am Lwfans Profedigaeth a Lwfans Rhieni Gweddw ac maent yn cael eu dyddio pan fo’r swyddfa yn eu derbyn, felly os ydych yn oedi efallai byddwch yn colli budd-dal. Mae’r terfyn amser am hawliau Taliad Profedigaeth wedi’i ymestyn i 12 mis. Nid yw'r ffurflen hon yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon. |





