|
|
|||||||||
| Cwsmeriaid | |||||||||
| |||||||||
| |||||||||
Budd-dal Tai a Budd-dal Treth CyngorBeth ydynt?Gall Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor helpu tuag at eich rhent a'ch Treth Cyngor. Eich awdurdod lleol fydd yn eu talu. Nid oes rhaid i chi fod yn derbyn unrhyw fudd-daliadau eraill i fod yn gymwys i gael Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Cyngor. Nid yw Budd-dal Tai yn cwmpasu eich holl gostau tai. A ydynt yn addas i mi?Os ydych ar incwm isel a bod angen help arnoch i dalu eich rhent neu Dreth Cyngor, gallai Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Cyngor eich helpu. Beth yw'r cyfraddau budd-dal?Mae uchafswm y Budd-dal Tai y gallwch ei gael yn dibynnu ar eich rhent cymwys. Efallai na fydd hyn yr un fath â'ch rhent llawn. Beth sydd angen i mi ei wneud nesaf?Os byddwch yn gwneud cais am Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, cewch ffurflen i wneud cais am Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor. Cwblhewch y ffurflen gais a'i hanfon i'ch awdurdod lleol. Os na fyddwch yn gwneud cais am Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, ond eich bod yn credu bod gennych hawl i gael Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Cyngor, gallwch gael ffurflen gan eich awdurdod lleol. Gallwch ddod o hyd i gyfeiriad eich awdurdod lleol yn adran rhifau busnes y llyfr ffôn. |





