|
|
|||||||||
| Cwsmeriaid | |||||||||
| |||||||||
| |||||||||
Cymorth a ChyflogaethCyflwynwyd y Lwfans Cyflogaeth Chymorth (ESA) ar 27 Hydref 2008, a disodlodd Budd-dal Analluogrwydd a Chymhorthdal Incwm, a dalwyd oherwydd salwch neu anabledd, ar gyfer cwsmeriaid newydd yn unig. Cynlluniwyd y lwfans i’ch helpu i gyflawni eich potensial a’ch helpu i ennill annibyniaeth o’r byd budd-daliadau. Canfyddwch fwy am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Budd-dal AnalluogrwyddBeth yw Budd-dal Analluogrwydd?Rydym yn talu Budd-dal Analluogrwydd i bobl sy'n rhy sâl neu'n anabl i weithio A allaf gael Budd-dal Analluogrwydd?Efallai y gallwch gael Budd-dal Analluogrwydd os:
Faint y byddaf yn ei gael?Ni chewch unrhyw arian am 3 diwrnod cyntaf eich cais. Gelwir y rhain yn 'ddiwrnodau o aros'. Yna cewch gyfradd tymor byr (is) o Fudd-dal Analluogrwydd am y 28 wythnos gyntaf o'ch cais. Ar ôl hynny, cewch Fudd-dal Analluogrwydd tymor byr (uwch) nes y byddwch wedi bod i ffwrdd o'r gwaith am 52 wythnos. Neu, os byddwch wedi bod yn y gwaith ac wedi cael tâl salwch am 28 wythnos, gallech gael y gyfradd tymor byr (uwch) ar unwaith. Ar ôl i chi fod i ffwrdd o'r gwaith am 53 wythnos, cewch Fudd-dal Analluogrwydd tymor hir. Beth yw'r cyfraddau budd-dal?O dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth Cyfradd is tymor byr: £67.75 Cyfradd uwch tymor byr: £80.15 Cyfradd sylfaenol tymor hir: £89.80 Oedran dros Bensiwn y Wladwriaeth Cyfradd is tymor byr: £86.20 Cyfradd uwch tymor byr: £89.80 Ychwanegiad Oedran Analluogrwydd Cyfradd is: £6.55 Cyfradd uwch: £15.65 Beth sydd angen I mi ei wneud nesaf?Cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith i weld os ydych yn gymwys ar gyfer y budd-dal hwn neu gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn y taflenni
Gallwch lawrlwytho ffurflenni cais Budd-dal Analluogrwydd I wneud yn siwr na fyddwch yn colli allan ar unrhyw fudd-dal sy'n ddyledus i chi, dylech gysylltu â ni i weld os oes angen i chi lenwi'r ffurflen hon. Os byddwch yn lawrlwytho ffurflen dylech gysylltu â ni i gadarnhau dyddiad eich cais. Gallwch weld sut i gysylltu â ni yma. Gallwch lawrlwytho ffurflenni cais Budd-dal Analluogrwydd mewn fformat PDF. Nid yw'r ffurflenni hyn yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon Dewiswch ffurflen o'r opsiynau isod. Cwsmeriaid Budd-dal Analluogrwydd 25 oed a throsoddMae angen gwneud cais am fudd-dal arnaf - Ffoniwch 0800 012 1888 (8am i 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener). Defnyddiwch un o'r ffurflenni canlynol:
Rydym wedi cyflwyno nodwedd newydd sy'n eich galluogi i gadw'r ffurflen hon wrth i chi ei lenwi. Bydd y nodwedd hon ond yn gweithio mewn 'Adobe Acrobat reader' fersiwn 5.1 neu'n uwch. Golyga hyn nid oes rhaid i chi gwblhau'r ffurflen mewn un sesiwn.
Cwsmeriaid Budd-dal Analluogrwydd o dan 25 oedDefnyddiwch un o'r ffurflenni canlynol:
Rydym wedi cyflwyno nodwedd arbennig sy'n eich galluogi i gadw'r ffurflen hon wrth i chi ei lenwi. Bydd y nodwedd hon ond yn gweithio mewn 'Adobe Acrobat reader' fersiwn 5.1 neu'n uwch. Golyga hyn nid oes rhaid i chi gwblhau'r ffurflen mewn un sesiwn. Mae'r ffurflenni hyn yn cynnwys nodiadau a fydd yn eich helpu i lenwi'r ffurflen ac yn dweud wrthych ble i anfon y ffurflen wedi'i chwblhau. Gwneud Gais Ar-leinGallwch wneud cais am Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Fudd-dal Analluogrwydd ar-lein |





