Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Cwsmeriaid
*
*Budd-daliadau oedran gweithioBack up a level (javascript:nodelink(196))
 
Beth ddylech ei wybodPrawf o HunaniaethGwneud cais newydd neu ailgais am fudd-dal
Edrych ymlaen a chynllunio ar gyfer y dyfodolHysbysu newid mewn amgylchiadau 
 
     
   *

Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol

Beth yw Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol?

Arian ychwanegol yw hwn os ydych yn sâl neu'n anabl oherwydd damwain neu afiechyd a achoswyd gan waith.

A allaf gael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol?

Damweiniau

Rydym yn defnyddio damwain i olygu digwyddiad neu gyfres o ddigwyddiadau yn y gwaith nad oeddent yn fwriadol ac a arweiniodd at anaf personol. Gallwch wneud cais ar unrhyw adeg i gael penderfyniad gennym p'un a oedd eich damwain yn ddamwain ddiwydiannol. Nid yw hwn yn gais am fudd-dal. Ond gallai fod o gymorth os byddwch yn penderfynu gwneud cais am fudd-dal yn y dyfodol oherwydd eich damwain.

Afiechydon

Mae'n rhaid:

  • eich bod wedi cael y clefyd o ganlyniad i waith,
  • eich bod wedi'ch cyflogi ym Mhrydain Fawr,
  • eich bod wedi gwneud mathau penodol o waith, a
  • bod y gwaith wedi'i wneud ar 5 Gorffennaf 1948 neu ar ôl hynny.

Efallai y bydd angen i chi gael archwiliad meddygol i'n helpu i benderfynu graddau'ch anabledd a pha mor hir y bydd yn para.

Ni fyddwn yn talu Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol i chi os gwnaethoch y gwaith a'ch gwnaeth yn sâl:

  • pan oeddech yn hunan-gyflogedig, neu
  • cyn 5 Gorffennaf 1948.

Faint y gallaf ei gael?

Mae faint y gallwch ei gael yn seiliedig ar ba mor anabl rydych chi.

Gellir ei dalu ar ôl 15 wythnos (90 diwrnod heb gyfrif dydd Sul) o'r diwrnod cyntaf y cewch eich gwneud yn anabl gan yr afiechyd neu'r ddamwain.

Budd-dal

Anabledd

dros 18 oed, neu o dan 18 oed gyda dibynyddion o dan 18 oed heb unrhyw ddibynyddion
100% £136.80 £83.85
90% £123.12 £75.47
80% £109.44 £67.08
70% £95.76 £58.70
60% £82.08 £50.31
50% £68.40 £41.93
40% £54.72 £33.54
30% £41.04 £25.16
20% £27.36 £16.77

Pryd a sut y dylwn wneud cais?

Os credwch y gallech gael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol, gwnewch gais cyn gynted â phosibl.

Os byddwch yn oedi, gallech golli rhywfaint o fudd-dal.

Gwnewch gais ar unwaith os oes gennych salwch a achoswyd gan eich gwaith.

Rydym yn delio â Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol yn y ganolfan trafod budd-daliadau. Cysylltwch â’r ganolfan dros y ffôn neu lythyr.

Cymru
Budd-dal Anafiadau Diwydiannol Castleford
Leodis Way
Leeds LS88 8AQ
Ffôn: 0845 758 5433
Ffôn Testun: 01977 464144

 Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (280.45kb)

 Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ffurlen cais (238 kb)

icon PDF Ffurflen gais Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (afiechyd penodol) (293.60kb)

Cymorth gyda PDFs

   


* Merch
*

Gwybodaeth Defnyddiol

Ceisiwch am swydd dros y ffôn trwy Ceiswyr Gwaith Uniongyrchol

Eisiau gwybod mwy am Y Fargen Newydd?

Taflenni a chanllawiau'r Ganolfan Byd Gwaith

icon PDF Cyfraddau Budd-daliadau a Phensiynau (373.68kb)











*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*