|
|
|||||||||
| Cwsmeriaid | |||||||||
| |||||||||
| |||||||||
Lwfans MamolaethBeth ydyw?Gall Lwfans Mamolaeth (MA) fod ar gael i’ch helpu i gymryd amser i ffwrdd i gael eich babi. Ni ddylech fod â hawl i gael Tâl Salwch Statudol gan unrhyw gyflogwr. Mae’n rhaid eich bod wedi cofrestru fel person hunangyflogedig neu wedi bod yn gyflogedig am o leiaf 26 wythnos allan o gyfnod o 66 wythnos yn rhedeg i mewn i’r wythnos cyn disgwyl eich babi. Dylech hawlio cyn gynted ag y gallwch, ar ôl i chi fod yn feichiog am 26 wythnos. Os byddwch yn oedi, gallech golli budd-dal. Mae nifer o amodau y mae angen i chi eu bodloni er mwyn hawlio budd-dal mamolaeth. Beth yw’r cyfraddau budd-dal?Cyfradd safonol: £117.18 neu 90% o’ch enillion wythnosol gros ar gyfartaledd os yw hyn yn llai na £117.18. Beth sydd angen i mi ei wneud nesaf?I sicrhau na fyddwch yn colli allan ar unrhyw fudd-dal sy’n ddyledus i chi, dylech gysylltu â ni i gael gwybod os bydd angen i chi lenwi’r ffurflen hon. Os byddwch yn lawrlwytho ffurflen dylech gysylltu â ni i sefydlu dyddiad eich cais. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith. Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith am ffurflen gais neu gallwch lawrlwytho ffurflen gais Lwfans Mamolaeth mewn fformat PDF. Nid yw’r ffurflenni hyn yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon.
Rydym wedi cyflwyno nodwedd arbennig sy’n eich galluogi i gadw’r ffurflen hon wrth i chi ei lenwi. Bydd y nodwedd hon ond yn gweithio mewn ‘Adobe Acrobat reader’ fersiwn 5.1 neu’n uwch. Golyga hyn nid oes rhaid i chi gwblhau’r ffurflen mewn un sesiwn.
Mae’r ffurflenni hyn yn cynnwys nodiadau a fydd yn eich helpu i lenwi’r ffurflen ac yn dweud wrthych ble i anfon y ffurflen wedi’i chwblhau. |





