Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .

Un rhiant. Dau ddiwrnod cyflog.

Sut byddwch chi yn ei wario?

  

Os ydych yn magu plant ar eich pen eich hun ac yn dechrau gweithio, byddwn yn rhoi £40 ychwanegol yr wythnos ar ben eich cyflog, neu £60 yr wythnos os ydych yn byw yn Llundain. Byddwn yn rhoi hwn i chi bob wythnos, yn ddi-dreth. Bydd yn teimlo fel eich bod yn cael eich talu dwywaith.

Wrth gwrs, rydym yn gwybod os ydych yn magu plant ar eich pen eich hun, gall dychwelydi waith fod yn sialens. Dyma’r resmwn i ni lunio Pecyn Dewisiadau ar eich cyfer.

Bydd yn dweud wrthych:• Sut i ddod o hyd i ofal plant fforddiadwy o safon• Y cymorth ariannol y mae hawl gennych i’w gael pan fyddwch yn gweithio • Sut i ymdopi mewn cyfweliadau • Sut i ysgrifennu eich CV Mewn gwirionedd, mae ganddo’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gynllunio eich ffordd yn ôl i mewn i waith. Gwnewch gais am Becyn Dewisiadau am ddim nawr.Ffoniwch 0800 085 5701 a gwnawn bostio Pecyn Dewisiadau atoch.

* Mae’r llinellau ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae galwadau i rifau 0800 am ddim o linellau daear BT ond efallai y bydd yn rhaid i chi dalu os byddwch yn defnyddio cwmni ffôn arall, ffôn symudol, neu os byddwch yn ffonio o dramor. Y rhif ffôn testun yw 0800 085 5729. Rydym yn darparu rhifau ffon testun ar gyfer pobl sy’n eu cael hi’n anodd siarad neu glywed yn eglur. Os nad oes gennych ffon testun, efallai y bydd gan ambell lyfrgell neu Ganolfan Gyngor ar Bopeth. Nid yw ffonau testun yn derbyn negeseuon testun o ffonau symudol..

Transcript of video