|
|
||
| Cwsmeriaid | ||
Cwestiynau a ofynnir yn aml SwyddiAllwch chi fy helpu i chwilio am waith? Yn anffodus, ni allwn roi cyngor am chwiliad gwaith unigol ar-lein o’r wefan hon ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gallwch weld manylion eich swyddi gwag ar-lein yma. Gallech hefyd ffonio Ceisiwr Gwaith Uniongyrchol ar 0845 6067 890 – mae’r llinellau ar agor yn ystod diwrnodau’r wythnos o 8am i 6pm ac ar ddydd Sadwrn o 9am i 1pm. Neu gallech ffonio eich Canolfan Gwaith neu swyddfa leol y Ganolfan Byd Gwaith ac ymweld â hi ddefnyddio’r Mannau Swyddi yno. Gallwch ddod o hyd i gyfeiriad a rhif ffôn eich swyddfa leol yma. A allwch roi rhagor o wybodaeth i mi am swydd a hysbysebir ar eich gwefan? / Sut gallaf fynd ati i wneud cais am swydd rydych yn ei hysbysebu? Yn anffodus ni allwn roi rhagor o fanylion am y swyddi gwag dros yr e-bost. Mae angen i chi ffonio Cyflogwyr Uniongyrchol ar 0845 6060 234 (Ffôn testun 0845 6055 255). Fel arall gallech gysylltu â’ch swyddfa Canolfan Gwaith/Canolfan Byd Gwaith leol, drwy ffonio neu drwy fynd yno eich hun, a dyfynnu rhif cyfeirnod y swydd. Sut gallaf fynd ati i hysbysebu swydd wag gyda’r Ganolfan Byd Gwaith? Bydd angen i chi gysylltu â Chyflogwyr Uniongyrchol drwy ffonio, ffacsio, neu drwy ddefnyddio’r ffurflen gyflwyno swyddi gwag ar-lein. I gael manylion am wasanaethau eraill sydd ar gael i gyflogwyr, ewch i’r adran ar Gyflogwyr ar y wefan hon. Hoffwn weithio i’r Ganolfan Byd Gwaith. Sut gallaf ddod i wybod am swyddi gwag presennol? Gallwch ddod o hyd i fanylion am swyddi gwag y Gwasanaeth Sifil, gan gynnwys y rhai ar gyfer y Ganolfan Byd Gwaith, trwy ddefnyddio’r swyddogaeth Chwiliad gwaith ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith. Dewiswch ‘Gweinyddol/Swyddfa’ o’r ddewislen ar gyfer grwp y swydd, yna ‘Llywodraeth Ganolog/Leol’ o’r ddewislen ar gyfer y math o swydd, yna ‘Gwasanaeth Sifil’ o’r ddewislen ar gyfer teitl y swydd. Gellir dod o hyd i wybodaeth gyffredinol am wneud cais am waith yn y Gwasanaeth Sifil ar wefan Recriwtio’r Gwasanaeth Sifil. |





