|
|
|||||||||
| Cwsmeriaid | |||||||||
| |||||||||
| |||||||||
Pobl anabl a gofalwyrA yw'r wybodaeth yma yn addas i mi?Bydd y wybodaeth yma yn berthnasol i chi:
Mae'n esbonio'r cymorth sydd ar gael i chi:
Mae ymgynghorwyr personol yn helpu'r rhan fwyaf o bobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd a gofalwyr sy'n chwilio am waith drwy'r Ganolfan Byd Gwaith. Gallant ddarparu manylion am swyddi gwag addas ac esbonio rhagor am yr amrywiaeth o raglenni sydd ar gael i'ch helpu. Os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch, gall ymgynghorwyr arbenigol eich helpu i gynllunio'r ffordd orau i chi ddod o hyd i waith. Os ydych eisoes yn gyflogedig, gall ymgynghorwyr arbenigol drafod eich sefyllfa gyflogaeth bresennol gyda chi. Os ydych yn poeni am golli eich swydd am reswm sy'n gysylltiedig â'ch anabledd neu'ch cyflwr iechyd, gall ein Hymgynghorwyr Gwaith i'r Anabl roi cyngor i chi a'ch cyflogwr, a chwilio am ffyrdd ymarferol i'ch helpu i gadw eich swydd. Os na allwch weithio, gallwn roi gwybodaeth i chi am y cymorth ariannol ac ymarferol y gallech eu cael, a'ch cyfeirio at wasanaethau priodol a gynigir gan sefydliadau eraill. Gall y wybodaeth ar y wefan hon eich helpu os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd, neu os ydych yn ofalwr. |








