Paratoi am swyddP'un a oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd, neu os ydych yn ofalwr, mae'r adran hon yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y cyfleoedd sydd ar gael a sut i wneud y gorau ohonynt. Mae cymorth ar gael os ydych am ddychwelyd i'r gwaith, parhau yn eich swydd bresennol neu ddod o hyd i waith â thâl am y tro cyntaf. Yn y Ganolfan Byd Gwaith, rydym yn ymrwymedig i'ch helpu i gyflawni eich nodau. Mewn rhai achosion, bydd hyn yn golygu edrych ar yr hyn sy'n eich atal rhag gweithio. Os ydych yn ystyried gweithio yn y dyfodol, ond nad ydych yn barod eto, gallwn eich helpu hefyd i symud yn y cyfeiriad cywir. Mae llawer o'r rhaglenni a'r gwasanaethau a ddisgrifir yn yr adran hon yn agored i ofalwyr ac eraill, ond mae rhai yn benodol ar gyfer pobl anabl a'r rhai â chyflyrau iechyd. Eich opsiynau gwaithOs nad yw swydd llawn amser yn addas i chi, mae opsiynau eraill ar gael. Dyma rai enghreifftiau:
- Gwaith rhan amser Dyma ffordd dda o addasu gwaith o amgylch eich cyfrifoldebau neu'ch ymrwymiadau eraill. Os yw'ch gwaith rhan amser yn llai na 16 awr yr wythnos, efallai y gallwch ddal i gael Budd-dal Analluogrwydd, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm. Gallwch barhau i fod â hawl i Lwfans Gofalwr os nad ydych yn ennill mwy na swm penodol (wedi i ni gymryd rhai treuliau i ystyriaeth.
- Rhannu swydd Weithiau gall dau berson rannu swydd llawn amser. Edrychwch am swyddi a hysbysebir fel rhai sy'n rhannu swydd. Os ydych am rannu swydd gyda rhywun rydych yn ei adnabod, gallech awgrymu'r syniad i'ch cyflogwr.
- Gweithio'n hyblyg Mae cyflogwyr weithiau'n cytuno ar drefniadau gwaith hyblyg. Gallai hyn olygu dewis eich amseroedd dechrau a gorffen neu weithio oriau hwy ar rai diwrnodau neu ar rai adegau o'r flwyddyn fel y gallwch gymryd mwy o amser i ffwrdd ar ddiwrnodau eraill neu ar adegau eraill o'r flwyddyn.
- Hunangyflogaeth Mae gweithio i chi eich hun yn cynnig hyblygrwydd a'r math cywir o her i rai pobl, ond bydd angen i chi gymryd cyfrifoldebau ychwanegol (er enghraifft, talu eich treth incwm eich hun).
- Gwaith gwirfoddol Mae gweithio heb dâl yn un ffordd o gael profiad gwaith a chael mwy o wybodaeth am faes sydd o ddiddordeb i chi. Mae'n dda ar gyfer eich CV (curriculum vitae) hefyd.
- Gwaith asiantaeth Gallech weithio mewn swydd am gyfnod penodol o amser (fel arfer am hyd y prosiect neu i gyflenwi ar gyfer aelod o staff parhaol).
- Gweithio yn ystod y tymor ysgol Gallai bod i ffwrdd yn ystod y gwyliau ysgol fod yn ddelfrydol os oes gennych blant a'u bod yn yr ysgol.
- Gweithio yn ystod y gwyliau Opsiwn ymarferol os ydych yn astudio yn y coleg yn ystod y tymor.
Gwaith a Ganiateir Os ydych yn cael Budd-dal Analluogrwydd neu Lwfans Anabledd Difrifol, efallai y gallwch wneud rhai mathau o waith, a elwir yn 'gwaith a ganiateir', heb i hynny effeithio ar eich taliadau. Gallai hyn eich helpu i mewn i waith o 16 awr neu fwy yr wythnos. Ceir rheolau llym ar y math o waith a ganiateir. Bydd angen i chi gysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith i gael gwybodaeth a chaniatâd i wneud y gwaith. Gallwch wneud gwaith a ganiateir os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm oherwydd eich bod yn sâl, ond bydd yn effeithio ar y swm a gewch. Gwaith a ganiateir (197.19kb)
Gwaith a ganiateir ffurlen cais (215kb)
|