Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Cwsmeriaid
     
   *

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml am Wasanaethau i Bobl Anabl

Mae rhestr isod o enghreifftiau o gwestiynau a ofynnir yn aml am wasanaethau i bobl anabl.

Er bod enghreifftiau o atebion yn cael eu darparu, os oes gennych unrhyw ymholiadau ychwanegol neu bryderon, neu os nid yw eich cwestiwn penodol yn cael ei gwmpasu yma, yna cysylltwch â’r Ymgynghorydd Gwaith Pobl Anabl (DEA) yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu Canolfan Gwaith.

Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith

C. Mae gennyf anabledd ac rwyf yn cael problemau i ddod o hyd i waith. Ble allaf gael rhywfaint o gymorth?

A. Cysylltwch â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu Canolfan Gwaith a gofynnwch iddynt wneud apwyntiad gyda’r Ymgynghorydd Gwaith Pobl Anabl (DEA). Gall y DEA drafod eich sefyllfa cyflogaeth gyda chi a chytuno ar y lefel fwyaf addas o gefnogaeth i roi cymorth i chi i fewn i gyflogaeth.

Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith

C. A oes unrhyw Gredydau Treth ar gyfer pobl anabl?

A. O Ebrill 2003 cyflwynwyd dau gredyd treth newydd, Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith yn lle y credydau treth oedd yn bodoli: Credyd Treth i Deuluoedd sy’n Gweithio, Credyd Treth i Berson Anabl a’r Credyd Treth Plant. Mae’r ddau gredyd newydd hwn yn cael eu gweinyddu a’u hawlio gan Cyllid a Thollau EM.

Mae’r Credyd Treth Plant (CTC) yn cymryd lle y taliadau sy’n ymwneud â phlant o fewn Credyd Treth i Deuluoedd sy’n Gweithio, Credyd Treth i Berson Anabl, Credyd Treth Plant, Cymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm.

Mae’r Credyd Treth Gwaith (WTC) yn gredyd treth i ychwanegu at enillion pobl sydd mewn gwaith ac yn gyffredinol mae’n cymryd lle y gefnogaeth oedolion o fewn Credyd Treth i Deuluoedd sy’n Gweithio, Credyd Treth i Berson Anabl a’r Credyd Cyflogaeth Y Fargen Newydd i’r rhai dros 50, ac mae’n cynnig ychydig o gefnogaeth i oedolion nad oes ganddynt blant neu anabledd. Mae’n parhau i gynnwys help gyda chostau gofal plant.

C. Pwy all wneud cais am gredyd Treth Gwaith?

A. Gallwch wneud cais am Gredyd Treth Gwaith os:

  • Rydych yn 16 oed neu drosodd, ac
  • Rydych yn gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos, ac
  • Rydych chi a’ch partner yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc, neu
  • Mae gennych anabledd sydd yn eich gosod o dan anfantais i gael swydd, neu
  • Rydych chi neu eich partner yn 50 oed neu drosodd ac yn dychwelyd i weithio yn dilyn cyfnod ar fudd-daliadau cymhwyso allan o waith.

Os nad oes gennych blant neu anabledd sydd yn eich gosod o dan anfantais i gael swydd, gallwch hefyd wneud cais am Gredyd Treth Gwaith os:

  • Rydych yn 25 oed neu drosodd, ac
  • Rydych yn gweithio am o leiaf 30 awr yr wythnos.

Mae Credyd Treth Gwaith ar gael i bobl hunangyflogedig ac i gyflogeion. Am fanylion pellach, ffoniwch:

Rhif Llinell Gymorth Credydau Treth: 0845 300 3900

Ffôn testun ar gyfer pobl sydd â nam ar eu clyw neu leferydd: 0845 300 3909

C. Rwyf yn berson anabl mewn gwaith cyflogedig ac rwyf yn poeni am golli fy swydd oherwydd effeithiau fy anabledd ar y gwaith rwyf yn ei wneud. Pwy all roi cyngor i mi am gadw fy swydd?

A. Cysylltwch â’r Ymgynghorydd Gwaith Pobl Anabl (DEA) yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu Canolfan Gwaith. Gall y DEA roi cyngor ymarferol i chi (ac i’ch cyflogwr os yn briodol) ar ail gynllunio swydd a newidiadau o fewn y gweithle. Efallai bydd y DEA hefyd yn awgrymu cyfnod o Paratoi am Waith i helpu i oresgyn y problemau sydd yn effeithio ar eich gwaith.

Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith

C. A ddylwn i ddatgan fy anabledd i gyflogwr pan fyddwn yn ymgeisio am swydd?

A. Mae'n rhaid i chi sôn am eich anabledd bob amser os gallai peri risg i'ch iechyd a diogelwch a phobl eraill. Mae gan hawl i gyflogwyr ofyn i chi am eich iechyd a'ch anabledd pan fyddwch yn ymgeisio am swydd. Ond dim ond un o sawl peth y byddant yn gofyn i chi yw hwn cyn penderfynu cynnig cyfweliad neu swydd.

Os na fydd cyflogwr yn gofyn i chi am eich iechyd neu anabledd, chi sydd â'r penderfyniad i ddatgan hyn ai peidio. Dyma ychydig bethau y dylech ystyried i'ch helpu i benderfynu beth i'w wneud.

Os gofynnir i chi am eich iechyd neu'ch anabledd, ceisiwch:

  • ateb mewn ffordd onest
  • dweud sut y gallai eich anabledd effeithio arnoch yn y gwaith
  • dweud os na fyddai'n cael unrhyw effaith arnoch yn y gwaith
  • siarad am eich anableddau,a
  • dweud pam mai chi yw'r person iawn ar gyfer y swydd.

Os byddwch yn llofnodi datganiad yn nodi nad oes gennych anabledd er bod anabledd gennych mewn gwirionedd, gallai hyn effeithio arnoch yn hwyrach.

Mae'n werth cofio os na fydd cyflogwr yn gwybod eich bod yn anabl, ni allant wneud unrhyw beth i'ch helpu llwyddo yn eich swydd.

C. Rwyf wedi cael cynnig swydd ond mae fy narpar gyflogwr a mi yn poeni a fydd y swydd yn iawn i mi. A oes unrhyw fath o gymorth ar gael?

A. Os oes gennych chi neu eich cyflogwr bryderon o ran p’un a fydd y swydd yn iawn i chi, holwch am y Cynllun Cyflwyniad i Swydd (JIS) gan y DEA yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu Canolfan Gwaith. Mae JIS yn talu grant o £75 yr wythnos i’r cyflogwr am y 6 wythnos cyntaf o’ch cyflogaeth er mwyn helpu gyda chostau cyflogaeth a hyfforddiant. Mae’n rhaid gwneud cais am JIS cyn i chi gychwyn y swydd.

Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith

C. Mae gennyf anabledd, sut y gall y rhaglen Mynediad at Waith (AtW) fy helpu?

A. Os yw eich anabledd neu gyflwr iechyd yn debygol o barhau am 12 mis neu fwy ac mae’n effeithio ar y math o waith rydych yn ei wneud (yn cynnwys hunangyflogaeth), efallai byddwch yn gymwys am rywfaint o help ymarferol yn y gweithle. Cysylltwch â’ch DEA, a fydd yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad ag Ymgynghorydd AtW.

C. Rwyf yn barod i gychwyn cwrs hyfforddi ond rwyf angen offer arbennig i roi cymorth i mi ymdopi. A all Mynediad at Waith helpu?

A. Mae AtW ar gael i bobl sydd mewn neu yn barod i gychwyn cyflogaeth taladwy. Dylech gael sgwrs gyda darparydd yr hyfforddiant ynglŷn â pha fath o gymorth maent yn gallu ei ddarparu yn ystod eich hyfforddiant.

C. Os yw’r rhaglen Mynediad at Waith yn darparu offer i mi yn y gweithle, faint o amser fydd angen i mi ddisgwyl amdano?

A. Y bwriad yw i gael yr help rydych ei angen i chi yn yr amser cyflymaf posibl. Os yw’n debygol o gymryd ychydig o amser gall yr Ymgynghorydd AtW edrych am atebion dros dro gyda chi a’ch cyflogwr.

C. Mae gennyf anabledd ac rwyf wedi clywed am CAM AT WAITH. Sut y byddaf yn gwybod os yw’n addas i mi?

A. Gall y DEA yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu Canolfan Gwaith ddweud mwy wrthych am CAM AT WAITH sydd ar gyfer pobl anabl sydd yn wynebu rhwystrau cyflogaeth mwy cymhleth oherwydd eu hanabledd.

C. Rwyf wedi clywed am y Cynllun Remploy Interwork. Sut y mae’n berthnasol i mi?

A. Mae Gwasnaethau Cyflogaeth Remploy yn bartneriaeth tair ffordd rhwng cyflogwr, person anabl a Remploy. Mae Remploy yn cydweithio yn agos gyda’r unigolyn i sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth gywir er mwyn iddynt gael cyflogaeth o fewn y farchnad agored. Gall unigolion gael help gyda recriwtio, hyfforddiant, chwiliad gwaith a chlwb swyddi, hyfforddiant swydd ayb. Mae Remploy hefyd yn cydweithio yn agos gyda chyflogwyr er mwyn sicrhau bod ein cleientiaid yn gallu cael cyflogaeth mewn ystod eang o sectorau diwydiannol a swyddi galwedigaethol. Am fwy o fanylion am Remploy, ymwelwch â’u gwefan yn http://www.remploy.co.uk/ neu ffoniwch nhw ar 02476 515 800.

C. A oes gan dudalennau’r we y Gwasanaeth Anabledd gysylltiadau i gymdeithasau anabledd neu wefannau eraill?

A. Drwy brif dudalennau’r gwefan y Ganolfan Byd Gwaith rydym wedi rhoi cysylltiadau i nifer o safleoedd yn cynnwys: gwefannau RNIB, RNID, Adran Gwaith a Phensiynau a gwefannau Learning and Workbank.

Er nad ydym wedi ein cysylltu yn uniongyrchol â nifer fawr o wefannau, gallwch gysylltu ag ystod eang o gymdeithasau anabledd drwy ymweld â gwefan y Equality and Human Rights Commission yn: www.equalityhumanrights.com/en/pages/cymraeghome.aspx

   


* *
*

Safleoedd cysylltiedig

Anabledd

MENCAP

Remploy

Scope

Ymddiriedolaeth Shaw











*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi ...

 Chwilio am swydd nawr

  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
Directgov logo
  *  
*   Cysylltwch â'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Pensiwn
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn Unig
Ymwadiad
 
*