Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Cwsmeriaid
*
*RhieniBack up a level (javascript:nodelink(196))
 
Chwilio am swyddParatoi am swyddHelp Ariannol
Hyfforddiant ychwanegolYdych chi erioed wedi ystyried gweithio i chi eich hunRhieni Unigol
 
     
   *

Rhieni

Os ydych yn rhiant, mae'r wefan hon yn cynnig gwybodaeth am y cymorth ymarferol sydd ar gael i chi. Mae'n cynnwys gwybodaeth am ddod o hyd i waith, gofal plant, hyfforddiant a help ariannol.

Rhieni Unigol

Os ydych yn rhiant unigol mae cymorth ychwanegol ar gael i chi pan fyddwch yn chwilio am waith a phan rydych yn dechrau gweithio.

I gael mwy o wybodaeth am y cymorth ychwanegol sydd ar gael i chi

Newidiadau pwysig i fudd-daliadau ar gyfer rhieni unigol

O 24 Tachwedd 2008, cyflwynwyd newidiadau i Gymhorthdal Incwm ar gyfer rhieni unigol penodol.

Mae'r newid yn un o nifer o newidiadau i sut mae'r system budd-daliadau presennol yn gweithio.

Gall y newidiadau hyn effeithio arnoch os ydych yn hawlio Cymhorthdal Incwm fel rhiant unigol neu pa fyddwch yn gwneud cais newydd am fudd-dal fel rhiant unigol.

I gael mwy o wybodaeth am y newidiadau hyn

Gwaith sy'n gweddu i'ch anghenion

Mae gennych lawer o opsiynau pan fyddwch yn barod i ddechrau gweithio neu'n edrych i newid eich patrwm gweithio. Os nad ydych wedi gweithio am ychydig, efallai y byddwch am dreulio rhywfaint o amser yn ymgartrefu mewn amgylchedd gwaith. Neu, efallai y byddwch am ddod o hyd i hyfforddiant i'ch helpu i gael y swydd gywir.

Nid oes rhaid i waith olygu gweithio'n llawn amser, mae yna opsiynau eraill a allai fod yn fwy addas pan rydych yn rhiant.

Ymgynghorwyr personol

Bydd ein Hymgynghorwyr Personol, a leolir yn y Ganolfan Gwaith yn cynnig yr holl help, cymorth a chyngor sydd ei angen arnoch. Gallant drafod eich sefyllfa bersonol a gweithio gyda chi i gyflawni eich nodau.

Gallant eich helpu i weithio allan beth sy'n iawn ar eich cyfer, ac ar gyfer eich plant nawr ac yn y dyfodol.

Gall eich ymgynghorydd personol gwneud cyfrifiad 'Gwell eich byd mewn gwaith' gyda chi. Byddant yn dechrau drwy gadarnhau unrhyw fudd-daliadau rydych yn eu cael ar hyn o bryd ac ychwanegu eich incwm teuluol wythnosol. Yna, byddant yn edrych ar y swm y gallech ei ennill mewn swydd y mae gennych ddiddordeb ynddi ac unrhyw fudd-daliadau y gallech eu cael, fel Budd-dal Tai. Bydd hwn yn eich helpu i benderfynu os bydd swydd yn iawn yn ariannol i chi.

   


* Woman and baby
*

Gwybodaeth Defnyddiol

Gwnewch gais am swydd dros y ffôn

Gwnewch gais am swydd drwy deledu digidol?

Cyhoeddiadau Canolfan Byd Gwaith

icon PDF Ein safonau gwasanaeth (176kb)

Cylchgronau

ysbrydoliaeth

Cymorth gyda ffeiliau PDF

Cysylltiadau Defnyddiol 

Sut y gall Directgov eich helpu chi. Gwyliwch y fideo a chael mwy o wybodaeth











*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  * Hyfforddwr Swyddi
  *  
*   Swyddi ...

 Chwilio am swydd nawr

  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
Directgov logo
  *  
*   Cysylltwch â'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Pensiwn
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn Unig
Ymwadiad
 
*