Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Cwsmeriaid
*
*Eich helpu i gael gwaithBack up a level (javascript:nodelink(1098))
     
   *

Cymorth ariannol i'ch helpu i mewn i waith

Mae grant swyddi yn darparu taliad di-dreth o £250 i rieni unigol. Mae'r grant swyddi yn cael ei dalu i bobl sydd wedi bod yn cael budd-daliadau penodol yn barhaol am 26 wythnos neu fwy ac sydd yn symud i waith llawn amser (dros 16 awr) sydd disgwyl iddo barhau am o leiaf 5 wythnos. Os ydych wedi bod yn cael Cymhorthdal Incwm, efallai y byddwch yn gallu cael help tuag at eich llog morgais. Telir hwn am y 28 diwrnod cyntaf ar ôl i chi neu'ch partner ddechrau gwaith llawn amser. Telir Grantiau Swyddi a help tuag at eich llog morgais yn awtomatig.

Efallai y gallwch hefyd gael arian i dalu am wythnos o ofal plant ffurfiol yn ystod yr wythnos cyn i chi ddechrau gweithio. Gall hyn helpu i ryddhau eich amser i ddelio ag unrhyw baratoadau y gallai fod angen i chi eu gwneud. Gall hefyd helpu eich plentyn i ymgartrefu mewn gofal plant ffurfiol cyn i chi ddechrau gweithio, yn hytrach na bod hynny'n digwydd ar yr un diwrnod.

Unwaith y byddwch yn gweithio, efallai y gwelwch eich bod yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith, a allai eich helpu i gadw mwy o'ch enillion a thalu am ofal plant. Gallech gael hyd at 80 y cant o'ch costau gofal plant cymwys yn ôl hyd at yr uchafswm y gost wythnosol y gallwch ei hawlio.

Gallwch gael gwybod mwy am gredydau treth (Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith) drwy ffonio'r llinell gymorth credyd treth ar 0845 302 1489 neu drwy ymweld â www.hmrc.gov.uk.

Credyd Mewn Gwaith

Mae Credyd Mewn Gwaith yn daliad di-dreth penodedig o £40 yr wythnos (£60 yr wythnos yn Llundain) ar gyfer rhieni sy'n magu plant ar eu pen eu hun. Mae'n daladwy am hyd at 52 wythnos ar ben eich enillion, pan fyddwch yn dechrau gwaith am o leiaf 16 awr yr wythnos.

Cael gwybod am Gredyd Treth Mewn Gwaith.

   


* *
*

Gwybodaeth Defnyddiol

Gwnewch gais am swydd dros y ffôn

Gwnewch gais am swydd drwy deledu digidol?

Cyhoeddiadau Canolfan Byd Gwaith

icon PDF Ein safonau gwasanaeth (176kb)

Cylchgronau

ysbrydoliaeth

Cymorth gyda ffeiliau PDF

Cysylltiadau Defnyddiol 

Sut y gall Directgov eich helpu chi. Gwyliwch y fideo a chael mwy o wybodaeth











*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  * Hyfforddwr Swyddi
  *  
*   Swyddi ...

 Chwilio am swydd nawr

  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
Directgov logo
  *  
*   Cysylltwch â'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Pensiwn
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn Unig
Ymwadiad
 
*