|
|
||||
| Cwsmeriaid | ||||
| ||||
Byw o ddydd i ddyddYn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae cymorth ariannol ac ymarferol ar gael a all eich helpu i fyw o ddydd i ddydd. Er enghraifft, os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i gael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm. O dan y cynllun Cychwyn Iach efallai y gallwch fod â hawl i gael llaeth, ffrwythau a llysiau neu fformiwla babanod os ydych yn feichiog neu bod gennych o leiaf 1 plentyn o dan 4 mlwydd oed. Ffoniwch 0870 1555 455 am ffurflen gais. Efallai y byddwch yn gymwys i gael Credyd Treth Plant, sy'n daliad i gefnogi teuluoedd â phlant. Telir i'r rhiant neu ofalwr sy'n bennaf gyfrifol am ofalu am y plentyn neu blant. Os ydych yn gweithio, efallai y gallai Credyd Treth Gwaith eich helpu i gadw mwy o'r arian rydych yn ei ennill. Help gyda chostau ychwanegolOs ydych yn byw ar incwm isel a'ch bod yn bodloni'r amodau y mae'n rhaid eu bodloni, efallai y gallwch gael help o'r Gronfa Gymdeithasol gyda chostau pwysig y mae'n anodd i chi eu talu o'ch incwm rheolaidd. Gellir talu Grantiau Gofal Cymunedol a Benthyciadau Trefnu i helpu i gwmpasu cost treuliau unigryw megis eitemau'r cartref, dillad ac esgidiau a rhai costau teithio. Weithiau gellir talu Benthyciadau Argyfwng i'ch helpu gyda'r gost o dalu rent ymlaen llaw (ond dim os mai awdurdod lleol yw eich landlord) neu:
Nid oes rhaid eich bod yn cael unrhyw fudd-dal i gael Benthyciad Argyfwng. Efallai y bydd gennych hawl i gael Taliad Tywydd Oer i helpu gyda chostau gwresogi ychwanegol yn ystod tywydd oer iawn. Gall y Gronfa Gymdeithasol helpu gyda chostau eraill hefyd megis prynu pethau sydd eu hangen ar fabi newydd ar unwaith (Grantiau Mamolaeth Cychwyn Cadarn), a helpu i dalu costau angladd (Taliadau Angladd) Edrych ymlaen a chynllunio ar gyfer y dyfodolMae gofalu am blant yn ymrwymiad hirdymor. I rai ohonoch, efallai bod oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn ymddangos yn bell i ffwrdd, ond wrth i chi nesáu ato bydd gennych nifer o opsiynau a fydd yn effeithio'n uniongyrchol ar eich arian. Po gynharaf y byddwch yn dechrau cynllunio, y mwyaf tebygol y bydd gennych sicrwydd ariannol yn ddiweddarach yn eich bywyd. Mwy o wybodaeth am edrych ymlaen a chynllunio ar gyfer y dyfodol. |








