|
|
||
| Cwsmeriaid | ||
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml am Chwiliad SwyddBydd y Ganolfan Byd Gwaith yn ceisio ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych ynglyn â'r wefan, ond cyn cysylltu â ni, sicrhewch eich bod wedi edrych ar y Cwestiynau a Ofynnir yn Aml isod. Efallai y gallwch ddatrys eich problem neu ateb eich ymholiad ar unwaith. 1. Sut mae gwefan y Ganolfan Byd Gwaith yn gweithio a pha mor aml y caiff y swyddi eu diweddaru?Dangosir swyddi newydd a newidiadau i swyddi presennol ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith ar unwaith ar ôl i gyflogwyr hysbysu'r Ganolfan Byd Gwaith. Bydd staff y Ganolfan Byd Gwaith yn rhoi manylion swyddi newydd ar y brif gronfa ddata swyddi ac yn diweddaru swyddi presennol. Mae cyflogwyr hefyd yn gallu hysbysu'r Ganolfan Byd Gwaith o swyddi gwag ar-lein drwy Gyflogwyr Uniongyrchol ar-lein. Cyn gynted ag y cânt eu harbed gan staff y Ganolfan Byd Gwaith neu gyflogwyr ac yn pasio profion dilysiant y system, caiff y swyddi eu harddangos ar Fannau Swyddi mewn Canolfannau Gwaith / swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith ac ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith. Mae tua 400,000 o swyddi sydd ar gael ar y gronfa ddata ar unrhyw adeg a phob dydd mae staff yn delio â thua 30,000 o swyddi gwag. 2. Rwy'n cael problemau wrth geisio cael gwybodaeth ar y wefan.Rydym yn monitro'r wefan yn gyson am unrhyw broblemau mynediad technegol ac yn eu datrys cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, os byddwch yn cael problemau yn rheolaidd wrth gael gafael ar wybodaeth, un achos cyffredin posibl yw gosodiadau eich porwr Rhyngrwyd neu'r meddalwedd diogelwch rydych yn ei ddefnyddio i warchod eich cyfrifiadur. Rydym yn eich cynghori i wirio'r rhain yn gyntaf i sicrhau bod Cwcis wedi'u galluogi (e.e. gydag Internet Explorer, gallwch addasu'r gosodiadau drwy fynd i Tools, ac yna Options). Efallai byddwch hefyd angen ychwanegu www.canolfanbydgwaith.gov.uk i'ch rhestr o safleoedd diogel a sicrhau nad yw tudalennau porwr gweithredol (aspx) heb eu hatal. 3. Pa borwyr sy'n gydnaws â'r cyfleuster chwilio swydd?Rydym wedi ehangu'r defnydd o wefan y Ganolfan Byd Gwaith i wneud yn siwr bod y wefan ar gael i gymaint o ddefnyddwyr â phosibl. Mae'r wefan yn gydnaws â'r rhestr o borwyr a llwyfannau a ddangosir yn y tabl isod:
Noder: Mae'n rhaid galluogi Cwcis i wneud defnydd llawn o'r wefan hon. 4. Sut y gallaf chwilio am swydd gan ddefnyddio eich gwefan?Mae chwilio am swyddi yn broses syml. Mae amrywiaeth o gamau ar gael i gyfyngu eich chwiliad i ddod o hyd i'r swyddi mwyaf addas. Os bydd angen rhagor o help arnoch gydag unrhyw un o'r camau hyn, gweler yr help sydd ar gael ar bob pwnc. 5. Sut mae'r Chwiliad Allweddair yn gweithio?Mae'r gair/geiriau a rhoddir yn y blwch testun Chwiliad Allweddair yn cael eu cyfateb i'r geiriau sydd yn y meysydd Teitl y Swydd a Disgrifiad o'r Swydd. Defnyddiwch eiriau allweddol a thermau sy'n adlewyrchu eich sgiliau a'ch gofynion swydd i ddod o hyd i swyddi sy'n addas i chi. Bydd y peiriant chwilio yn dod o hyd i bob swydd sy'n cynnwys unrhyw un o'r geiriau neu'r termau chwilio yn eu teitl a'u disgrifiad, sy'n cyfateb i'r lleoliad rydych wedi'i nodi. Mae'r cyfleuster chwilio yn ffonetig ac yn chwilio am eiriau sy'n swnio'n debyg. Gall hyn weithiau gynhyrchu rhai canlyniadau annisgwyl. 6. Faint o ganlyniadau swyddi fydd yn cael eu canfod?Byddwn yn dweud wrthych beth yw cyfanswm y swyddi y daethpwyd o hyd iddynt ar ein cronfa ddata sy'n cyfateb i'ch dewisiadau chwilio er bod uchafswm nifer y canlyniadau i'w gweld yn gyfyngedig. Os bydd eich chwiliad yn canfod mwy na 100 o swyddi sy'n cyfateb yn union, dangosir y 100 cyntaf o swyddi sy'n cyfateb i ddechrau gyda'r opsiwn i weld 100 o swyddi pellach ar ôl cyrraedd diwedd y rhestr. Os bydd eich chwiliad yn canfod llai na 100 o swyddi sy'n cyfateb yn union, bydd y rhain yn cael eu dangos ac yna'r swyddi sy'n cyfateb yn agos i'ch meini prawf chwilio er mwyn gwneud cyfanswm o 100 o swyddi. Caiff y swyddi eu gwahanu i rai sy'n cyfateb yn union a rhai sy'n cyfateb yn agos gan ddefnyddio lliwiau cefndir gwahanol gyda'r swyddi sy'n cyfateb yn union yn cael eu dangos yn gyntaf. Hefyd gallwch edrych ar swyddi sydd wedi cael eu hysbysu o ffynonellau eraill fel Swydd Fyrddau drwy ddewis 'Mwy o swyddi yma' ar waelod y tudalennau sydd â'r canlyniadau. Fodd bynnag, nid yw'r Ganolfan Byd Gwaith yn berchen ar nac yn rheoli'r swyddi hyn a dylai pob ymholiad gael ei gyfeirio yn uniongyrchol at yr hysbysebydd. 7. Beth yw swydd sy'n cyfateb yn union a swydd sy'n cyfateb yn agos?Bydd y chwiliad yn gwneud yn siwr eich bod yn gweld y swyddi sy'n cyfateb i'ch holl ddewisiadau. Gelwir y rhain yn ganlyniadau sy'n cyfateb yn union a bydd ganddynt sgôr cyfateb o 100%. Os nad oes llawer o ganlyniadau sy'n cyfateb yn union yn y rhestr swyddi, byddwch yn gweld swyddi sy'n cyfateb i'r rhan fwyaf o'ch dewisiadau. Gelwir y rhan yn ganlyniadau sy'n cyfateb yn agos a bydd ganddynt sgôr cyfateb o lai na 100%. Os bydd canlyniadau eich chwiliad yn canfod mwy na 100 o swyddi sy'n cyfateb yn union, dangosir y 100 cyntaf o swyddi sy'n cyfateb yn union. Ar ôl cyrraedd swydd rhif 100, dewiswch Tudalen Nesaf i ddangos hyd at 100 o swyddi pellach sy'n cyfateb yn union. Os yw eich chwiliad yn canfod llai na 100 o swyddi sy'n cyfateb yn union, yna dangosir swyddi sy'n cyfateb yn agos â'ch opsiynau chwilio mewn coch gan wneud y cyfanswm o 100 o swyddi wedi'u canfod. Y swyddi sy'n cyfateb â'ch teitlau swyddi dethol a'ch dewis pwysicaf fydd y rhai a welwch gyntaf yn y rhestr chwilio am swyddi sy'n cyfateb yn agos. 8. Pam nad yw rhai o ganlyniadau'r chwiliad ar gyfer y lleoliad a ddewisais?Dylai swyddi a gyflwynir yn y rhestr sy'n cyfateb yn union â'r swyddi sydd y tu allan i'r lleoliad a ddewiswyd gennych naill ai cynnwys rhyw elfen o weithio gartref, neu swyddi symudol sy'n cwmpasu ardal ehangach e.e. Canolbarth Lloegr, Gogledd Ddwyrain Lloegr. Mae'r swyddi a gyflwynir yn y rhestr swyddi sydd bron yn cyfateb yn ystyried eich dewisiadau chwiliad gwaith. Gallai'r rhestr er enghraifft gynnwys y math o swydd a ddewiswyd gennych ond efallai y bydd y swyddi hyn wedi cael eu lleoli yn unrhyw le led led Prydain Fawr. Er mwyn lleihau y nifer o swyddi sydd y tu allan i'r ardal rydych wedi'i ddewis yn adran 5 lle y gofynnwyd i chi 'Beth yw'r meini prawf pwysicaf rydych am ei chwilio?' dewiswch 'Lleoliad' o'r ddewislen. 9. Rwy'n cael naill ai gormod, ddim digon neu'r mathau anghywir o swyddi fel canlyniadau. Beth y dylwn ei wneud?Mae defnyddio mwy o gategorïau swyddi neu ardaloedd eang yn debygol o olygu rhestr hirach. Os bydd eich chwiliad yn canfod gormod o ganlyniadau swyddi neu fod y rhestr yn rhy gyffredinol, gallwch berfformio chwiliad newydd gan ddefnyddio llai o gategorïau swyddi neu ardaloedd llai, neu newid eich chwiliad presennol. Unwaith y bydd gennych restr o ganlyniadau, cliciwch ar yr opsiwn Chwiliad Manwl ac yna gallwch newid holl wybodaeth eich chwiliad neu rywfaint ohoni. Yna caiff eich canlyniadau chwiliad eu blaenoriaethu yn seiliedig ar eich dewisiadau newydd. Os ydych yn chwilio am swyddi nad yw'n ymddangos eu bod yn cyfateb i gategori arbennig, yna defnyddiwch y Chwiliad Allweddair. Rhowch air neu eiriau arbennig sy'n debygol o gael eu canfod yn y manylion swydd rydych yn chwilio amdanynt. Am fanylion pellach am Chwiliad Allweddair gweler cwestiwn rhif pump. 10. Pam nad yw manylion cyswllt y cyflogwyr yn cael eu dangos ar bob swydd wag?Mae cyflogwyr yn cael opsiwn i ddangos eu manylion cyswllt. Os yw cyflogwr wedi dewis peidio â dangos eu manylion, dylai cwsmeriaid gysylltu â Cheiswyr Gwaith Uniongyrchol i gael rhagor o wybodaeth am y cyflogwr a beth yw'r trefniadau i wneud cais. 11. Sut y gallaf gofrestru / defnyddio Fy Ffefrynnau?Gadewch i'r Ganolfan Byd Gwaith weithio i chi drwy ddefnyddio Fy Ffefrynnau i arbed eich hoff chwiliadau a chanlyniadau swyddi. I fynd i Fy Ffefrynnau, cliciwch ar y tab o'r Chwiliad i gael tudalen swyddi. Yna byddwch yn gallu logio i mewn/cofrestru drwy roi enw defnyddwyr a chyfrinair. Pan fyddwch wedi cofrestru, byddwch yn gallu arbed eich hoff chwiliadau a chael gafael arnynt ar unrhyw adeg. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os ydych yn gwneud yr un chwiliad yn rheolaidd. I arbed chwiliad, dewiswch y cyswllt Arbed y chwiliad hwn o'r rhestr o swyddi. Pan fyddwch yn logio i mewn, gallwch weld, chwilio neu ddileu Fy Newisiadau. Gallwch hefyd arbed swyddi o'ch chwiliadau a gweld y rhain yn Fy Swyddi. 12. Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair a/neu'r ateb i fy nghwestiwn diogelwch yn Fy Ffefrynnau, beth y gallaf ei wneud?Gwnewch yn siwr eich bod wedi rhoi eich enw defnyddiwr (gan ddefnyddio prif lythrennau lle y bo'n berthnasol) i gael eich cwestiwn cyfrinachol. Os ydych wedi anghofio'r ateb i'ch cwestiwn cyfrinachol bydd angen i chi gofrestru eto fel defnyddiwr newydd a dewis cyfrinair a chwestiwn cyfrinachol newydd. 13. Rwy'n poeni am breifatrwydd. Pa wybodaeth a ddangosir ar y Rhyngrwyd amdanaf i pan fyddaf yn anfon ebost at gyflogwr neu'n cofrestru ar gyfer Fy Ffefrynnau?Gweler Polisi Preifatrwydd y Ganolfan Byd Gwaith yn yr adran Ynglyn â Ni. 14. Pa wybodaeth mae'r wefan yn ei chasglu a sut y caiff ei defnyddio?I gael gwybodaeth am eich preifatrwydd a sut mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998, gweler y wybodaeth Polisi Preifatrwydd yn yr adran Ynglyn â Ni. 15. Rwy'n cael problemau yn atodi fy nogfen i'r ebost / Pa fathau o ffeiliau sy'n anaddas i'w hanfon dros yr ebost at gyflogwr?Os ydych yn cael problemau yn atodi dogfen yn yr ebost, gwnewch yn siwr bod eich dogfen wedi'i harbed ar ffurf ffeil dderbyniol, a maint sy'n llai na 150Kb.Am resymau diogelwch, dim ond dogfennau gyda'r estyniadau ffeil canlynol y caiff derbyn: Mathau O Ffeiliau A Dderbynnir .txt .mcw .doc .lwp .wri wk3 .rtf .ami .wk4 .wps .sam .xls .wk1 16. Mae fy nogfen yn fwy na 150kb, sut y gallaf ei hatodi?Gwnewch yn siwr nad oes gennych luniau neu logos yn eich dogfen, a allai gynyddu maint y ffeil. Dilëwch y rhain, arbedwch y ddogfen ac edrychwch i weld os yw'n llai na 150kb. Os yw'ch dogfen yn fwy na 150kb, arbedwch y ddogfen mewn rhannau llai ac anfonwch bob rhan mewn mwy nag un e-bost at y cyflogwr. 17. Rwyf yn defnyddio naill ai JAWS, Supernova, Zoomtext neu Dragon a phan fyddaf yn dewis y botwm browse nid yw'n gweithio.Mae'r gallu i bori yn ddibynnol ar y porwr gwe. Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn gofyn i chi ddewis y botwm return i gael mynediad i weithrediad y porwr gwe, tra bod Internet Explorer yn gofyn i chi ddewis y botwm space i gael mynediad i weithrediad y porwr gwe. Gweler adran help eich porwr gwe am fwy o wybodaeth. 18. A allaf newid maint y testun/ffont ar y wefan hon?Mae ein gwefannau wedi'u dylunio gyda defnyddioldeb a hygyrchedd mewn golwg, fel y gallwch ddewis maint y ffont ar eich cyfrifiadur i weddu eich hoffter personol. Pan yn defnyddio Internet Explorer gallwch newid maint y testun o'r ddewislen 'View' ac yna dewis 'Text sizes'. Dod o hyd i swydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) 19. Sut ydw i'n chwilio am waith dramor?Os ydych yn chwilio am swyddi dramor, mae dwy ffordd o wneud hynny wrth ddefnyddio 'Chwilio am swydd '. Gallwch ddewis naill ai:
Swyddi'r AEEPan fyddwch yn defnyddio'r opsiwn AEE (ac eithrio'r DU), byddwch yn cael mynediad at wasanaethau cyflogi cyhoeddus Ewrop. Gall y math hwn o chwiliad gymryd ychydig yn hirach, ac mewn ambell achos hysbysebir y swyddi gwag mewn iaith gwlad y swydd. Nid yw'r Ganolfan Byd Gwaith yn gyfrifol am gynnwys y swyddi hyn a dylech wirio'r telerau ac amodau yn ofalus. Swyddi Gwag RhyngwladolPan fyddwch yn defnyddio'r opsiwn Rhyngwladol (ac eithrio'r AEE ), cewch fynediad at gronfa ddata swyddi'r Ganolfan Byd Gwaith. Hysbysebir y swyddi hyn y tu allan i'r AEE. Swyddi gwag yng Ngogledd IwerddonGellir chwilio am swyddi gwag yng Ngogledd Iwerddon naill ai drwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Cyflogi Ewropeaidd neu drwy fynd i wefan Gogledd Iwerddon yn www.jobcentreonline.com. Neu gallwch siarad ag un o'n hymgynghorwyr ar 0845 60 67 890 a fydd yn gallu cael mynediad at ein holl swyddi gwag a chynnal chwiliad ar eich rhan. Swyddi Gwag yn GibraltarAr gyfer swyddi gwag yn Gibraltar siaradwch ag un o'n hymgynghorwyr ar 0845 60 67 890 a fydd yn gallu cael mynediad at ein holl swyddi gwag a chynnal chwiliad ar eich rhan Awgrymiadau ar gyfer chwilio am swyddi dramorCam 1 Ar yr hafan cliciwch ar y botwm 'Chwiliad gwaith nawr!' Cam 2 Dewiswch un 'Grwp Swyddi' o'r rhestr, a chliciwch 'Nesaf'. Cam 3 Dewiswch 'Pob un' o'r 'Mathau o Swyddi' waeth beth fo'r opsiynau eraill sydd ar gael a chliciwch 'Nesaf'. Cam 4 Dewiswch o'r gwymplen AEE neu wledydd Rhyngwladol tuag at ddiwedd y dudalen a chliciwch 'Nesaf'. Cam 5 O dan y pennawd 'Dewisiadau gwaith a chwilio?'
Cam 6 Arddangosir eich canlyniadau chwilio ar y dudalen hon. 20. Nid yw fy nghwestiwn wedi'i ateb yma. Ble y gallaf anfon fy nghwestiwn?Os nad yw'ch cwestiwn wedi'i ateb yn y rhestr uchod, cliciwch yma i Gysylltu â Ni. |





