Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Amdanom Ni
*
*Telerau ac AmodauBack up a level (javascript:nodelink(147))
     
   *

Telerau ac Amodau

1. Defnyddio'r wefan hon

1.1 Yr Adran Gwaith a Phensiynau sy'n berchen ar Wefan y Ganolfan Byd Gwaith. Os byddwch yn defnyddio gwefan y Ganolfan Byd Gwaith rydych wedi'ch rhwymo'n gyfreithiol i'r telerau a nodir isod. Os nad ydych yn cytuno i gael eich rhwymo yn gyfreithiol, peidiwch â defnyddio www.canolfanbydgwaith.gov.uk

2. Amrywiad

2.1 Gallem wneud newidiadau i wefan y Ganolfan Byd Gwaith, gan gynnwys y telerau hyn, ar unrhyw adeg. Cewch eich rhwymo yn gyfreithiol i'r telerau sy'n cael eu diwygio neu eu diweddaru o'r tro cyntaf y byddwch yn defnyddio gwefan y Ganolfan Byd Gwaith ar ôl i'r newidiadau gael eu nodi ar-lein. Darllenwch ein telerau yn rheolaidd.

3. Cywirdeb a Dibynadwyedd

3.1 Canllaw cyffredinol i'r gwasanaethau y mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn eu darparu a budd-daliadau yw gwefan y Ganolfan Byd Gwaith yn unig. Nid yw'n ddatganiad llawn ac awdurdodol o'r gyfraith na hawl i fudd-daliadau.
3.2 Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth sydd ar gael yn gywir, oni ni all dderbyn cyfrifoldeb os nad ydyw.
3.3 Gellir cael gwybodaeth lawnach am hawl budd-daliadau drwy gysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith.

4. Hawliau Eiddo Deallusol

4.1 Gallwch gopïo, argraffu neu lwytho deunydd, gwybodaeth a chynnwys i lawr o wefan y Ganolfan Byd Gwaith at eich defnydd personol, anfasnachol eich hun. Bydd angen i chi gael caniatâd ysgrifenedig gennym cyn y cewch ddefnyddio unrhyw wybodaeth arall ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith at unrhyw beth arall ond am ddefnydd personol neu anfasnachol.

4.2 Mae'r hawliau cyfreithiol o ran yr holl ddelweddau, nodau masnach, enwau masnach a logos yn eiddo i'r Adran Gwaith a Phensiynau a/neu drydydd parti. Ni chewch ddefnyddio unrhyw ddelwedd, nod masnach, enw masnach na logo heb gael caniatâd ysgrifenedig gan y perchennog yn gyntaf. Bydd eu defnyddio heb ganiatâd yn torri hawliau'r Ganolfan Byd Gwaith a'r trydydd partïon hynny. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn cymryd camau priodol mewn perthynas ag unrhyw ddefnydd heb ganiatâd.

5.Ein polisi e-bost
Ffordd o drosglwyddo ymholiadau cyffredinol yw cyfleusterau e-bost y Ganolfan Byd Gwaith. Nid yw'n ffordd ddiogel o anfon gwybodaeth bersonol. Ni ellir gwarantu y gellir trosglwyddo data dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Gwnawn bob ymdrech i ddiogelu'r wybodaeth bersonol a anfonwch atom, ond ni allwn warantu ei diogelwch. O'r herwydd, dylid trosglwyddo cyn lleied o wybodaeth bersonol â phosibl, a chaiff ei throsglwyddo ar eich risg eich hun. Mae'n ddrwg gan y Ganolfan Byd Gwaith na all gynnal trafodaethau estynedig gydag unigolion dros e-bost. Fodd bynnag, os bydd angen, gellir parhau â'r trafodaethau drwy ddulliau eraill.


6. Dolenni

6.1 Ceidw'r Ganolfan Byd Gwaith yr hawl i symud neu newid URLau ei gwefannau ar unrhyw adeg er mwyn diwallu ei hanghenion busnes newidiol a gwella ei gwasanaeth ar-lein.
6.2 Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith yn gyfrifol o gwbl os na fydd gwefan y Ganolfan Byd Gwaith ar gael ar unrhyw adeg benodol. Nid ydym yn gwarantu y bydd gwefan na chynnwys y Ganolfan Byd Gwaith ar gael, heb amhariad a gwallau, ac y caiff gwallau eu cywiro neu fod gwefan, cynnwys neu systemau ategol y Ganolfan Byd Gwaith heb firysau neu fwydod.
6.3 Mae gwefannau allanol yn gosod dolen i'r wefan hon ar eu risg eu hunain. Nid yw'r Ganolfan Byd Gwaith yn annog dolenni hir ond mae'n argymell gosod dolen i'r hafan, sy'n llai tebygol o symud neu newid.
6.4 Ni chaiff dolenni o wefan y Ganolfan Byd Gwaith i wefannau eraill eu rheoli. Ni allwn fod yn gyfrifol a/na bod yn atebol am gynnwys unrhyw wefan â dolen iddi.
6.5 Ni cheir dehongli cynnwys dolen i wefan allanol gan y Ganolfan Byd Gwaith fel ardystiad o'r safle hwnnw na'r cynnyrch neu wasanaethau y mae'n eu darparu.

7. Rhwymedigaeth

7.1 Nid ydym yn derbyn unrhyw rwymedigaeth am unrhyw un o'r mathau canlynol o golled neu ddifrod y gallwch eu dioddef wrth i chi ddefnyddio gwefan y Ganolfan Byd Gwaith p'un a oedd colledion o'r fath wedi'u rhagweld, y gellid fod wedi eu rhagweld, na chawsant eu rhagweld, yn hysbys, yn anhysbys neu fel arall.
7.2 colled a gafwyd pan wnaethoch ddefnyddio gwefan y Ganolfan Byd Gwaith y tro diwethaf, y tro cyntaf neu'n gyffredinol (hyd yn oed os yw'r golled honno o ganlyniad i fethu â chydymffurfio â'r telerau hyn neu esgeulustra ar ein rhan);
7.3 unrhyw golled fusnes y gallwch ei chael gan gynnwys colli incwm, refeniw, elw neu gynilion rhagweledig (p'un a yw'r colledion hyn yn fai arnom yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.)
7.4 unrhyw golled arall nad yw'n ymwneud â'n methiant i gydymffurfio â'r telerau hyn neu ein hesgeuluster neu dorri dyletswydd statudol.
7.5 unrhyw golled o ganlyniad i fethiant o ran unrhyw barti ar wahân i ni.


8. Unioni

8.1 I'r graddau ag y gallwn yn ymarferol wneud hyn, gallwn derfynu eich gallu i weld unrhyw ran o wefan y Ganolfan Byd Gwaith ar unrhyw adeg heb rybudd, os byddwch yn torri unrhyw delerau o'r cytundeb hwn.
8.2 Os penderfynir bod unrhyw delerau yn anghyfreithlon, yn annilys neu na ellir eu gweithredu mewn unrhyw ffordd arall yna bydd yr eitemau eraill yn parhau i fod mewn grym yn llawn.
8.3 Caiff y telerau hyn eu gweithredu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Lloegr.

© Yr Adran Gwaith a Phensiynau 2002+ 2008
Jobcentre Plus
Level One
Steel City House
West Street
Sheffield
S1 2GQ

   


* *
*

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Gwybodaeth i Gwsmeriaid

Gwybodaeth i Gyflogwyr

Gwybodaeth i Bartneriaid

Help sydd ar gael

Gall ceiswyr gwaith chwilio a cheisio am swydd dros y ffôn. Ffoniwch Ceisiwr Gwaith Uniongyrchol

Gall cyflogwyr hysbysebu ei swydd wag gyda’r Ganolfan Byd Gwaith. Cysylltwch â Cyflogwyr Uniongyrchol










*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*