Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Amdanom Ni
*
*Polisi PreifatrwyddBack up a level (javascript:nodelink(147))
     
   *

Polisi Preifatrwydd

Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn parchu eich preifatrwydd ac mae'n ceisio cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998, sy'n cyrraedd y safonau y cytunwyd arnynt o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Prif elfennau ein Polisi Preifatrwydd yw:

1. Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn gennych. Byddwn yn casglu ac yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol mewn modd teg a chyfreithlon.

2. Lle y caiff gwybodaeth bersonol ei chasglu gennych byddwn yn ei wneud yn glir i chi at ba ddiben y caiff ei chasglu a sut y caiff ei defnyddio. Byddwn yn dweud wrthych os byddwn yn cynnig trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti.

3. Gallwn gasglu neu ddefnyddio gwybodaeth amdanoch chi at y dibenion canlynol:

A) eich gwahodd i adael cyfeiriad e-bost, eich enw neu gyfeiriad fel y gallwn gysylltu â chi gyda mwy o wybodaeth;
B) defnyddio data "ffrwd clicio" i ddadansoddi'r defnydd o'r wefan a'r llywio drwyddi lle y gwahoddir i chi adael cyfeiriad e-bost, er enghraifft, i gysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith fel y gallwn roi ymateb clir i chi o ran at ba ddiben y caiff y wybodaeth honno ei defnyddio. Lle nad ydych yn nodi cyfeiriad e-bost ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddiben digyswllt arall.
C) os defnyddiwch y dewis "Fy newisiadau" neu "Fy ffefrynnau" yn rhan Chwilio Swydd y wefan, cedwir unrhyw wybodaeth a nodwch yn ddiogel a chaiff ond ei defnyddio i'ch helpu mewn chwiliadau yn y dyfodol.

Ni chaiff eich gwybodaeth ei defnyddio at unrhyw ddiben arall heblaw os ydym yn dweud wrthych yn benodol.

4: Ni fyddwn yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi drwy gymwyseddau fel "cwcis". Pan fyddwch yn gwneud chwiliad swydd yn y Banc Swyddi, gallwn ddefnyddio "sesiwn cwcis" dros dro i gadw'r dewisiadau chwilio a nodwch. Ni chaiff unrhyw wybodaeth a gedwir mewn "sesiwn cwcis" ei chadw ar ôl i chi gwblhau eich chwiliad swydd.

5. Ni fyddwn yn casglu nac yn defnyddio mwy o wybodaeth na'r hyn sydd ei hangen arnom at unrhyw ddiben na'i chadw am fwy o amser nag sydd ei angen;

6. Byddwn yn sicrhau y caiff gwybodaeth bersonol a roddir ei chadw'n ddiogel i atal pobl rhag ei gweld heb awdurdod, ei cholli neu ei dinistrio;

7 Ni chaiff data personol ei drosglwyddo i wlad neu diriogaeth y tu allan i AEE.

8. Mae hawl gennych i ofyn am gopi o'r wybodaeth bersonol y mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn ei chadw amdanoch, a chywiro unrhyw wallau, (os talwch ffi resymol - include if appropriate);

9. Nid yw'r Ganolfan Byd Gwaith yn rhannu unrhyw wybodaeth sydd ganddi gyda sefydliadau at ddibenion masnachol.

10. Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn casglu ffigurau prysurdeb y wefan i wella cynnwys y wefan a deall sut y mae defnyddwyr yn llywio drwy wefan y Ganolfan Byd Gwaith. Rydym yn defnyddio cwcis i wneud hyn. (Ffeiliau gwybodaeth bach yw cwcis sy'n cadw ac yn adfer gwybodaeth am eich ymweliad â'r safle)

11. Mae cwcis yn eich adnabod fel rhif. Os nad ydych yn gyfforddus â hyn, gallwch analluogi cwcis ar eich porwr drwy newid y gosodiadau yn y ddewislen dewisiadau ar eich porwr.

12. Rydym hefyd yn defnyddio technoleg i gasglu gwybodaeth fel eich cyfeiriad rhyngrwyd a gaiff ei gadw mewn logiau mynediad i'r rhyngrwyd.

13. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglyn â phreifatrwydd neu eich bod o'r farn nad ydym yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998 anfonwch neges e-bost atom yn contact-us@jobcentreplus.gov.uk

14. Byddwn yn adolygu ein polisi preifatrwydd yn rheolaidd i sicrhau y caiff ei ddiweddaru a'i fod yn cydymffurfio â'r gyfraith.

   


* *
*

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Gwybodaeth i Gwsmeriaid

Gwybodaeth i Gyflogwyr

Gwybodaeth i Bartneriaid

Help sydd ar gael

Gall ceiswyr gwaith chwilio a cheisio am swydd dros y ffôn. Ffoniwch Ceisiwr Gwaith Uniongyrchol

Gall cyflogwyr hysbysebu ei swydd wag gyda’r Ganolfan Byd Gwaith. Cysylltwch â Cyflogwyr Uniongyrchol










*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*