Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Amdanom Ni
*
*Perfformiad Canolfan Byd GwaithBack up a level (javascript:nodelink(147))
 
Esboniad o'r TargedauTargedau 2005 - 6Targedau 2006 - 7
Targedau 2007 - 8Targedau 2008 - 9 
 
     
   *

Esboniad o’r Targedau

System Bwyntiau y Targed Dechrau Swydd

Am bob person y bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn ei helpu i mewn i waith, rhoddir pwyntiau yn unol â statws gwaith neu fudd-dal y cwsmer. Po uchaf yw blaenoriaeth y grwp cleient, y mwyaf o bwyntiau a roddir am y swydd honno. Gyda'i gilydd ceir pum categori pwyntiau gwahanol gan gwmpasu amrywiaeth o gleientiaid y Ganolfan Byd Gwaith, sef:

Grwp Blaenoriaeth Cleient 1 - Sgôr pwyntiau dechrau swydd12

  • Rhieni Unigol di-waith gan gynnwys pobl ar y Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol
  • Y rhai ar y Fargen Newydd ar gyfer Pobl Anabl
  • Pobl sy'n cael budd-dal sylfaenol penodol (Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Anabledd Difrifol, Lwfans Gofal i'r Anabl a Budd-dal Profedigaeth)

Grwp Blaenoriaeth Cleient 2 - Sgôr pwyntiau dechrau swydd 8

  • Pobl ar y Fargen Newydd 50 oed a throsodd
  • Pobl ar y Fargen Newydd 25 oed a throsodd
  • Y rhai ar y Fargen Newydd ar gyfer Pobl Ifanc
  • Ardaloedd Cyflogaeth
  • Pobl eraill ag Anableddau nad ydynt wedi'u cynnwys o fewn Grwp Blaenoriaeth Cleient 1
  • Y rhai sy'n gwneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith yn y tymor hir (dros 6 mis)

Grwp Blaenoriaeth Cleient 3 - Sgôr pwyntiau dechrau swydd 4

  • Y rhai sy'n gwneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith yn y tymor byr (o dan 6 mis)

Grwp Blaenoriaeth Cleient 4 - Sgôr pwyntiau dechrau swydd 2

  • Y rhai nad ydynt yn gwneud cais sy'n ddi-waith

Grwp Blaenoriaeth Cleient 5 - Sgôr pwyntiau dechrau swydd 1

  • Pobl mewn gwaith

Un o flaenoriaethau'r Ganolfan Byd Gwaith yw helpu pobl yn y grwpiau a'r ardaloedd mwyaf difreintiedig i gystadlu am swyddi a’u cadw. Felly, dyrennir pwyntiau ychwanegol:

  • Ar gyfer pob cleient Lwfans Ceisio Gwaith sy'n parhau heb gael budd-dal am 4 wythnos ar ôl dechrau swyddi, rhoddir sgôr – 1 Pwynt Dechrau Swydd Ychwanegol
  • Ar gyfer pob swydd a ddechreuwyd yn y 60 o ddosbarthau Awdurdod Lleol penodedig sy'n cynnwys y 30 o Ddosbarthau Awdurdod Lleol gyda’r safle marchnad lafur isaf a'r 30 o Ddosbarthau Awdurdod Lleol gyda'r boblogaeth lleiafrifoedd ethnig uchaf – 2 Bwynt Dechrau Swydd Ychwanegol

Targed Gwerth Ariannol Twyll a Chamgymeriad

Nod y targed hwn yw lleihau'r arian o gollir mewn taliadau Cymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith a achosir gan:

  • camgymeriadau a wneir gan gwsmeriaid
  • camgymeriadau a wneir gan staff
  • twyll cwsmeriaid

Cyhoeddir y cynnydd tuag at y targed hwn ym mis Mawrth a mis Medi bob blwyddyn.

Y Targed Gwasanaethau Cwsmeriaid

Mae'r targed Gwasanaethau Cwsmeriaid yn mesur ein perfformiad i gwrdd â safonau ac ymrwymiadau Siarter Cwsmeriaid y Ganolfan Byd Gwaith a Siarter y Cyflogwyr – mae felly’n ein helpu i fesur ein gwasanaeth i gleientiaid a chyflogwyr.

Mae dwy elfen i'r Targed Gwasanaethau Cwsmeriaid; Cleientiaid a Chyflogwyr. Mae elfen Cleientiaid y targed yn cyfrif am 75% ac mae elfen y Cyflogwyr yn cyfrif am 25% o'r targed cyffredinol. Caiff y rhain eu mesur o dan bedwar pennawd:

  • Cyflymder – Pa mor gyflym y byddwn yn ateb y ffôn, yn cyfarch y cwsmer, yn delio â chwsmeriaid dros y ffôn, a wyneb yn wyneb.
  • Cywirdeb – Cywirdeb y wybodaeth a roddwn dros y ffôn a wyneb yn wyneb.
  • Bod yn rhagweithiol – Pa mor dda rydym yn deall ceisiadau cwsmeriaid, yn rhagweld eu hanghenion a pha mor llwyddiannus rydym yn teilwra ein gwasanaethau i gwrdd â'u hanghenion unigol.
  • Yr amgylchedd – Ansawdd ein hadeiladau, cyfleusterau, a'u hygyrchedd a chyflwr ffisegol.

25% yw cyfran y targed gwasanaethau cwsmeriaid a ddyrennir i bob un o’r pedwar gwasanaeth. Mae cyflymder, cywirdeb a rhagweithioldeb cyflogwyr hefyd yn gyfartal ar 33.3% am na fesurir elfen yr amgylchedd ar gyfer cyflogwyr, am mai nifer cymharol fechan o gyflogwyr sy’n ymweld â’n swyddfeydd.

Targed Canlyniad y Cyflogwr

Ni all y Ganolfan Byd Gwaith gyflawni ei hamcanion heb bartneriaeth agos â chyflogwyr ac felly bydd angen i ni gynnig y gwasanaeth gorau posibl iddynt. Cynlluniwyd targed Canlyniad y Cyflogwr i'n helpu i wneud hynny.

Bydd Targed Canlyniad y Cyflogwr yn mesur pa mor gyflym ac effeithiol y caiff anghenion recriwtio cyflogwyr eu cwrdd. Caiff ei fesur drwy ddefnyddio dwy elfen:

  • Datrys – a gafodd y swydd wag ei llenwi, sy'n cyfrif am 25% o'r targed cyffredinol.
  • Ymatebolrwydd – a gafodd y swydd wag ei llenwi o fewn terfyn amser a oedd yn cwrdd â'u hanghenion, sy'n cyfrif am 75% o'r targed cyffredinol.

Y Targed Cyflenwi Busnes

Diben y targed hwn yw gwneud yn siwr ein bod yn cyflenwi ein prosesau busnes allweddol yn effeithlon, yn gywir ac i'r safonau y cytunwyd arnynt. Mae'r targed yn mesur ein perfformiad mewn pump o brosesau pwysicaf y Ganolfan Byd Gwaith:

  • Prosesu ceisiadau am Gymhorthdal Incwm yn gywir
  • Prosesu ceisiadau am Lwfans Ceisio Gwaith yn gywir
  • Gwneud apwyntments, cynnal cyfweliadau â chleientiaid, a mynd ar drywydd unrhyw achosion lle y methodd cleientiaid â mynychu cyfweliadau.
  • Prosesu penderfyniadau Profion Meddygol Budd-dal Analluogrwydd yn gywir ac yn brydlon
  • Adnabod pobl mewn grwpiau cleientiaid penodol sydd ag anghenion sgiliau llythrennedd, iaith a rhifedd.

Mesurir y perfformiad drwy gymryd cyfartaledd y canlyniadau ar gyfer pob un o'r pum categori, gyda phob un ohonynt yn cyfrannu 20% at y sgôr cyffredinol.

   


* *
*

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Gwybodaeth i Gwsmeriaid

Gwybodaeth i Gyflogwyr

Gwybodaeth i Bartneriaid

Help sydd ar gael

Gall ceiswyr gwaith chwilio a cheisio am swydd dros y ffôn. Ffoniwch Ceisiwr Gwaith Uniongyrchol

Gall cyflogwyr hysbysebu ei swydd wag gyda’r Ganolfan Byd Gwaith. Cysylltwch â Cyflogwyr Uniongyrchol










*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*