|
|
||||
| Amdanom Ni | ||||
| ||||
Cynlluniau Cydraddoldeb y Ganolfan Byd Gwaith2008 Cyhoeddodd yr Adran ei chynlluniau cydraddoldeb hiliol, anabledd a rhyw ar gyfer 2008-2011 ar 29 Mai 2008 – gan gynnwys un ar gyfer y Ganolfan Byd Gwaith. Mae’r cynlluniau yn nodi sut y byddwn yn mynd i’r afael â’n dyletswyddau cyfreithiol a sut y byddwn yn gweithio tuag at gydraddoldeb i’n holl gwsmeriaid a’n staff. Maent yn adeiladu ar gynlluniau a chynlluniau gweithredu blaenorol yr Adran. Gellir dod o hyd i fanylion am y cynlluniau ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Mae gwefan yr Adran Gwaith a Phensiynau hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut i archebu fersiynau a fformatau eraill o gyhoeddiadau cynlluniau cydraddoldeb. 2007 Ym mis Tachwedd 2007, cyhoeddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau ei hadroddiadau cyntaf ar gynydd blynyddol ar anabledd a rhyw, yr adroddiad ar gynnydd blynyddol ar hil, a’r diweddaraf am agweddau eraill ar amrywiaeth. Gellir dod o hyd i gynllun gweithredu’r Ganolfan Byd Gwaith ar gydraddoldeb anabledd, rhyw a hil ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau. 2006 Cyhoeddwyd Cynlluniau Cydraddoldeb Anabledd a Rhyw ac Adroddiad ar Gynnydd y Cynllun Cydraddoldeb Hiliol ym mis Rhagfyr 2006 ac mae hefyd ar gael yn y fformatau canlynol:
Yn dilyn cyhoeddiad y Cynllun Cydraddoldeb Rhyw ar 1 Rhagfyr 2006, gwnaeth y Comisiwn Cyfle Cyfartal (EOC) roi sylwadau ar y ddogfen. Rydym wedi ymateb i’r sylwadau hyn mewn atodiad, sydd ar gael yn y cyswllt canlynol.
2005
Fersiynau a fformatau eraill Gallwch archebu copïau o’n cyhoeddiadau cynlluniau cydraddoldeb o Linell Archebu DWP. Manylion cyswllt Cynlluniau Cydraddoldeb y Ganolfan Byd Gwaith Rydym yn croesawu sylwadau ar eich Cynlluniau Cydraddoldeb a gallwch gysylltu â ni fel a ganlyn: Yn y post: Jobcentre Plus Dros y ffôn: 0114 294 3019 |





