|
|
||
| Amdanom Ni | ||
Hafan Cyngor WiseWyddech chi, erbyn 2025, bydd hanner y boblogaeth oedolion yn 50 oed a throsodd? Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn cydnabod yr heriau sy'n gysylltiedig â hyn i'r DU ac wedi ffurfio Cyngor Wise i gynnig eu barn a'u profiad i'r ddadl. Gwasanaeth cynghori ar-lein penodedig yw Cyngor Wise dan arweiniad y dyfeisiwr Trevor Baylis sy'n ceisio darparu: Cyngor i bobl dros 50 oed Mae Cyngor Wise yn chwarae rhan bwysig o ran herio llawer o fythau traddodiadol sy'n gysylltiedig â phobl hyn a'r gweithle. Mae credoau cyffredin fel 'anodd diddyfnu hen; anodd dysgu hen gostog' yn aml yn anghywir ac yn rhwystro pobl hyn rhag cael y cyfleoedd i fod yn weithredol yn y gweithlu. Dengys ein gwaith ymchwil diweddar pa mor anghywir yn wir yw'r mythau hyn gyda 40% o weithwyr hyn yn dweud eu bod yn credu y gall eu cydweithwyr iau ddysgu sgiliau iddynt nad oedd ganddynt yn flaenorol. I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil hwn a'r gwirionedd y tu ôl i oedran yn y gweithle, ewch i'n hadran Newyddion i ddarllen y datganiadau i'r wasg diweddaraf. Mae Cyngor Wise o'r farn y bydd yn rhaid i agweddau newid wrth i'n poblogaeth newid. Mae busnesau eisoes yn newid eu barn ac yn ceisio manteisio ar y sgiliau a'r profiad y gall gweithwyr hyn eu darparu. Mae angen i bobl hyn herio eu rhagdybiaethau eu hunain hefyd a chydnabod bod cymdeithas eu heisiau a'u hangen i chwarae rhan weithredol. Nid dyhead yw hyn ond rhywbeth sy'n digwydd nawr. Bob dydd mae cannoedd o bobl yn cymryd y cam nesaf yn eu bywydau gwaith, yn derbyn heriau newydd ac yn cael budd o'r manteision. |



